Yr actores a sgriptwraig Hannah Daniel sydd wedi bod yn rhannu ei hatgofion bwyd yr wythnos hon. Mae hi’n adnabyddus am actio mewn cyfresi fel Y Gwyll ac Un Bore Mercher ac, yn fwy diweddar, bu’n actio’r prif gymeriad yn y cynhyrchiad theatr Fy Enw i yw Rachel Corrie. Ym mis Rhagfyr fe fydd drama drosedd newydd sbon Ar y Ffin yn dechrau ar S4C, wedi ei chreu a’i sgwennu gan Hannah a Georgia Lee. Cafodd Hannah ei magu yng Nghaerdydd ac mae’n byw yno bellach gyda’i phartner, yr actor Richard Harrington a’u plant…
Ma’ gyda fi atgofion melys iawn o fynd ar wylie fel plant i Ffrainc gyda’r teulu – fi, fy mrawd Mathew, Mam, Dad, Mam-gu a Tad-cu. Roedd fy Nhad [y darlledwr a’r cynhyrchydd teledu Emyr Daniel] yn ddyn oedd yn gwbod sut i joio’i hun a dw i’n cofio o oedran cynnar iawn, gwylio’n geg agored wrth i blatiad Fruits De Mer gyrraedd y bwrdd, yn edrych fel rhywbeth allan o lyfr chwedl. Tair haen o fwyd môr moethus, oedd yn fwy na fi, siŵr o fod. Dad yn iste fi ar ei lin ac yn dangos imi sut i ddad-blisgo’r corgimwch, sut i dynnu’r capan oddi ar y whelks. Dw i dal wrth fy modd â bwyd y môr hyd heddiw. Ac wedi etifeddu ei ‘benchant’ am amser ffansi… Er, dw i’m yn ordro’r Plateau De Fruits De Mer yn ddigon amal!
Roedd Mam a Dad yn coginio adre – lot o gawl, sbag bol, pastai bwthyn – bwyd cartrefol, cynnes do’n i’m yn gwerthfawrogi ar y pryd, mae’n siŵr. Roedd Mam yn credu’n gryf mewn maeth i’w phlant felly roedd lot o lysiau, dim digon o e-numbers! Er ein bod ni’n cwyno fel plant – mae’n sicr wedi fy nylanwadu a dw i’n ail-orfodi’r un artaith ar fy mhlant fy hun erbyn hyn.
Dw i’n dwli ar wres tsili, a sbeisys De Ddwyrain Asia. Mae fy mhartner yn gogydd da, ac mae e’n gneud Pho anhygoel. Pan dw i’n teimlo bo angen maeth arnaf, dyma dw i’n gofyn amdani. Mae’n berwi esgyrn pysgod mewn pot mawr llawn sbeisys, sinsir, tsili a garlleg, ac yna’n llenwi powlen gyda’r broth, ychwanegu nwdls, pak choi, coriander, shibwns, madarch, pupur coch a darn o bysgodyn wedi ffrio. Llwyth o Sriracha ar ei ben… ffisig bywyd.
Fy mhryd delfrydol fyddai pysgod ffres, wrth y môr. Salad ar yr ochor. Gwin gwyn oer. Rhywle poeth – Groeg? De Sbaen? Yr Eidal? Dw i’m yn ffysi.
Mae un o fy ffrindiau gore yn chef ac mae blas arbennig ar ei bwyd hi. Mae popeth mae hi’n ei gyffwrdd yn y gegin yn troi’n nefoedd pur – mae hyd yn oed brechdan bacwn gan Ellen yn blasu’n arallfydol. Mae gyda hi fwyty ei hunan erbyn hyn yn Clapton, Dwyrain Llundain o’r enw Lucky & Joy. Bwyd anhygoel o wahanol ranbarthau China sydd ar y fwydlen. Pob tro dw i’n bwyta yno dw i’n cael fy nghludo yn syth nôl i fy ugeiniau, yn byw yn Llundain yn blasu a phrofi ei bwyd hi fel oedd hi’n tyfu fel cogydd. Cyfnod bywyd melys, rhydd, heb gyfrifoldeb nag ots yn y byd!
Dw i fel arfer yn gofyn i’m mhartner goginio os oes pobl yn dod draw am fwyd! Ond os ddim, na’i farineiddio cyw iâr a’i rhostio (aubergine a feta i’r llysieuwyr) a gneud llwyth o salads, a flatbreads iogwrt Jamie Oliver (neu brynu flatbreads ffres o’r siop anhygoel ar Cowbridge Road!)
Mae gan Ellen rysait salad hawdd a hyfryd – rhostio moron cyfan gyda llwyth o olew olewydd a hadau cwmin ar wres uchel, nes bod y moron wedi troi’n reit dywyll. Yna’u torri nhw’n flêr, cymysgu sudd lemwn a garlleg wedi ei stwnsho mewn i iogwrt trwchus, taflu’r gymysgedd ar ben y domen o foron gyda llwyth o goriander. Platiad lliwgar, syml sy’n edrych a blasu yn drawiadol.
Mae’r gyfres Ar y Ffin yn dechrau ar S4C ar 29 Rhagfyr