Mae’r sawl sy’n rheoli hen gartref Dylan Thomas yn Abertawe wedi talu teyrnged i Jimmy Carter, cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau, sydd wedi marw’n 100 oed.

Roedd ganddo fe ddiddordeb brwd yng ngwaith y bardd, ac fe fu’n ymweld ag Abertawe droeon, gan gynnwys yn 1995 i agor Canolfan Dylan Thomas yn y ddinas.

Does yna’r un arlywydd arall yn hanes yr Unol Daleithiau sydd wedi byw’n hirach na fe, ac fe fu’n dathlu ei ben-blwydd arbennig ym mis Hydref.

Bu farw yn ei gartref yn nhalaith Georgia, lle bu’n derbyn triniaeth ers tro am ei salwch.

Bu’n arlywydd rhwng 1977 ac 1981.

Ond ar ôl gadael y Tŷ Gwyn yng nghysgod trafferthion economaidd, aeth yn ei flaen i gwblhau gwaith dyngarol arbennig arweiniodd at ennill Gwobr Heddwch Nobel.

Mae’n gadael pedwar o blant, unarddeg o wyrion ac 14 o or-wyrion.

Bu farw ei wraig Rosalynn yn 2023 ar ôl 77 o flynyddoedd o fywyd priodasol.

‘Braint ac anrhydedd’

“Gyda thristwch mawr y clywsom am farwolaeth yr Arlywydd Jimmy Carter, oedd yn Noddwr Rhyngwladol Cartref Dylan Thomas,” meddai’r neges ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Roedd yr Arlywydd Carter yn ffan mawr o farddoniaeth Dylan, y gwnaeth ei darganfod yn swyddog ifanc yn y Llynges yn 1953, ac yn gefnogwr mawr o adferiad y Cartref.

“Roedd yn fraint ac yn anrhydedd cyfarfod ag e yng Nghanolfan Carter yn 2012, a recordio cyfweliad gyda gŵr bonheddig a hynod hoffus.

“Dyn aeth y tu hwnt i’r galw i greu gwaddol enfawr.”