Mae arweinydd newydd Cyngor Gwynedd yn dweud ei bod hi am i’r awdurdod lleol “wneud y peth cywir” ar gyfer dioddefwyr y prifathro a phedoffeil Neil Foden.
Cafodd y Cynghorydd Nia Jeffreys ei hethol yn arweinydd ar y Cyngor yn ystod cyfarfod y Cyngor llawn yr wythnos ddiwethaf, a chymerodd hi a’i dirprwy arweinydd, y Cynghorydd Menna Trenholme, yr awenau ddydd Llun (Rhagfyr 9).
Mae’n un o dair menyw ledled 22 awdurdod lleol Cymru sydd wedi’u penodi’n arweinwyr.
Mae hi bellach yn wynebu cyfrifoldebau newydd heriol, wrth geisio cyflenwi’r gwasanaethau hanfodol mae galw amdanyn nhw yng nghyd-destun y pwysau ariannol sydd ar y Cyngor, yn ogystal â llywio’r ymateb i’r niwed parhaol wnaeth Neil Foden.
Adfer wedi Neil Foden
Roedd Neil Foden yn un o athrawon mwyaf dylanwadol Cymru cyn i’w gam-drin erchyll ddod i’r amlwg.
Roedd yn gyn-brifathro ar Ysgol Friars ym Mangor, ac yn bennaeth strategol yn Ysgol Gyfun Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes.
Fe dderbyniodd ddedfryd o 17 o flynyddoedd yn y carchar yn gynharach eleni, yn sgil troseddau yn erbyn pedair merch yn y gogledd.
Fis Hydref, fe ymddiswyddodd y cyn-arweinydd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, rhagflaenydd y Cynghorydd Nia Jeffreys, am iddo wrthod ymddiheuro wrth y dioddefwyr pan oedd gofyn iddo wneud yn wreiddiol.
Fe gamodd pedwar aelod o’i gabinet o’u swyddi cyn iddo gytuno i ymddiheuro.
Yn dilyn achos llys Neil Foden, lansiodd Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru eu Hadolygiad Ymarfer Plant (CPR), gan benodi Jan Pickles yn gadeirydd annibynnol.
Mae’r Cyngor hefyd wedi cyflogi cyfreithiwr er mwyn rhoi eu harchwiliad mewnol eu hunain ar waith.
Yn y cyfamser, mae ambell wleidydd lleol wedi dweud eu dweud, gan alw am ymchwiliad cyhoeddus i ymateb y Cyngor.
Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y BBC yn ddiweddar eu bod nhw’n disgwyl nes diwedd yr Adolygiad Ymarfer Plant cyn penderfynu a ddylen nhw weithredu ymhellach.
‘Mae’n flin iawn gen i’
Wrth siarad ym mhencadlys y Cyngor yng Nghaernarfon ddydd Gwener (Rhagfyr 6), dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys wrth y Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol fod yn “ddrwg iawn” ganddi am yr hyn ddigwyddodd i ddoddefwyr Neil Foden.
“Dim ond eisiau i ni wneud y peth cywir er budd dioddefwyr a goroeswyr trais Neil Foden ydw i,” meddai.
“Fel arweinydd newydd, ydw, dw i’n teimlo’r pwysau mawr sydd arnaf i – pwysau’r ddyletswydd i wneud y peth cywir.
“Mae hyn er lles nid yn unig y rheiny gafodd eu heffeithio’n uniongyrchol, ond er mwyn pob un gafodd eu heffeithio gan yr hyn ddigwyddodd.
“Rwy’ eisiau ailbwysleisio ein bod ni, fel Cyngor, yn cydweithio’n llwyr â’r CPR, ac yn awyddus i gael dysgu o’r hyn ddigwyddodd, ac mae’n ddrwg iawn gennym ni.
“Rydw i’n sefyll law yn llaw gyda’r dioddefwyr a’r goroeswyr, ac mae’r un yn wir am bob un o aelodau siambr y Cyngor.
“Mae’n flin iawn gen i am yr hyn ddigwyddodd i’r dioddefwyr, a dw i’n meddwl cryn dipyn amdanyn nhw.”
Lliniaru
Mae’r Cynghorydd Nia Jeffreys hefyd wedi bod yn trafod ymdrechion y Cyngor i liniaru’r effaith gafodd y digwyddiad ar yr ysgolion gafodd eu heffeithio fwyaf.
“Mae hi’n sefyllfa heriol tu hwnt, ond dw i’n gobeithio bod modd dysgu gwersi o’r hyn ddigwyddodd er mwyn sicrhau nad oes unrhyw beth tebyg yn medru digwydd eto.
“Mae hyn wedi cael effaith anferthol ar ein cymuned, ac ar ddisgyblion Ysgol Friars.
“Mae wedi bod yn gyfnod hynod anghyfforddus iddyn nhw.
“Rydyn ni wedi ymrwymo’n llwyr i geisio gwella pethau i’r staff a’r disgyblion.
“Rydyn ni wedi bod yn cynnig pa bynnag gymorth fedrwn ni i ysgolion, gan gynnwys darparu gwasanaethau megis cwnsela.”
Dedfryd “anghywir”
Yn y cyfamser, mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn dweud bod y barnwr wedi dweud y peth “anghywir” wrth ddweud y byddai Neil Foden yn treulio o leiaf unarddeg o flynyddoedd dan glo.
