Bydd menywod beichiog yn elwa ar ofal mamolaeth gwell wrth i ap a system cofnodion iechyd electronig newydd gael eu cyflwyno ledled Cymru.
Bydd modd i ddarpar famau weld eu cofnodion mamolaeth llawn ar unwaith ar eu ffôn drwy ap newydd.
Bydd yr ap yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf, yn benodol i’r unigolyn, ar ôl pob apwyntiad ac yn anfon negeseuon amserol i sicrhau beichiogrwydd iach.
Bydd yn disodli nodiadau papur ac yn galluogi menywod i wneud y canlynol:
- gweld apwyntiadau sydd wedi’u trefnu
- dysgu mwy am ddatblygiad eu babi a gweld datblygiadau’n wythnosol
- rhoi darlleniad pwysedd gwaed os bydd eu bydwraig wedi gofyn amdano
- personoli manylion a dewisiadau’n gyflym, gan gynnwys ble maen nhw eisiau rhoi genedigaeth ac unrhyw alergeddau sydd ganddyn nhw.
“Grymuso a rhoi llais” i ddarpar famau
“Mae’n gyffrous gweld ap newydd yn cael ei gyflwyno ledled Cymru,” meddai Sarah Murphy, Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Cymru.
“Bydd yn helpu i rymuso darpar famau a rhoi llais iddyn nhw yn eu gofal mamolaeth.
“Bydd yr ap a’r cofnod iechyd electronig yn helpu i wella ansawdd a diogelwch gofal i fenywod a babanod ledled Cymru.”
‘Y gofal iawn ar yr adeg iawn’
“I fenywod yng Nghymru, bydd cofnod digidol ar gyfer gofal mamolaeth yn fodd o gael y gofal iawn, ar yr adeg iawn, waeth ble maen nhw, gan helpu i hwyluso a chefnogi eu teithiau iechyd a mamolaeth,” meddai Sue Tranka, Prif Swyddog Nyrsio Cymru.
“Bydd hefyd yn ei gwneud yn haws i weithwyr gofal iechyd proffesiynol rannu gwybodaeth bwysig a gwneud penderfyniadau cyflym ar sail hynny, gan roi i fenywod y gofal personol y maen nhw’n ei haeddu.”
Bydd y cofnod iechyd mamolaeth electronig, sy’n cael eu cyflwyno ochr yn ochr â’r ap, yn sicrhau y bydd clinigwyr yn gallu gweld gwybodaeth angenrheidiol am feichiogrwydd, mewn amser real, i wella diogelwch mamau a babanod.
‘Gwella ansawdd gofal yn sylweddol’
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yw’r cyntaf yng Nghymru i gyflwyno’r system ddigidol newydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro fydd yr ail.
“Mae defnyddio Cofnodion Mamolaeth Digidol yn ein helpu i gefnogi mentrau iechyd y cyhoedd drwy ein galluogi i gael gafael ar ddata yn gyflym, megis nodi menywod ar gyfer brechiadau RSV, a rhoi cymorth pwrpasol i fenywod agored i niwed,” meddai Elleanor Griffiths, Uwch-arweinydd Gwybodeg Arbenigol Bydwreigiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
“Mae’r gallu i adolygu hanes menyw, anfon nodiadau atgoffa, a gweld adroddiadau cynhwysfawr yn gwella ansawdd y gofal yn sylweddol.
“Gan fod yr ap at ddefnydd y claf, mae’n grymuso menywod a phobol sy’n rhoi genedigaeth, drwy ei gwneud yn hawdd iddyn nhw gael gafael ar eu cofnodion a gwybodaeth allweddol, gan eu galluogi i wneud penderfyniadau am eu gofal ar sail gwybodaeth.”
Dylai ap a chofnod mamolaeth electronig fod ar gael ym mhob rhan o Gymru erbyn mis Mawrth 2026.