Mae un Eisteddfodwr yn honni ei fod am ddechrau ei gwmni crysau T Cymraeg ‘oherwydd y diffyg masnachwyr Crysau T Cymraeg ar y maes eleni.’

Ar ei gyfrif Facebook, mae Edward Howell Jones yn dweud ei fod yn bwriadu cyhoeddi nifer gyfyngedig o 150 crys o gynllun unigol.

Ymysg y cynlluniau crys-T mae wedi’u cyhoeddi ar Facebook mae llun lleian yn smocio â’r geiriau ‘Wela i di yn Llangrannog Cariad’; cynllun dail mariwana ag arno’r geiriau ‘Fel cae yn llawn o weed’, a chynllun ‘Bach o Bach o Hwne’ – geiriau o gân reggae boblogaidd Morgan Elwy.

Mae’n dweud y byddan nhw’n gwerthu crysau cotwm trwm organig sy’n rhydd o lafur plant a phla-leiddiaid, “wedi ei sgrîn-argraffu yng Nghymru gan Gymry”.

Fe fydd logo’r cwmni ar waelod cefn pob crys.

Mae rhai pobol ar Facebook yn amau mai jôc yw’r peth, ac wedi gofyn iddo a yw o ddifri, ond mae’r cynllunydd yn dweud y bydd modd i bobol archebu’r crysau newydd ar www.cwteigrys.cymru ar Fedi 1 ac y bydd “pob prynwr o’r crys ‘Bach o bach o hwne’ yn cael pecyn o Rizla wedi ei arwyddo gan Morgan Elwy”.

Dim Cowbois ar y maes

Mae cwmni Cowbois, cwmni crysau-t Cymraeg sydd yn rhedeg stondin hynod boblogaidd ar faes yr Eisteddfod bob blwyddyn, wedi dagtan ar eu gwefan eu bod am gymryd hoe am flwyddyn.

Yn ôl eu gwefan, maen nhw “wedi penderfynu cymryd blwyddyn allan – mynd dros y paith i weld be sy’ tua’r gorllewin. Wela ni chi’n fuan”.

Mae’r neges Saesneg yn dweud, “We’re taking a year out – in search of new adventures, pints of Guinness and king creosote – it’ll be fun. See you soon.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Wyn ap Gwilym o gwmni Cowbois pam nad oedden nhw â stondin ar faes yr Eisteddfod eleni.

“Dim rheswm,” meddai, gan ychwanegu nad yw’n siŵr pryd fyddan nhw’n ailafael yn y gwaith gwerthu, ond doedden nhw am wneud sylw pellach.

Ond cadarnhaodd fod ganddyn nhw gynlluniau crys-T newydd ar y gweill.