Mewn llythyr at Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, dywed Gwasanaeth Erlyn y Goron y bydd modd iddo adael y carchar ar ôl cwblhau hanner ei ddedfryd.
Dim ond y rhai sy’n euog o droseddau mae modd eu cosbi â dedfryd o oes o garchar sy’n cwblhau dau draean o’u dedfryd cyn cael eu rhyddhau.
Mae hi wedi gofyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig adolygu’r achos er lles ei ddioddefwyr.
‘Achos balchder’
Er gwaetha’r heriau mae hi’n eu disgwyl, mae’r Cynghorydd Nia Jeffreys yn edrych ymlaen at ei rôl newydd, ac yn hyderus y bydd hi’n medru cynnig rhinweddau personol newydd fydd yn gymorth i ddatrys yr heriau.
“Mae’n achos balchder i mi mai dyma’r tro cyntaf y bydd dwy fenyw wedi’u penodi i’r ddwy swydd uchaf yn y Cabinet,” meddai.
“A dyma’r tro cyntaf, hefyd, y bydd menywod ym mhob un ardal allweddol o fewn y siambr.
“Nid yr arweinydd a’r dirprwy arweinydd yn unig fydd yn fenywod, ond y cadeirydd, y Cynghorydd Beca Roberts, ac arweinydd yr wrthblaid, y Cynghorydd Angela Russell, hefyd.
“Wrth i fwy o fenywod ddod yn rhan o’n gwleidyddiaeth leol, dw i’n credu bod modd cynnig safbwynt newydd, gwahanol.
“Dw i’n gobeithio y byddwn ni’n medru cael gwared ar rai o’r rhwystrau ac annog mwy o ferched a menywod i ystyried cyfrannu at wleidyddiaeth leol.
“Dw i’n edrych ymlaen at weithio gyda Menna, ond hefyd gydag arweinydd yr wrthblaid, Angela, er mwyn gweld beth fedrwn ni ei gyflawni gyda’n gilydd.”
Syniadau ‘newydd ac arloesol’
Ymhlith ei hamcanion mae “adeiladu ar y seilwaith sydd eisoes wedi’i osod”.
“Dw i’n awyddus i barhau â’r gwaith da a wnaed yn y gorffennol, yn enwedig ym maes gofal cymdeithasol, am fy mod i wedi profi pwysigrwydd y gwasanaeth hwnnw’n bersonol gyda fy nheulu i,” meddai.
“Dw i’n frodor o Wynedd, a dw i’n deall problemau’r ardal yn iawn.
“Rydw i wedi defnyddio a dibynnu ar wasanaethau’r Cyngor drwy fy mywyd.
“Fe gefais i fy magu mewn tŷ cyngor, roeddwn i’n derbyn cinio ysgol, roeddwn i’n caru defnyddio’r llyfrgelloedd, a dw i’n gwybod yn iawn pa mor bwysig ydy gwasanaethau’r Cyngor.”
Mae hi hefyd yn gobeithio cyflwyno syniadau ‘newydd ac arloesol’ gerbron y Cyngor, megis y defnydd o dechnoleg AI a’r cyfryngau cymdeithasol.
Mae hi hefyd am atgyfnerthu “ymrwymiad” y Cyngor i ddwyieithrwydd a’r iaith Gymraeg, meddai.
Dywed ei bod hi “eisiau edrych allan, y tu hwnt i siambr y Cyngor, a dysgu gan rannu eraill y byd sydd â phrofiadau wrth ymdrin â pholisi ieithyddol, gan gynnwys Sbaen a De America.
“Wrth i ni symud tuag at ail hanner y degawd, a wynebu’r heriau sydd ar y gweill, dw i’n hyderus y bydd fy nhîm newydd yn barod i sicrhau bod Cyngor Gwynedd yn parhau i ymdrechu er budd cymunedau’n sir ni.”
Cabinet newydd
Dywed y Cynghorydd Nia Jeffreys hefyd ei bod hi’n hynod falch i fedru cyhoeddi enwau aelodau’i chabinet newydd, fydd yn cynnwys “cyfuniad o gynghorwyr profiadol a thalent newydd, sy’n cynrychioli amryw o gefndiroedd gwahanol”.
Ychwanega y bydd hi’n caniatáu iddi hi ei hun fod “ychydig yn falch” o fedru dod yn arweinydd, am ei bod hi’n “anrhydedd” cael ei hethol gan gynifer o’i chyd-gynghorwyr.
Cabinet Cyngor Gwynedd
Y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd;
Y Cynghorydd Menna Trenholme, Dirprwy Arweinydd, Plant a Chefnogi Teuluoedd
Y Cynghorydd Craig ab Iago, yr Amgylchedd
Y Cynghorydd Medwyn Hughes, yr Economi a Chymunedau
Y Cynghorydd Dewi Jones, Addysg
Y Cynghorydd Huw Wyn Jones, Cyllid
Y Cynghorydd June Jones, Priffyrdd, Peirianwaith ac Ymgynghoriaeth Gwynedd
Y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Oedolion, Iechyd a Lles
Y Cynghorydd Llino Elenid Owen, Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol
Y Cynghorydd Paul Rowlinson, Cartrefi ac Eiddo