Mae protestiadau’r ffermwyr yn erbyn y Llywodraeth Lafur yn Llundain yn ymwneud â llawer mwy na’r newidiadau arfaethedig i’r dreth etifeddiaeth.

Mae’r ymadrodd ‘y gwelltyn olaf’ wedi ymddangos sawl gwaith yn y gwrthdystiadau yn Llandudno a Llundain, wrth i ffermwyr ddangos eu bod yn teimlo fwyfwy dan warchae.

Mae hyn yn dilyn camgymeriadau difrifol gan Lywodraeth Lafur Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, wrth roi’r argraff eu bod yn fodlon aberthu hyfywedd y diwydiant gyda chynlluniau fel gorfodi plannu coed ar dir amaethyddol da.

Yn yr un modd, mae parodrwydd Llywodraeth Cymru i hyrwyddo twristiaeth ar draul popeth arall wedi cyfrannu at amheuaeth eu bod yn gweld cefn gwlad fel lle i bobol y dinasoedd hamddena, ac nid fel lle i gynhyrchu bwyd.

Mae’n ymddangos hefyd nad oes unrhyw ymdrech i weithredu yn erbyn buddsoddwyr cefnog o’r tu allan i Gymru, sy’n prynu tir amaethyddol er mwyn cael grantiau i blannu coed neu osgoi trethi. Pe bai’r Trysorlys yn dangos bwriad i dargedu buddsoddwyr o’r fath yn lle ffermydd teuluol, byddai llawer mwy o gefnogaeth i’w cynlluniau.

Mi fydden nhw mewn sefyllfa lawer cryfach i ddadlau eu hachos dros godi trethi etifeddiaeth hefyd pe bai llywodraethau Llafur wedi dangos mwy o ymrwymiad at amaethyddiaeth a chefn gwlad dros y blynyddoedd.

Egwyddor digon teg

O ran egwyddor, mae’n ddigon teg a rhesymol fod y bobol gyfoethocaf yn gorfod talu treth ar eiddo maen nhw’n ei etifeddu. Does gan ffermwyr chwaith ddim hawl i ddisgwyl cael eu heithrio o bob ymrwymiad sy’n syrthio ar weddill y boblogaeth.

Ni ellir gwadu chwaith fod rhai ffermwyr wedi bod yn hynod farus wrth brynu unrhyw dir sy’n mynd ar werth. Yn wir, mae ffermwyr cyfoethog wedi bod mor euog â neb pan edrychwn o ddifrif ar sut mae ffermydd teuluol wedi chwalu. Yn aml, gelyn mwyaf ffermwyr bach ydi ffermwyr mwy. Mewn byd delfrydol, gallai codi treth ar dir ychwanegol y ffermwyr cyfoethocaf gyfrannu at helpu ffermwyr llai.

Dadl y llywodraeth ydi mai dim ond y ffermwyr cyfoethocaf fydd yn cael eu taro gan y dreth newydd. Ar y llaw arall, mae’r undebau’n dadlau y bydd y newidiadau i’r dreth yn llawer mwy pellgyrhaeddol na hynny, ac y byddan nhw’n effeithio ar lawer iawn mwy o ffermydd teuluol. Gallai hynny olygu llawer mwy nag ergyd ariannol, gan y gallai orfodi ffermwyr i werth tir gan arwain at chwalu ffermydd a dirywiad pellach yn y gymdeithas yng nghefn gwlad.

Daw’n fwyfwy amlwg nad ydi’r Llywodraeth ei hun yn sicr o’i ffeithiau o ran faint o ffermwyr fydd yn cael eu taro. Mae hyn yn sicr yn ychwanegu at ddrwgdybiaeth sydd wedi deillio o’r holl esgeulustod at gefn gwlad dros y blynyddoedd. Gan fod diffyg ffydd yn y Blaid Lafur, amheuon llawer o ffermwyr ydi y byddai’r newidiadau hyn yn arwain at godi mwy a mwy o drethi arnyn nhw yn y dyfodol.

Annoethineb

Am yr holl resymau uchod, mae’n amlwg fod gan ffermwyr bob cyfiawnhad dros fod yn ddrwgdybus o fwriadau’r Llywodraeth. Er hyn, mae angen iddyn nhw fod yn gall a gofalus o ran maen nhw’n ennill a chadw cefnogaeth y cyhoedd.

Yn sicr, mae rhai o’u gwrthdystiadau yn gallu ennyn rhywfaint o sinigiaeth.

Go brin mai gorymdaith o dractors sydd wedi costio o leiaf £100,000 yr un yw’r ffordd orau o gyfleu’r neges fod ffermwyr yn wynebu tlodi a chwalfa! Maen nhw hefyd yn dangos dirmyg at ymrwymiad i ddiogelu’r amgylchedd.

Nodwedd anffodus arall y gwrthdystiadau hyn ydi’r holl wleidyddion sy’n neidio at y cyfle i smalio bod yn ffermwyr am y diwrnod trwy wisgo dillad brethyn cartref drud a wellingtons sgleiniog ar balmentydd glân.

Mae’n sicr fod y Torïaid yn gweld hyn fel cyfle i adennill cefnogaeth yng nghefn gwlad, er eu bod nhw lawn mor gyfrifol am argyfwng y byd amaeth ar ôl bod mewn grym yr holl flynyddoedd.

