Mae rhiant i blentyn sydd wedi cael diagnosis o awtistiaeth yn dweud mai cael asesiadau awtistiaeth preifat oedd “y peth pwysicaf erioed” iddi ei wneud ar gyfer ei merch.
Fe fu Catrin Jones o Wynedd yn siarad â golwg360 yn dilyn y newyddion y gallai rhestrau aros am asesiad awtistiaeth ac ADHD i blant dreblu i bron i 61,000 yng Nghymru dros y ddwy flynedd nesaf.
Mae’r penderfyniad i gael asesiad a diagnosis awtistiaeth preifat i’w merch, sydd ar fin troi’n 16 oed, wedi rhoi “llwybr newydd” o’u blaenau, meddai, ac mae’n rhoi cyfle iddyn nhw “weithredu yn hollol wahanol fel teulu”.
Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Sarah Murphy, Gweinidog Iechyd Meddwl Cymru, wrth Bwyllgor Plant y Senedd fod 29,770 o blant yn aros am asesiad niwroddatblygiadol fis Medi y llynedd.
Ychwanegodd fod disgwyl gweld rhwng 41,000 a 61,000 o bobol yn aros am yr asesiadau hyn erbyn mis Mawrth 2027, o gymharu â 4,100 ym mis Medi 2021.
Rhwystrau
Roedd merch Catrin Jones yn dioddef o orbryder dwys ers blynyddoedd cyn cael asesiad, ac roedd symud i’r ysgol uwchradd yng nghanol y pandemig yn 2020 yn gyfnod oedd yn “wirioneddol anodd” iddi.
Rhwng 2020 a 2021, roedd yn rhaid iddi adael yr ysgol yn gyson oherwydd ei bod hi’n dioddef cyfnodau drwg o banig a gorfeddwl.
Er ei bod ar restr aros yr ysgol i weld cwnselydd, roedd y system “dan bwysau sylweddol” ar y pryd, meddai ei mam.
Yn ystod ei chyfnod o therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) gyda CAMHS, gwasanaethau iechyd meddwl pobol ifanc a’r glasoed, daeth awgrym y dylai gael ei hasesu ar gyfer awtistiaeth ac ADHD.
“Mi wnaethon ni ddechrau edrych i mewn i’r peth bryd hynny,” meddai.
“Ond roedd ein sefyllfa ni yn wahanol bryd hynny, fel llawer o bobol eraill ers Covid.
“Mae lot mwy o blant yn cael addysg adra rŵan.
“Ac oherwydd bod [ei merch] yn cael ei haddysg adref ac nid o fewn y system, doedd dim modd iddi fynd ar restr aros yn hawdd.
“Felly dyna oedd yr hurdle cyntaf.
“Er mwyn i ni fynd ar restr aros yr NHS, roedd yn rhaid i ni fod wedi argyhoeddi meddyg teulu fod angen asesiad arni hi.
“Ac wedyn, roedd rhaid i’r meddyg teulu ei chyfeirio ar ein rhan ni.”
‘Dw i ddim yn difaru ceiniog ohono fo’
Yn 2023, cafodd Catrin Jones wybod fod rhestr aros o hyd at ddwy flynedd er mwyn cael asesiad awtistiaeth ac ADHD i’w merch drwy’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Ond ar ôl gwneud gwaith ymchwil, penderfynodd nad oedd hyn yn opsiwn, a chafodd ei merch asesiad preifat ym mis Medi, a hithau’n 15 oed.
“Mi wnaethon ni benderfynu darganfod faint fysa’n costio i fynd yn breifat, a beth oedd hynny yn ei olygu,” meddai.
“Roedd yn rhaid i ni ffeindio seicolegydd oedd yn ffitio i mewn i’w canllawiau nhw, neu fysa’r asesiad ddim yn cyfrif yn swyddogol, mewn ffordd.
“Mi oedden ni mewn cyfnod pwysig iawn i’r ferch; roedd hi’n gorfod gwneud penderfyniadau pwysig am weddill ei bywyd hi.
“Roedd yna bob math o gwestiynau, ac yn y diwedd mi wnaethon ni benderfynu mynd amdani ac i fenthyca arian i gael yr asesiad.
