Flwyddyn wedi marwolaeth pedwar dyn ifanc o’r Amwythig mewn gwrthdrawiad ger Llanfrothen, bydd Cyngor Gwynedd yn ystyried cynnig i ddiweddaru’r rheolau i yrwyr newydd.

Mae’r digwyddiad “wedi gadael craith fawr ar y gymuned,” yn ôl y Cynghorydd June Jones, sy’n cynrychioli’r ardal lle digwyddodd y gwrthdrawiad.

Mae hi’n galw ar Lywodraeth San Steffan i gyfyngu hawl gyrwyr newydd dan 21 oed i gludo teithwyr eraill yn syth wedi iddyn nhw dderbyn trwydded.

Daw ei sylwadau ar ôl i Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu’r Gogledd, fynegi safbwynt tebyg wrth siarad â golwg360 yn ddiweddar.

Marwolaethau y gellid bod wedi’u hosgoi

Bu farw Jevon Hirst (16), Harvey Owen (17), Wilf Fitchett (17), a Hugo Morris (18) mewn gwrthdrawiad ar ffordd A4085 ger Garreg, Llanfrothen fis Tachwedd y llynedd.

Roedd y pedwar dyn ifanc wedi bwriadu gwersylla ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Daeth cwest ym mis Hydref eleni i’r casgliad y gellid bod wedi osgoi eu marwolaethau.

Mae’n ymddangos i’w car foelyd wrth geisio mynd i gornel yr heol yn gynt nag yr oedd yn ddiogel.

Dywed y crwner Kate Robertson bryd hynny y bydd rhagor o farwolaethau “pan fo gyrwyr newydd, ifanc yn cael caniatâd i gludo teithwyr”, a’i bod hi’n bwriadu ysgrifennu at yr Adran Drafnidiaeth a’r DVLA er mwyn galw am newidiadau i’r rheolau presennol.

Trwyddedau Graddedig ar gyfer Gyrwyr

Wrth siarad â golwg360 yn gynharach eleni, dywedodd Andy Dunbobbin ei fod yn cefnogi ymgyrch yr AA, sy’n erfyn ar y Llywodraeth i gyflwyno Trwyddedau Graddedig ar gyfer gyrwyr yng Nghymru a Lloegr.

Mae’r rhain eisoes yn weithredol yng Ngogledd Iwerddon, ac yn gwahardd pobol ifanc dan 21 oed sydd newydd basio’u prawf gyrru rhag cludo teithwyr dan 21 oed am y chwe mis cyntaf wedi’r prawf.

Mae’r AA wedi pwysleisio mai pobol rhwng 16 a 24 oed oedd 23% o’r cleifion gafodd eu trin wedi gwrthdrawiadau yng Nghymru yn 2023, er mai dim ond 10% o boblogaeth Cymru sy’n perthyn i’r grŵp oedran hwn.

‘Gweithredu ar unwaith’

“Mae hwn yn fater pwysig sydd angen i Adran Drafnidiaeth Llywodraeth San Steffan weithredu arno, ar unwaith,” meddai’r Cynghorydd June Jones, sy’n cynrychioli Ward Glaslyn, wrth gyflwyno rhybudd o gynnig gerbron y Cyngor ar Ragfyr 5.

“Trychineb yr achos hwn yng Ngarreg ’nôl ym mis Tachwedd 2023 oedd i fywydau bechgyn ifainc ddod i ben yn llawer, llawer rhy gynnar.

“Mae meddyliau’r gymuned yn parhau i fod gyda’r teuluoedd hynny, a dyna’r rheswm pam y cyflwynais y rhybudd o gynnig yma yng Nghyngor Gwynedd yr wythnos ddiwethaf.”

Fe gymeradwyodd y Cyngor y rhybudd o gynnig, sy’n golygu y bydd y Cyngor yn trafod galw am ddiweddariad i’r rheolau gan Lywodraeth San Steffan yn fuan.