Bellach, dw i wedi cyrraedd cyfnod yn fy mywyd lle dw i’n ymwybodol iawn o’r bylchau – bylchau mewn profiad, gwybodaeth, doethineb, a bylchau yn fy narllen. Nid oeddwn, er enghraifft, wedi darllen dim o waith Tolstoy na Hardy. O’r herwydd, mi ddarllenais War and Peace (fwy neu lai i gyd) a Tess of the D’Urbervilles dros yr haf. Ac, wrth feddwl am y Nadolig, mi gofiais am noson briodas Tess ac Angel Clare. Mae’r ddau wedi cyrraedd y tŷ lle maen nhw am fwynhau eu Mis Mêl, ac mae Angel Clare yn cyfaddef ei anffyddlondeb wrth Tess, ac yn deisyfu maddeuant. Mae Tess yn fodlon maddau iddo. Yn sgil cyfaddefiad Angel, mae Tess yn rhannu ag e rywbeth sydd, ers amser maith, wedi pwyso’n drwm, drwm arni – y ffaith iddi gael ei threisio a beichiogi. Er nad oes angen maddeuant arni, mae hi’n holi amdano, yn union fel roedd Angel wedi holi am faddeuant ganddi hithau. Mae Angel yn methu ymdopi â hyn. Mae e’n gadael, yn ymwrthod â hi. Mae’r briodas yn darfod cyn iddi wir ddechrau.

Mae’r stori yn f’atgoffa o stori Mair a Joseff. Wedi clywed y newyddion fod Mair yn feichiog, cwbl naturiol i Joseff oedd amau teyrngarwch ei ddyweddi. Roedd Joseff yn gwybod nad fe oedd y tad, ac os nad Joseff, rhaid felly fod yna ddyn arall yn y busnes yn rhywle… Hawdd ddigon dychmygu ffrae fawr rhyngddyn nhw. Joseff yn cyhuddo Mair o bob math o bethau, a Joseff yn cerdded allan, gan adael Mair yn ei dagrau. Y noson honno, wrth i Joseff droi a throsi, daw angel Duw ato i’w argyhoeddi i dderbyn a chredu’r amhosibl. Y bore wedyn, dyma Joseff yn dychwelyd at Mair, a’i galon yn llawn o’r cymysgedd rhyfeddaf o deimladau. Dyma Joseff yn ymddiheuro – haws wynebu’r storm yn ddau. Ond, er tegwch, roedd yn rhaid i Mair dderbyn Joseff yn ôl. Roedd hwn wedi ei hamau hi; wedi credu y buasai hi wedi mynd gyda rhywun arall. Bu hwn yn ddigon parod i’w gadael hi i wynebu’r strach i gyd ar ei phen ei hun. Roedd rhaid i Mair faddau iddo.

Nid hap a damwain yw fod Mathew a Luc yn dechrau eu hefengylau gyda’r hanesion sydd yn troi o gwmpas geni Iesu, yn hytrach na neidio i mewn i hanes ei weinidogaeth fel mae Ioan a Marc yn dewis ei wneud. Ym Mathew a Luc, mae’r Efengyl yn dechrau gyda maddeuant. Onid dyna sut y dylai’r Efengyl ddechrau? Cafodd Joseff ei demtio i ymddwyn yn yr un modd yn union ag Angel Clare. Diolch byth, fe galliodd, daeth yn ôl at Mair gan dderbyn, a dymuno cael ei dderbyn.

Dyma sut mae’r Efengyl yn dechrau – gyda maddeuant. A ninnau bellach yn troi i wynebu 2025, onid gyda maddeuant y dylid dechrau blwyddyn newydd? O dderbyn, cawn ein derbyn. O garu, cawn ein caru. O faddau, cawn faddeuant.