Mae digrifwr o Benarth wedi’i garcharu am droseddau rhyw.
Roedd David Parton, sy’n 57 oed ac a fu’n perfformio o dan yr enw Dave Jones, wedi bod yn cyfathrebu â rhywun roedd yn credu ei bod yn ferch ddeuddeg oed gyda’r bwriad o’i chyfarfod.
Ond mewn gwirionedd, roedd yn cyfathrebu â’r heddlu.
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod y negeseuon yn rhywiol eu natur, a’i fod e wedi ceisio trefnu cyfarfod mewn parc manwerthu, lle cafodd ei arestio.
Dywed Gwasanaeth Erlyn y Goron fod yma rybudd o’r peryglon mae plant a phobol ifanc yn eu hwynebu wrth ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.
Cefndir
Fe ddaeth i’r amlwg yn 2020 fod David Parton wedi’i gael yn euog yn 2017 o fod â delweddau pornograffig o blant yn ei feddiant.
Heddiw (dydd Mercher, Rhagfyr 11) yn Llys y Goron, cafodd ei garcharu am chwe blynedd, a bydd yn rhaid iddo fe dreulio pedair blynedd ar drwydded pan fydd yn gadael y carchar.
Fe blediodd yn euog i dorri Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol, ceisio cyfathrebu’n rhywiol â phlentyn, ceisio annog plentyn dan 13 oed i gyflawni gweithred rywiol, a threfnu neu hwyluso comisiynu trosedd ryw yn erbyn plentyn.
Bydd e hefyd yn destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol, a bydd yn rhaid iddo fynd ar y gofrestr o droseddwyr rhyw am gyfnod amhenodol.