Beth sydd gan bapurau newydd The Guardian a La Vanguardia, Clwb Pêl-droed FC St Pauli o’r Almaen, yr actores Jamie Lee Curtis a’r awdur Stephen King yn gyffredin? Mae’r cwbl lot wedi cau eu cyfrifon X (Twitter gynt) yn ddiweddar, gan alw’r rhwydwaith yn “beiriant casineb” a “siambr adlais” y damcaniaethwyr cynllwyn. Roedd penaethiaid La Vanguardia o Barcelona wedi sylwi ar gynnydd dramatig mewn ‘botiaid’ (ffurf fer ar ‘robot’, darn o feddalwedd gafodd ei chynllunio i gyflawni tasg ailadroddus yn awtomatig) a chyfrifon ffug yn ymateb i straeon am lifogydd dinistriol Sbaen laddodd tua 200 o bobol yn gynharach yn y mis.
Y cyfan yn deillio o bryniant Elon Musk, y “free speech absolutionist”, chwadal yntau, o rwydwaith Twitter am $44bn (£35bn) yn 2022; pryniant wnaeth ysgwyd Cwm Silicon i’r byw, gan arwain at ddiswyddo 6,000 neu 80% o’r gweithlu yng Nghaliffornia – yn enwedig staff arferai gymedroli negeseuon tramgwyddus – a chau’r adran amrywiaeth a chynhwysiant yn llwyr. Y canlyniad yw talwrn ymladd ceiliogod ar-lein. Pawb a’i farn Farage-aidd. A pheiriant propaganda’r darpar Arlywydd Trump, sydd newydd benodi Musk yn arweinydd y ‘Department of Government Efficiency’ i ailwampio asiantaethau ffederal a thorri gwarant i’r bôn.
Roedd Emily Maitlis yn llygad ei lle mewn rhifyn diweddar o bodlediad ardderchog The News Agents, wrth holi ‘Ydy Elon Musk wedi newid y cyfryngau cymdeithasol am byth?’ Awgrymodd ein bod ni’n byw mewn oes newydd peryglus o Pravda, asiantaeth newyddion y Sofietiaid ers talwm, ond fod Musk a’i debyg yn rhannu propaganda ar-lein o Wisconsin i Wrecsam heddiw.
Roeddwn i wedi sylwi ar ddatblygiad od ar Twitter/X dros y ddwy flynedd diwethaf. Yn sydyn reit, roedd llu o gyfrifon newydd diwyneb yn fy nilyn, a minnau braidd byth yn gweld negeseuon gan sefydliadau ac unigolion Cymraeg arferol. Gydag algorithm y wefan ar streic, y botwm ‘blocio’ ddim yn gweithio, a gormod o boblach Reform UK yn boddi fy llinell amser, roedd hi’n amser penderfynu rhoi’r gorau i sgrolio tan berfeddion a dileu fy nghyfrif personol unwaith ac am byth.
Ond mae rhai, fel yr awdur a chôr-ddyn Cefin Roberts, yn dal i hiraethu am yr hen ddyddiau, ac yn gweld llai a llai o gynnwys Cymraeg ar X heddiw:
“Does yna neb i weld yn trafod yr Ŵyl Gerdd Dant ar Twitter y tro yma, sy’n beth diflas a dweud y gwir, achos dyna sut oedd pobol yn cadw mewn cysylltiad efo beth sy’n mynd ymlaen.”
Cefin Roberts, wrth siarad â golwg360
Felly, pa gyfrwng cymdeithasol sydd orau i gasglu barn y cyhoedd am fyd y Pethe? Ymateb yn fyw i lwyddiant ein tîm pêl-droed cenedlaethol? Diawlio canlyniad rhyw etholiad neu’i gilydd? Rhannu barn am nofel neu ddrama newydd nos Sul? Y cellwair cenedlaethol wrth wylio ‘Iwrofishyn Cymru’ bob gŵyl Ddewi?
Dw i ddim ar ‘Gweplyfr’, a tydi ‘Threads’ heb gydio hyd yma. Mae Eluned Morgan newydd ddechrau negeseua trwy @prifweinidog.bsky.social ar rwydwaith Bluesky gyda “Shwmae! Looking forward to chatting to you all on Bluesky. Give me a follow for all the latest from Wales – diolch!” Mae’r cwmni o Seattle, sy’n brolio ei fod yn ateb cleniach i Twitter/X, hyd yn oed yn ddigywilydd o debyg i’w gystadleuydd, gyda logo pili-pala gwyn ar gefndir glas. Ac mae’n debyg fod miloedd ohonom wedi hofran i’r rhwydwaith newydd ers buddugoliaeth Trump, gan mai Bluesky oedd ap rhad-ac-ddim mwyaf poblogaidd siop apiau Apple y Deyrnas Unedig yr wythnos ddiwethaf.
Pwy a ŵyr beth ddaw, ac i le’r aiff y Cymry mwy cymedrol. Ond mi arhosa i am y tro cyn ymuno â’r chwiw nesaf. Gan obeithio’ch gweld chi yno erbyn #CIG2025!