Roedd bonllef o gymeradwyaeth i is-bostfeistr ym Mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mhontypridd, wrth iddo gael ei dderbyn i’r Orsedd fore heddiw (dydd Gwener, Awst 9).

Cododd y gynulleidfa yn y Pafiliwn ar eu traed i gymeradwyo Noel Thomas, o’r Gaerwen, Ynys Môn, am rai munudau.

Roedd ymhlith y 49 o bobl gafodd eu harwisgo yng ngwisg las neu wyrdd yr Orsedd gan Mererid Hopwood, Archdderwydd Cymru, yn ystod seremoni arbennig yn yr Eisteddfod ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd.

Cafodd ceisiwr lloches, darlledwr poblogaidd a chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru a’i mam eu derbyn i’r Orsedd yn yr un seremoni.

Sgandal

Clywodd yr Archdderwydd fod Noel Thomas wedi “gwasanaethu ei gymuned yn gydwybodol ac anhunanol am flynyddoedd lawer fel is-bostfeistr a chynghorydd sir”.

Ond yn 2006, cafodd ei ddiswyddo gan Swyddfa’r Post a’i garcharu am gyfrifo ffug.

Nid tan Ebrill 2021 y cafodd ei enw da ei adfer, pan gafwyd e’n ddieuog o bob cyhuddiad yn ei erbyn yn y Goruchaf Lys.

“Fel postmon, roeddwn i’n adnabod sawl aelod o’r Orsedd, pobol oedd wedi ennill gwobrau am farddoniaeth ac ati yn yr Eisteddfod, ond wnes i erioed feddwl y byddwn i’n cael gwahoddiad i ddod yn aelod fy hun,” meddai.

“Mae hon yn anrhydedd enfawr i mi, ac rwy’n eithaf emosiynol amdano.”

Mae wedi dewis Noel o’r Iard fel ei enw barddol, gan adlewyrchu’r enw gwreiddiol am Malltraeth, y pentref ar arfordir gorllewinol Ynys Môn lle cafodd ei eni.

Wrth iddo gamu i’r llwyfan i dderbyn yr anrhydedd, safodd y Pafiliwn cyfan ar eu traed i ddathlu ei dderbyn i Orsedd Cymru.

Noel Thomas a’i deulu

Mam a merch

Elinor Snowsill a Nerys Howell

Roedd yn ddathliad arbennig i’r fam a merch, Nerys Howell ac Elinor Snowsill.

Cafodd Nerys Howell ei magu yn y Rhondda, ac mae wedi ysgrifennu sawl llyfr coginio yn defnyddio cynhwysion Cymreig, ac yn ymddangos yn gyson ar y teledu.

Tan ei hymddeoliad diweddar o rygbi proffesiynol, Elinor Snowsill oedd un o chwaraewyr amlycaf tîm merched Cymru.

“Mae’n anrhydedd i fod yn aelod o’r Orsedd ac i gael fy arwisgo yn yr Eisteddfod yn fy ardal enedigol yn ei gwneud yn llawer mwy emosiynol,” meddai Nerys Howell.

“Ac i Elinor gael ei harwisgo ar yr un diwrnod yn ei gwneud yn fwy arbennig.”

Ychwanega Elinor Snowsill nad oedd hi erioed wedi meddwl y byddai’n cael ei gwahodd i fod yn aelod o’r Orsedd.

“Wnes i erioed feddwl am eiliad, ond rwy’n hynod falch o dderbyn a chael fy arwisgo gyda fy mam,” meddai.

“Mae hi’n llwyr haeddu’r anrhydedd.”

Ceisiwr lloches ddaeth yn gadeirydd Cymdeithas yr Iaith

Joseph Gnabo

Ymgartrefodd Joseff Gnagbo, ceisiwr lloches o’r Côte d’Ivoire, yng Nghaerdydd chwe blynedd yn ôl, a dechreuodd ddysgu Cymraeg ar unwaith.

