Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi croesawu’r cynnydd “bychan” o 3.6% gafodd ei gyhoeddi yng Nghyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 10).
Dywed Dafydd Rhys, Prif Weithredwr y Cyngor ei fod yn “gam i’r cyfeiriad cywir” o ran cefnogi’r celfyddydau yng Nghymru, ond fod y dyfodol ariannol “yn heriol o hyd am fod llawer o sefydliadau celfyddydol yn wynebu pwysau difrifol”.
Yn 2025-26, bydd Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC) yn derbyn £31.588m, i fyny 3.6% o £30.493m yn 2024-25.
Ond mae Equity, yr undeb celfyddydau perfformio ac adloniant, yn dweud bod y cyhoeddiad yn “siomedig” ac nad yw Llywodraeth Cymru “dal ddim yn gwrando”.
“Efallai bod y Prif Weinidog yn galw hon yn gyllideb ‘sy’n cynnig gobaith’, ond nid yw’n rhoi dim i’n haelodau sydd eisoes yn cael trafferth cynnal gyrfaoedd yn y diwydiant,” meddai Simon Curtis, swyddog Equity yng Nghymru.
“Nid yw’r cyllid ychwanegol o £1,095,000 ar gyfer CCC y flwyddyn nesaf yn gwneud iawn am doriadau’r blynyddoedd blaenorol mewn unrhyw ffordd – ac mewn cyllideb sy’n cynnwys £1bn o ‘arian newydd’ oherwydd cyllideb San Steffan, mae’r cynnydd hwn yng nghyllid CCC yn warthus.
“Ni allwn anghofio bod hyn yn digwydd yn dilyn toriad o 40% mewn cyllid mewn termau real ers 2010.
“Bydd y cynnig hwn yn gweld y sector yn parhau i frwydro, gyda sefydliadau fel Opera Cenedlaethol Cymru yn parhau i fod mewn argyfwng ac yn gorfod torri nôl ar gynyrchiadau a nifer y gweithlu.”
‘Buddiannau economaidd’
Ychwanega Equity fod y cyhoeddiad yn “wrthgyferbyniad llwyr” â Llywodraeth yr Alban, oedd wedi cyhoeddi cynnydd o £34m ar gyfer y celfyddydau a diwylliant yr wythnos diwethaf.
“Yn ôl ffigurau CCC, mae pob £1 o gyllid maen nhw’n ei gael yn cynhyrchu £2.51 yn ôl i’r economi, ac eto nid yw’r gyllideb ddrafft hon yn cydnabod bod diwylliant da yn dda i’r economi gyfan,” meddai Simon Curtis.
“O unigolion creadigol a grwpiau i’r theatrau, orielau, lleoliadau ac eraill yr ydym yn eu cefnogi, mae’r celfyddydau’n gwbl angenrheidiol i’n bywydau beunyddiol, gan gyflawni buddiannau economaidd ac iechyd a bywiogi ein cymunedau,” meddai Dafydd Rhys.
“Mae’r dyfodol ariannol yn edrych yn heriol o hyd am fod llawer o sefydliadau celfyddydol yn wynebu pwysau difrifol.
“Maen nhw’n gorfod dygymod â’r cynnydd a fydd mewn Yswiriant Gwladol i gyflogwyr, y gystadleuaeth ffyrnig am ffynonellau eraill o arian a chostau rhedeg uwch.
“Rydym am feithrin yr awyrgylch iawn i greu profiadau celfyddydol o safon.
“Byddwn yn gwrando’n astud ar bryderon y sector i gyfeirio ein harian eleni lle bydd yn cael yr effaith fwyaf.”