Fydd dim perfformiadau ar Lwyfan y Maes yr Eisteddfod Genedlaethol am weddill y diwrnod heddiw (dydd Iau, Awst 8) yn sgil y glaw.

Mae’r Eisteddfod yn dweud mewn datganiad eu bod nhw wedi bod yn “gweithio’n galed i geisio ffeindio llwyfannau addas i symud artistiaid Llwyfan y Maes” yn sgil y tywydd gwael.

Meinir Gwilym oedd i fod i gloi’r noson, a bydd hi nawr yn perfformio yn y Pafiliwn am 9:30 heno ar ôl i’r cystadlu ddod i ben.

Bydd Griff Lynch yn perfformio am 6 o’r gloch ym Maes D, a Rogue Jones yn ei ddilyn am 8 o’r gloch.

Fydd Eädyth ddim yn perfformio tan dydd Sadwrn.