Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi talu teyrnged i ymgyrchydd 95 oed o dref Silian yng Ngheredigion fu farw’r wythnos ddiwethaf (dydd Gwener, Ionawr 10).
Ar ei ben-blwydd yn 91 oed yn ystod y cyfnod clo, cerddodd Rhythwyn Evans o amgylch ei ardd 91 o weithiau er mwyn codi arian at y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Roedd wedi’i ysbrydoli gan ymdrechion tebyg y Capten Tom Moore o Swydd Efrog.
Fe lwyddodd y ffermwr o Geredigion i godi £50,000 a chafodd yr arian ei roi i elusennau Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
‘Rhyfeddol’
Mewn datganiad, dywed llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda pa mor galonogol oedd cefnogaeth Rhythwyn Evans.
“Ar ran yr elusen a’r bwrdd iechyd, hoffwn anfon fy nghydymdeimlad diffuant i deulu a ffrindiau Rhythwyn Evans,” meddai Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd y bwrdd iechyd.
“Roedd Rhythwyn yn un o’n cefnogwyr pennaf.
“Yn ystod cyfnod tywyll COVID-19, cododd dros £50,000 ar gyfer gwasanaethau GIG lleol – swm rhyfeddol – trwy gerdded 91 o weithiau o amgylch ei gartref ar ei ben-blwydd yn 91 oed.
“Roedd yn gamp anhygoel.”
‘Diolchgar am byth’
Mae’r bwrdd iechyd hefyd yn canmol effaith barhaol ymdrechion Rhythwyn Evans.
“Mae’r arian gafodd ei godi wedi ein helpu i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau y tu hwnt i wariant craidd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol,” meddai wedyn.
“Mae hyn wedi cynnwys creu a gwella mannau gorffwys dan do ac awyr agored i staff, yn unol â chais ein gweithlu.
“Mae llawer wedi teimlo’r gwahaniaeth cadarnhaol wnaeth Rhythwyn.
“Byddwn yn ddiolchgar am byth i Rhythwyn, ac ni fyddwn byth yn anghofio ei garedigrwydd a’i haelioni.”