Mae Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru, wedi cyhoeddi ei neges Blwyddyn Newydd…
Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd.
Gobeithio bod chi wedi mwynhau Nadolig llawen a heddychlon.
Wrth i’r flwyddyn ddod i ben, rydyn ni’n gallu edrych ymlaen at 2025.
Dros y flwyddyn nesaf, byddwn ni’n cario ymlaen i ganolbwyntio ar y pethau rydych chi wedi dweud sydd fwyaf pwysig i chi.
Roedd mwy o help i’n Gwasanaeth Iechyd ar dop eich rhestr. Felly, rydym yn gwella ein trefniadau gofal iechyd er mwyn rhyddhau cleifion o’r ysbyty yn gynt a’u gweld nhw yn gyflymach, drwy leihau’r amseroedd aros.
Rydyn ni eisiau sicrhau mai Cymru yw’r wlad lle mae swyddi a thwf gwyrdd yn tyfu gyflymaf.
Rydym yn buddsoddi mewn mwy o brosiectau ynni cymunedol ac yn trawsnewid ein proses gynllunio i ddelifro prosiectau ynni gwyrdd yn gyflym iawn.
Cysylltu cymunedau
Mae cysylltu ein cymunedau yn hanfodol.
Felly rydyn ni’n parhau i ddod â threnau newydd ar y traciau a gwella ein system drafnidiaeth. Byddwn yn dod â bysiau ’nôl o dan reolaeth leol ac yn rhoi dewis lleol i chi ar 20m.y.a.
A byddwn ni hefyd yn parhau i greu cyfleoedd i bob teulu yng Nghymru.
Rydyn ni’n buddsoddi lot i ddarparu tai mwy fforddiadwy, gwella ein hysgolion a’n colegau, a chefnogi ein dysgwyr i gael gyrfa lwyddiannus.
Tu allan i Gymru, dw i’n gobeithio y bydd eleni yn dod â diwedd ar y gwrthdaro a’r trais ofnadwy sydd wedi ein dychryn ni i gyd.
Mae 2025 yn ddechrau newydd i bob un ohonom.
Mae llawer i fod yn obeithiol amdano.
Gallwn gyflawni cymaint drwy weithio gyda’n gilydd.
Diolch yn fawr a blwyddyn newydd dda.