Ddylai pobol ddim mynd i Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli oni bai eu bod yn rhydd o symptomau’r ffliw a’u bod nhw’n gwisgo mwgwd cyn mynd i mewn i ward, yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Dylai ymwelwyr olchi eu dwylo cyn mynd i mewn i’r ward, medd y bwrdd iechyd.
Mae hyn o ganlyniad i achosion o’r ffliw.
Mae ffliw tymhorol yn effeithio ar gleifion ar sawl ward, ac mae camau atal heintiau yn cael eu cymryd.
Does dim mynediad i ymwelwyr i’r Uned Asesu Meddygol Acíwt heblaw drwy drefniant gyda phrif nyrs y ward, a bydd ceisiadau penodol i ymweld yn cael eu hystyried yn unigol.
Bydd y trefniant hwn yn cael ei adolygu’n ddyddiol, a bydd cyfyngiadau’n cael eu codi cyn gynted â phosibl.
Atal lledaeniad
“Yn y wardiau yr effeithiwyd arnynt, mae’r holl staff yn gwisgo mygydau ac mae ymweliadau’n gyfyngedig i helpu i atal y lledaeniad,” meddai Meinir Williams, Dirprwy Bennaeth Nyrsio Ysbyty Tywysog Philip.
“Gall ein cymuned leol ein helpu i osgoi achosion drwy beidio ag ymweld â theulu a ffrindiau yn yr ysbyty os ydych yn teimlo’n sâl.
“Hefyd, yn ddiamau, brechiad ffliw blynyddol yw’r ffordd orau o amddiffyn rhag dal neu ledaenu’r ffliw.
“Nid yn unig y gall eich atal rhag mynd yn sâl iawn; gall hefyd helpu i leihau eich risg o heintiau eilaidd fel niwmonia all fod yn beryglus iawn os ydych yn glinigol agored i niwed.”
Brechu a chyngor pellach
Bydd canolfannau brechu ar agor, medd y bwrdd iechyd.
Does dim angen apwyntiad ar Ragfyr 27, 30 a 31 ar gyfer pawb sy’n gymwys i gael brechlyn ffliw a Covid-19, gan gynnwys plant dwy oed (ar Awst 31, 2024) i’r rhai ym mlwyddyn 11 sy’n gallu cael gafael ar y brechlyn ffliw trwynol yn y canolfannau.
Galwch heibio unrhyw bryd rhwng 9.15yb a 5.30yp i’ch canolfan frechu agosaf.
Mae’r grwpiau canlynol yn gymwys i gael eu brechu:
Brechiad Ffliw
- Plant dwy a thair oed ar 31 Awst 2024
- Plant yn yr ysgol gynradd o’r dosbarth derbyn i flwyddyn 6
- Plant mewn ysgol uwchradd o flwyddyn 7 i flwyddyn 11
- Pobol rhwng chwe mis a 64 oed mewn grwpiau risg clinigol
- Pobol 65 oed a hŷn (oed ar 31 Mawrth 2024)
- Merched beichiog
- Gofalwyr 16 oed a throsodd
- Pobol rhwng chwe mis a 65 oed sy’n byw gyda rhywun sydd â system imiwnedd wan
- Pobol ag anabledd dysgu
- Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
- Pob aelod o staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal gyda chyswllt rheolaidd â chleientiaid
- Gweithwyr dofednod mewn risg uchel
Brechiad COVID-19
- Pobol rhwng chwe mis a 64 oed sydd â chyflwr iechyd hirdymor (sy’n cynnwys menywod beichiog a phobol â system imiwnedd wan)
- Preswylwyr mewn cartref gofal i oedolion hŷn
- Pobol 65 oed a hŷn (ar Fawrth 31, 2025)
- Gofalwyr di-dâl
- Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
- Staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gael mynediad at y brechlyn ffliw a/neu COVID-19, ffoniwch y bwrdd iechyd ar 0300 303 8322 opsiwn 1 neu e-bostiwch: ask.hdd@wales.nhs.uk