Ac yntau bellach yn siarad Cymraeg hyderus, mae wedi dod yn diwtor Cymraeg ac ers yr hydref diwethaf mae wedi bod yn gadeirydd Cymdeithas yr Iaith.

“Cyrhaeddais Gymru heb wybod dim am yr iaith na’r Eisteddfod,” meddai.

“Rwyf wedi bod i’r Eisteddfod sawl gwaith ers cyrraedd Cymru ac yn falch iawn o ddod yn aelod o’r Orsedd.

“Rwy’n teimlo’n rhan o’r gymuned Gymraeg.”

Ffrindiau bore oes

Arwisgwyd y ffrindiau bore oes Dafydd Trystan a Rhuanedd Richards yn yr Orsedd.

“Rydyn ni wedi adnabod ein gilydd ers pan oedden ni’n dair oed pan oedden ni yn yr ysgol feithrin yng Nghwm Cynon ac rydw i mor falch ein bod ni’n dau yn ymuno â’r Orsedd ar yr un pryd,” meddai Rhuanedd Richards.

Ychwanega Dafydd Trystan, sy’n dathlu ei ben-blwydd ddydd Sadwrn (Awst 10) ei fod yn “falch iawn o dderbyn y gwahoddiad i ymuno â’r Orsedd”.

Dafydd Trystan a Rhuanedd Richards

“Wythnos gyffrous” i athrawes

Bu’n wythnos brysur i Catrin Rowlands, athrawes yn Ysgol Gyfun Llanhari.

“Mae wedi bod yn Eisteddfod gyffrous i mi ac i’r ysgol,” meddai.

“Enillodd y cyn-ddisgybl Gwynfor Dafydd y Goron ddydd Llun, ac rydym yn lansio ein dathliadau 50 mlwyddiant.

“Ac mae cael fy arwisgo yn yr Orsedd yn eisin ar y gacen i mi.”

Cyn-athro ddaeth yn ddarlledwr

Er bod Gerallt Pennant yn hanu o Eifionydd, bu’n dysgu yn Ysgol Gymraeg Ynys-wen, Cwm Rhondda am gyfnod, cyn symud i fyd y cyfryngau.

Mae’n wyneb cyfarwydd ar rai o raglenni mwyaf poblogaidd S4C, ac mae ei raglen wythnosol ar Radio Cymru, Galwad Cynnar, wedi ysbrydoli cenedlaethau o wrandawyr.

Dywed ei fod yn “falch iawn o fod yn aelod o’r Orsedd, mae’n anrhydedd fawr”.

Ymhlith y rhai eraill a urddwyd oedd Helena Migu lez-Carballeira, yn wreiddiol o Galicia, ac yn darlithio mewn Astudiaethau Sbaeneg ym Mhrifysgol Bangor.

Mae hi wedi cyfrannu’n helaeth i ddisgyblaeth astudiaethau cyfieithu, ac yn bennaf trwy ei hymdrechion, mae’r Gymraeg yn rhan o’r disgwrs rhyngwladol yn y maes hwn.

Mae Mike Parker yn hanu o Kidderminster yn Swydd Gaerwrangon, ond bellach yn byw ym Machynlleth.

Mae wedi cael ei swyno gan fapiau ers yn blentyn ac wedi ymroi i ddysgu Cymraeg.

Mae Gill Griffiths, Pentyrch wedi bod yn aelod gweithgar o Ferched y Wawr, ac yn ystod ei chyfnod fel Llywydd Cenedlaethol y mudiad, cododd ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwaith Cymorth Cristnogol drwy annog aelodau i gasglu bagiau a’u gwerthu er budd y mudiad.

Mae David Roberts, Caerffili ond yn wreiddiol o Landudno, wedi gweithio ym myd addysg Gymraeg yn y Rhondda a Chwm Taf ers bron i 30 mlynedd, gan ddysgu Cymraeg i filoedd o blant, llawer ohonyn nhw’n dod o gartrefi di-Gymraeg.

Roedd yn arweinydd ar raglen Ffit Cymru yn 2019, gan ysgogi miloedd o bobol i fyw bywyd iachach.