Diddorol, er hynny, oedd adroddiadau bod trefnwyr y rali yn Llundain wedi gwrthod rhoi llwyfan i Nigel Farage, arweinydd Reform, annerch y dorf – er gwaethaf ei holl ymdrechion i wisgo fel sgweiar gwledig.

Mae’n sicr ei fod yn gweld cyfleoedd i fanteisio ar ddicter ffermwyr, ond mae’n ymddangos bod yr undebau wedi bod yn ddigon doeth i weld peryglon uniaethu eu hunain yn ormodol â gwleidydd mor ddadleuol.

Arweiniad gwleidyddol

Yr hyn sydd ei angen ar y diwydiant yn fwy na dim ydi arweiniad gwleidyddol cadarn.

Fel tirfeddianwyr, gellir deall i raddau ymlyniad rhai ffermwyr at wleidyddiaeth fwy ceidwadol a’u drwgdybiaeth traddodiadol o Lafur. Mae’n sicr fod rhethreg rhyfel dosbarth Llafur yn y gorffennol wedi cyfrannu at ddiwylliant o’r fath. Go brin fod ei delwedd a’i diwylliant metropolitanaidd presennol chwaith yn gwneud llawer i ennyn hyder ffermwyr.

Ar y llaw arall, rhaid i ffermwyr sylweddoli hefyd bod eu cymorthdaliadau yn dibynnu ar incwm ddaw o drethiant, ac nad yw economi trethiant isel yn gydnaws â’u buddiannau.

Yn yr un modd, mae cefnogaeth y Torïaid i Brexit wedi bod yn drychinebus i’r diwydiant yn sgil colli marchnadoedd yn Ewrop. Dylai fod yn amlwg nad ydyn nhw’n cynnig dim gwaredigaeth.

Mae hyn yn fwy gwir fyth yn achos Reform. Dylai fod yn amlwg i bawb mai bleiddiaid rheibus yng ngwisg defaid ydi’r rhain i’r diwydiant amaeth – ac mae angen archwilio pen unrhyw ffermwr sy’n eu cefnogi!

Prif gymhelliad gwleidyddol y blaid hon ydi rhwygo pob cysylltiad, gan gynnwys cysylltiadau masnachol, â gwledydd eraill Ewrop, gan wneud allforio yn fwy anodd fyth.

Mae Nigel Farage wedi dweud ar goedd hefyd y byddai’n ffafrio cytundeb masnach rhwng Prydain ac America Donald Trump. Hanfod cytundeb o’r fath fyddai caniatáu mewnforio cigoedd rhad yn llawn sothach cemegol o America – fyddai’n ergyd lawer mwy difrifol i’n ffermwyr nag unrhyw dreth etifeddiaeth.

Cyfle i Blaid Cymru?

Mae’n ddigon posibl mai Plaid Cymru sydd yn y sefyllfa gryfaf i allu manteisio ar yr anfodlonrwydd mewn ardaloedd gwledig.

Gall ddadlau mai agweddau cenedlaetholgar Seisnig pleidiau fel y Torïaid a Reform sy’n bennaf gyfrifol am y llanast rydan ni ynddo. Gall hefyd gadarnhau ei hymrwymiad i ail-greu cysylltiadau ag Ewrop fel neges gwbl ganolog iddi, ynghyd â gwrthwynebu unrhyw fath o gytundeb masnach gyda Trump.

Oherwydd y ddrwgdybiaeth at y Blaid Lafur mewn ardaloedd gwledig, byddai angen i Blaid Cymru ddatgan yn glir y byddai’n gosod amodau llym arni mewn unrhyw drafodaethau cydweithio yn y Senedd ar ôl etholiad 2026. Byddai’n rhaid iddi argyhoeddi pleidleiswyr gwledig y gallai orfodi Llafur i gynnig gwell chwarae teg i gefn gwlad.

Byddai’n werth iddi hefyd alw am newidiadau yn y ddeddf i’w gwneud yn bosibl gwahaniaethu rhwng corfforaethau mawr ac unigolion cyfoethog sy’n buddsoddi mewn tir yng nghefn gwlad Cymru a theuluoedd cynhenid sydd wedi amaethu yno ers cenedlaethau. Gallai ymgyrch yn erbyn goresgyniad y corfforaethau a’r cyfoethogion hyn ennyn yr un math o gefnogaeth â galwadau am ddatganoli ystad y Goron i Gymru neu yn erbyn ail gartrefi.

Yn ogystal â chryfhau ei chefnogaeth yn y Gymru Gymraeg, gallai neges o’r fath apelio at bleidleiswyr mewn ardaloedd mwy Saesneg eu hiaith fel rhannau o Bowys. Yn aml, gall Cymry di-Gymraeg deimlo’r un math o fygythiad i’w hunaniaeth wrth weld eu tir yn cael ei golli i estroniaid mewn ardaloedd o’r fath.

Ar hyn o bryd, mae’n ymddangos mai cymharol wan ydi rhagolygon Plaid Cymru mewn ardaloedd ôl-ddiwydiannol fel cymoedd y de. Efallai mai ei chyfle gorau i gadarnhau ei chefnogaeth, felly, fydd fel y llais cryfaf a mwyaf dibynadwy dros y Gymru wledig.