Bydd £25m mewn grantiau a benthyciadau i’w ddyrannu gan Uchelgais Gogledd Cymru ar gyfer mentrau ynni gwyrdd y rhanbarth yn y flwyddyn newydd.
Mae pwyllgor Uchelgais Gogledd Cymru, sy’n cydlynu Cynllun Twf y rhanbarth ar ran Llywodraeth Cymru, wedi cyhoeddi dwy is-gronfa fydd yn cynnig grantiau a benthyciadau.
Dylai’r rhain gefnogi mentrau lleol y rhanbarth wrth iddyn nhw geisio cyflawni’u targedau datgarboneiddio ac ynni adnewyddadwy.
Yn ogystal, maen nhw wedi penodi cynghorwyr ar gyfer y ddwy is-gronfa yn dilyn proses gaffael gystadleuol.
‘Cyfle enfawr’
Bydd un is-gronfa werth £5m yn targedu’r sector gwirfoddol.
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru fydd yn gyfrifol am yr is-gronfa hon.
“Mae pob busnes cymdeithasol yn gweithio i gyflawni’r ‘llinell waelod triphlyg’ o bobol, elw a’r blaned ac maen nhw ond yn rhy ymwybodol o’r cyfrifoldebau sydd ganddyn nhw wrth gefnogi’r agenda datgarboneiddio,” meddai Alun Jones ar ran y Cyngor, sy’n gorff aelodaeth sy’n ceisio cyd-drefnu mentrau gwirfoddol ledled Cymru.
“Mae’r gronfa hon yn cynnig cyfle enfawr iddyn nhw gael mynediad at gyllid i wireddu eu cynlluniau.”
‘Breintiedig’
Yna, bydd £15m yn cael ei ddyrannu mewn is-gronfa ar gyfer y sector preifat.
UMi, cwmni sy’n rhoi cyngor i fusnesau ar reoli grantiau a benthyciadau, sydd wedi’u penodi’n gynghorwyr arni.
Dywedodd Nicki Clark o UMi eu bod nhw’n “credu’n angerddol bod gan fusnesau’r grym i fedru gwneud gwahaniaeth”.
“Dyna pam ein bod ni’n teimlo’n hynod o gyffrous a breintiedig o gael y cyfle i weithio mewn partneriaeth ag Uchelgais Gogledd Cymru a CGGC, i alluogi sefydliadau yng ngogledd Cymru i greu effaith economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol go iawn a pharhaol drwy fabwysiadu ynni glân a chynaliadwy,” meddai.
‘Gwahaniaeth cadarnhaol iawn’
Bydd y £5m sy’n weddill gan Uchelgais Gogledd Cymru i’w ddefnyddio’n hyblyg i ychwanegu at y cronfeydd neu i gefnogi prosiectau ynni glân ar raddfa fawr yn uniongyrchol.
“Bydd y cronfeydd yn gweithredu fel catalydd, gan alluogi i brosiectau ynni gwyrdd gael eu rhoi ar waith a helpu i ddatgloi buddsoddiad preifat a chymunedol – gan wneud gwahaniaeth cadarnhaol iawn i Ogledd Cymru, felly,” meddai Sandra Sharp, rheolwr cyffredinol y prosiect.
Bydd y Cyngor ac UMi yn cynnal y prosiect dros gyfnod arfaethedig o bum mlynedd.
Mae disgwyl lansio’r cronfeydd y flwyddyn nesaf, yn dilyn cymeradwyaeth gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.