“O fy safbwynt i, dw i’n teimlo ei fod o’r peth pwysicaf dw i erioed wedi’i wneud ar gyfer y ferch.
“Dw i ddim yn difaru ceiniog ohono fo.
“Mae wedi bod yn broses mor ofnadwy o werthfawr, mor validating i ni ac iddi hi, ac mae wedi ateb cymaint o gwestiynau.
“Mae o wedi rhoi llwybr newydd o’n blaenau ni ac wedi ei galluogi hi i ddeall ei hun yn well.
“Ac mi rydan ni’n gweithredu yn hollol wahanol fel teulu rŵan.”
Ychwanega fod yr atebion ddaeth o’r asesiad “wedi newid ein bywydau yn gyfan gwbl”, a’i fod wedi caniatáu iddyn nhw “fyw yn fwy heddychlon fel teulu”.
‘Mae’n rhaid i ni newid’
Wrth roi tystiolaeth ar Ionawr 9, cyhoeddodd Sarah Murphy, sy’n gyfrifol am wasanaethau niwroddartblygiadol, anableddau dysgu a dementia, hyd at £3m yn ychwanegol ar gyfer byrddau iechyd Cymru.
Dywedodd y byddai’r arian “o fudd i’r plant a’r bobol ifanc sydd wedi bod yn aros hiraf”.
“Mae’r asesiad hwnnw’n golygu llawer i blant, pobol ifanc a’u teuluoedd,” meddai.
“Roeddwn i’n siarad â’r Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth, a dywedon nhw, ‘Rydyn ni wedi codi cymaint o ymwybyddiaeth, ond nawr mae angen i ni yrru’r don honno tuag at dealltwriaeth a derbyniad’.
“Oherwydd ein bod ni i gyd yn cydnabod na all hyn barhau, mae’n rhaid i ni newid.”
Mae’r galw yn ‘llawer mwy na’r capasiti’
Wrth ymateb i sylwadau Sarah Murphy, dywed Liz Fletcher, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cymunedol Iechyd Integredig y Gorllewin gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar gyfer plant, eu bod yn “cydymdeimlo’n llwyr â theuluoedd sydd dan bwysau oherwydd eu bod yn ceisio deall anghenion plentyn niwroddargyfeiriol”.
Ychwanega fod y galw am asesiadau awtistiaeth ac ADHD wedi “cynyddu’n esbonyddol” ers y pandemig gyda’r galw bellach “yn llawer mwy na’r capasiti”.
“Nid yw hon yn broblem sy’n unigryw i’n Bwrdd Iechyd,” meddai.
“Mae hwn yn fater Cymru gyfan, ac rydym yn cymryd rhan ar lefel genedlaethol mewn trafodaethau ynghylch ailfodelu gwasanaethau.
“Mae hyn yn canolbwyntio ar ddatblygu darpariaeth sy’n bodloni anghenion plentyn, yn ogystal â chefnogi’r rhai sydd angen [ac a fyddai’n elwa] o asesiad.
“Mae ein gwefan yn cynnwys llawer o wybodaeth i deuluoedd sy’n ceisio cymorth ynghylch niwrowahaniaeth.
“Yn ogystal â chyngor a chymorth ynghylch deall teimladau plentyn niwroddargyfeiriol, ac effaith bwyd a chwsg, mae atebion i gwestiynau cyffredin a dolenni i gyfoeth o sefydliadau defnyddiol a chefnogol.”
Budsoddiad Llywodraeth Cymru
“Rydym wedi ymrwymo i leihau amseroedd aros a chynyddu’r gefnogaeth cyn-ddiagnostig i bobl ag ADHD, Awtistiaeth a chyflyrau niwrowahanol eraill,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, wrth ymateb i dystiolaeth Sarah Murphy.
“Rydyn ni wedi buddsoddi £12m i helpu i ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithio i fynd i’r afael ag amseroedd aros drwy ein Rhaglen Gwella Niwrowahaniaeth, ac ym mis Tachwedd, cafodd £3m ei gyhoeddi i dorri arosiadau hir ar gyfer asesiadau niwroddatblygiadol i blant.”