Bryn Terfel, Roger Daltrey, KT Tunstall ac Il Divo fydd prif artistiaid Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn 2025.
Bryn Terfel fydd yn cloi’r digwyddiadau gyda’r nos, gyda Roger Daltrey, KT Tunstall ac Il Divo hefyd yn perfformio yn ystod yr wythnos.
Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ym mis Gorffennaf.
Bydd Roger Daltrey, cyd-sylfaenydd a phrif leisydd The Who, yn perfformio ar y noson gyntaf, KT Tunstall ar yr ail noson gyda cherddorfa lawn, ac Il Divo yn cloi’r drydedd noson gyda Laura Wright.
Bydd Choir of the World yn canu gyda Lucie Jones y noson ganlynol, a bydd Bryn Terfel yn canu gyda Fisherman’s Friends ar y noson olaf.
Ymhlith yr artistiaid fydd yn perfformio ym Mhafiliwn Llangollen cyn yr Eisteddfod mae Human League, James, Olly Murs, Rag N Bone Man, The Script, Texas a UB40.
Heriau
Fe fu’r Eisteddfod yn wynebu dyfodol ansicr dros y blynyddoedd diwethaf yn sgil heriau ariannol.
Gwnaeth y Bwrdd Rheoli “benderfyniad anodd” i ddiswyddo’r Prif Swyddog y llynedd yn sgil y sefyllfa honno.
Roedd y pandemig Covid-19 a’r argyfwng costau byw hefyd wedi cael effaith sylweddol ar yr Eisteddfod.
Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal rhwng Gorffennaf 8-13, a bydd tocynnau ar werth ddydd Gwener (Rhagfyr 13).