Noel Thomas, y cyn is-bostfeistr o Fôn gafodd ei ddal yng nghanol sgandal Horizon Swyddfa’r Post, fydd gwestai arbennig Elin Fflur yn y bennod nesaf o Sgwrs Dan y Lloer nos Sul (Rhagfyr 29).
Yn ystod y rhaglen, mae’n disgrifio’r profiad o gael ei urddo’n aelod o Orsedd y Beirdd fel un o uchafbwyntiau ei fywyd.
“Fel Cymro Cymraeg, fedrwn i’m cael dim gwell,” meddai.
“Wnes i ddim meddwl base’r fath beth yn digwydd mae raid i mi ddweud.”
Mae hefyd yn cyfeirio at yr achlysur yn gynharach eleni o dderbyn gradd er anrhydedd gan Brifysgol Bangor fel achlysur sydd wedi bod yn drobwynt yn ei fywyd.
“Wnes i erioed feddwl baswn i yng nghanol pobol sy’n fwy dawnus na fi, fel hogyn cyffredin yn cael fy Doctorate. Dr Noel!
“Wnes i erioed feddwl fyswn i’n cael y fath air o ‘mlaen! Achos Noel Post dw i wedi bod drwy’n oes.
“Fysa ‘Nhad wedi dychryn! Fase fo wrth ei fodd, ond eto fasa fo’n dweud, ‘Argian, rwyt ti’n rwdlan! Fysa’n anrhydedd iddyn nhw hefyd!”
Sgandal Horizon
Cafodd Noel Thomas ei ddedfrydu i naw mis o garchar yn 2006, ar ôl i £48,000 fynd ar goll o’i gyfrifon.
Daeth i’r amlwg yn ddiweddarach bod hyn o ganlyniad i nam ar feddalwedd Horizon Swyddfa’r Post.
Yn y rhaglen, mae’n disgrifio’r profiad o fynd i garchar Walton.
“O’n i fod i fynd i Altcourse, carchar agored, ond yn anffodus doedd dim lle, a mi landish i yn Walton – uffern ar y ddaear, a bod yn onest.
“Fues i yna am wyth diwrnod, a ges i’n hel i Kirkham wrth ymyl Blackpool.
“Ond yn yr wyth diwrnod yna yn Walton, ro’n i’n gorfod cael fy nghau mewn bron drwy’r dydd.
“Ro’n i’n rhannu efo Ian – Sgowsar, a mae’n rhaid i mi ddweud, os fyswn i’n cyfarfod Ian rŵan, faswn i’n falch iawn o ysgwyd ei law o, achos mi gadwodd o fi fynd.
“A chwarae teg iddo, mi ro’th fi ben ffordd.
“Mi fuodd o’n gefn mawr i mi yn y dechrau tywyll yna.”
Carchar wedi gadael ei ôl
Mae Noel Thomas yn dweud i’r profiad o fynd i’r carchar adael ei ôl arno am y tair blynedd wedi hynny.
“Oedd hi’n anodd iawn trio gwybod sut i ddelio efo pethau,” meddai.
“Do’n i ddim yn licio cau drws. O’n i ddim yn licio cael fy nghau fewn.
“Lwcus mod i’n byw yn rhywle fel Sir Fôn; ro’n i’n mynd allan a cerdded, a diflannu am dipyn o oriau; dyma ffordd o’n i’n cael dros y peth.”
Cafodd ei euogfarn ei gwrthdroi yn 2021, ac mae Noel Thomas yn cofio’n ôl i’r diwrnod “anhygoel” pan gafodd ei enw ei glirio, a daeth tro ar fyd.
“Dw i wedi bod i fyny’r ystôl; i lawr yr ystôl, a diolch i’r nefoedd rydan ni ’nôl bron iawn ar y top rŵan.
“Mae’n rhaid i mi ddiolch i ‘nheulu ac i fy ffydd.”