Gwelwn hoodies a chrysau-T Hollister ym mhob man. Mae pob lliw a llun o bobol yn falch o wisgo Hollister. Abercrombie & Fitch sydd yn gyfrifol am Hollister. Cafodd y brand ei lansio yn 2000 ac, o ganlyniad i farchnata dygn a chlyfar, mae Hollister bellach yn llwyddiant byd-eang.
Mae hoodies Hollister yn lled debyg i hoodies Matalan, er enghraifft; ond mae yna wahaniaeth pris sylweddol iawn rhwng y naill a’r llall. Mae’r enw Hollister yn golygu rhywbeth i bobol, rhywbeth gwerth talu’n ddrud amdano: stori. Cynigia Hollister naratif i fyw wrtho, stori i’w pherchnogi.
Dyma’r stori’n fras:
Ganed John M. Hollister ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a threuliodd hafau hirfelyn ei lencyndod yn nhalaith Maine yn yr Unol Daleithiau.
Bachgen llawn asbri ydoedd, anturus, a thra golygus.
Graddiodd o brifysgol Yale yn 1915, ond trodd ei gefn ar yrfa ddiogel gan fentro’n hytrach i deithio’r byd. Wedi cyrraedd pendraw’r byd, cyfarfu â Meta, a syrthio dros ei ben a’i glustiau mewn cariad – priodi, a dychwelyd i Los Angeles, ac agor siop yn Laguna Beach, California yn 1922.
Maes o law, ganed mab i John a Meta, sef John Hollister Jr. Pan ddaeth y mab i oed, cafodd gyfle i redeg y siop. Roedd John Jr. yn syrffiwr tan gamp, ac yn chwip o ddyn busnes. Gwelodd gyfle i werthu nwyddau syrffio a dillad o ansawdd arbennig iawn yn y siop. Daeth llwyddiant sylweddol. O’r siop fechan honno y tyfodd a datblygodd y brand byd-enwog Hollister – HCo.
Dyna’r stori. Ffuglen! Nid oes iddi ronyn o wirionedd. Crëwyd y fictional backstory hon gan Abercrombie & Fitch i gynnal a gwerthu’r brand newydd (gwnaethon nhw yr un peth, gyda llaw, wrth lansio’r brand Gilly Hicks). Cafodd yr enw Hollister ei greu gan ddewiniaid hysbysebu Abercrombie & Fitch, a chyd-ddigwyddiad pur oedd fod yna dref ger San Francisco o’r enw… Hollister.
Yn y Los Angeles Times, cafodd stori ei chyhoeddi, a honno’n stori wir am y drafferth gododd rhwng Abercrombie & Fitch mawr a pherchennog siop fechan yn nhref Hollister. Dechreuodd honno werthu jîns vintage o dan yr enw Rag City Blues: Hollister. Roedd Abercrombie & Fitch yn anfodlon iawn, gan mai nhw oedd piau’r enw Hollister. Lletchwith hyn, ac mewn ymdrech i oresgyn y lletchwithdod, cafodd Abercrombie & Fitch wahoddiad gan arweinwyr tref Hollister i agor siop Hollister yn Hollister. Cafodd y cynnig ei wrthod. Nid addas, efallai, oedd agor siop Hollister mewn tref fechan ddi-sôn-amdani fel Hollister.
Er na fu tref Hollister yn deilwng o gael siop Hollister, mae’r dref honno’n real, a phobol real yn byw ynddi, a rheiny’n cynnal cymuned ac yn cael eu cadw ganddi – nid fictional backstory mo tref Hollister.
Stori sy’n apelio
Beth a wnelo hyn â’r golofn grefyddol hon?
Wel, mae’r fictional backstory yn apelio. Buasai’n braf cael creu, i ni’n hunain, stori am yr hunan yr hoffem fod, stori i werthu’r hunan delfrydol hwnnw i eraill. Mae’r apêl yn amlwg, ac amlwg hefyd yw’r duedd i wneud hynny! Mae nifer fawr ohonom yn byw i gynnal ein fictional backstory.
Myn y ffydd Gristnogol fod Duw yn ein caru fel ag yr ydym. Bod yn Gristion yw hepgor ein fictional backstory, a chydnabod yr hyn ydym: pechadur, ie, ond pechadur mae Duw yn ei garu yn angerddol.
Beth a wnelo hyn â’r eglwys leol?
Wel, mae pobol yn falch o wisgo Hollister. Mae pobol y capel hefyd yn falch o wisgo enw – enw sydd, iddyn nhw, yn werthfawr: ‘Ebeneser’; ‘Salem’, ‘Tabernacl’, ‘Seion’, ‘Horeb’, ‘Minny Street’ (rydym yn dda iawn am hyn ac yn hapus i wneud). Ac er mor naturiol, felly, y duedd i sôn am ‘bobol Salem’ neu ‘bobol Seion’, rhaid cofio hyn: pa enw bynnag sydd ar ‘ein capel ni’, ‘Eglwys Iesu Grist’ ydym un ac oll (nid ydym yn dda o gwbl am hyn; anfodlon ydym i dderbyn gwir oblygiadau hyn oll, nac ychwaith ganlyniadau ei anwybyddu).
Ildio’n barhaus i fod yn ‘bobol Iesu Grist’ yw’r unig lwyddiant i ymgyrraedd ato:
Gwisgwch amdanoch yr Arglwydd Iesu Grist.
(Rhufeiniaid 13:14; WM)