Yn ei Gyllideb Ddrafft, mae Mark Drakeford wedi cyhoeddi £1.5bn ychwanegol i gryfhau gwasanaethau cyhoeddus, cefnogi busnesau bach, a gyrru twf economaidd.
Yn ei gyhoeddiad, dywed Ysgrifennydd Cyllid Cymru y bydd pob adran yn cael cynyddu eu harian ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Bydd cynlluniau gwariant cyfalaf yn mynd y tu hwnt i £3bn mewn Cyllideb Ddrafft am y tro cyntaf erioed, fydd yn galluogi buddsoddiadau mewn ysgolion, y Gwasanaeth Iechyd, tai a thrafnidiaeth gyhoeddus.
Yn ôl y Llywodraeth, mae’r Gyllideb Ddrafft yn dangos ymrwymiad i:
- gefnogi’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol
- creu swyddi a thwf
- cynnig cyfleoedd i deuluoedd
- cysylltu cymunedau
Mae’n cynnwys dros £600m o refeniw a chyfalaf ychwanegol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, er mwyn helpu i dorri’r amserau aros gwaethaf, gwella gwasanaethau iechyd meddwl, a chryfhau iechyd menywod.
Mae hefyd yn cynnwys arian ychwanegol i fynd i’r afael â thomenni glo, wrth i’r Senedd gyflwyno deddfwriaeth newydd yn dilyn y llifogydd diweddar sydd wedi effeithio ar y tomenni sydd yng Nghymru.
Bydd £81m o arian cyfalaf yn cael ei neilltuo i adeiladu rhagor o dai cymdeithasol, gan helpu i leihau digartrefedd a “sicrhau bod gan bawb yng Nghymru rywle i’w alw’n gartref”.
Bydd £100m ychwanegol ar gyfer addysg, a chynnydd o 4.3% yn y setliad llywodraeth leol er mwyn helpu i ariannu ysgolion, gofal cymdeithasol a gwasanaethau eraill.
Bydd £181.6m er mwyn gwella gwasanaethau rheilffyrdd, a £3.7m i gyflymu penderfyniadau cynllunio ac i ddigideiddio gwasanaethau cynllunio.
Bydd dwy gronfa newydd yn cael eu sefydlu i gynnal rhwydwaith ffyrdd Cymru, gan drwsio tyllau ac ati.
Bydd cap o 1% ar gyfraddau annomestig ar gyfer busnesau yn 2025-26, a bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yn parhau i dderbyn rhyddhad o 40% ar gyfer eu biliau.
Fydd dim newid yng Nghyfraddau’r Dreth Incwm yng Nghymru, fydd yn ei gosod ar yr un lefel â Lloegr a Gogledd Iwerddon o hyd.
Ond mae nifer o fesurau trethi wedi’u cyhoeddi er mwyn cefnogi busnesau a gwasanaethau cyhoeddus, ynghyd â chynyddu’r gallu i ailgylchu mwy o wastraff.
O Ragfyr 11, bydd y Dreth Trafodion Tir sy’n berthnasol i brynu eiddo preswyl ychwanegol yn cynyddu gan 1%, gan godi £7m ychwanegol.
Bydd cyfradd safonol y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn codi i £126, ac i £6.30 y tunnell ar y gyfradd isaf er mwyn lleihau faint o wastraff sy’n cael ei anfon i’r domen sbwriel ac i annog pobol i ailgylchu mwy.
‘Cyllideb sy’n cynnig dyfodol mwy disglair’
“Dyma gyllideb sy’n cynnig dyfodol mwy disglair, gan roi £1.5bn yn ychwanegol i’n gwasanaethau cyhoeddus a’n blaenoriaethau a helpu i roi Cymru ar y trywydd cywir unwaith eto i sicrhau twf ar ôl 14 o flynyddoedd anodd dros ben,” meddai Mark Drakeford.
“Mae hyn yn gyferbyniad llwyr i’r flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, pan gawsom ein gorfodi i wneud penderfyniadau anodd a phoenus iawn.
“Mae’r Gyllideb Ddrafft hon yn cynnig cyfle gwirioneddol i ddechrau ailadeiladu ac adnewyddu ein gwasanaethau cyhoeddus.
“Mae’n rhoi cynnydd i bob adran ac yn rhoi hwb sylweddol o ran cyllid cyfalaf, sy’n golygu mwy o fuddsoddiad yn yr hanfodion – ystad y Gwasanaeth Iechyd ac ysgolion, tai a seilwaith cyhoeddus – calon Cymru.
“Mae hon yn gyllideb dda i Gymru.
“Ond bydd yn cymryd amser i wrthdroi’r difrod gafodd ei wneud i Gymru dros 14 blynedd hir o esgeulustod gan weinyddiaethau blaenorol y Deyrnas Unedig.
“Mae’r gyllideb hon yn dangos pŵer dwy lywodraeth, sy’n rhannu’r un gwerthoedd, yn gweithio gyda’i gilydd.”
Bydd Aelodau’r Senedd yn craffu ar y Gyllideb Ddrafft cyn cynnal pleidlais derfynol ym mis Mawrth.
‘Lleisiau addysg yn cael eu clywed’
Mae undeb addysg NAHT Cymru wedi croesawu’r cyllid ychwanegol i ysgolion a’r byd addysg.
“Mae’r cyllid ychwanegol sydd wedi’i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn dangos bod lleisiau arweinwyr ysgolion, o’r diwedd, yn cael eu clywed uwchlaw’r dorf,” meddai Laura Doel, ysgrifennydd cenedlaethol yr undeb.
“Allwn ni ddim tanbrisio graddau’r argyfwng ariannu sy’n wynebu ysgolion, ond mae’r newyddion yma, ynghyd â’r buddsoddiad fesul blwyddyn gafodd ei gyhoeddi ar gyfer addysg yr wythnos nesaf, yn gam tuag at drwsio’r difrod.”
Ond mae’n rhybuddio na ddylai’r Llywodraeth “orffwys ar eu rhwyfau”, gyda phenaethiaid yn wynebu “dewisiadau amhosib” a gorfod torri staff a chefnogaeth i ddisgyblion.
Dywed y bydd yr undeb yn cydweithio â’r Llywodraeth er mwyn ceisio sicrwydd y bydd yr arian yn mynd yn uniongyrchol i’r ysgolion.
‘Dim digon i atgyweirio toeau ysbytai’
Yn y cyfamser, mae Plaid Cymru’n dweud bod y Gyllideb Ddrafft yn “anuchelgeisiol” ac yn “disgyn yn druenus o brin o’r hyn sydd ei angen i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus Cymru sydd mewn trafferthion”.
Daw’r sylwadau gan Heledd Fychan, llefarydd cyllid y Blaid.
“I lywodraeth leol, does dim digon yma o’i gymharu â’r hyn sydd ei angen i gwrdd â’r heriau cynyddol y mae cynghorau yn eu hwynebu,” meddai.
“Bydd hyn yn anochel yn arwain at fwy o doriadau i wasanaethau hanfodol a threth cyngor uwch i deuluoedd sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd cadw dau ben llinyn ynghyd.
“Bydd diffyg buddsoddiad ystyrlon mewn llywodraeth leol yn arwain at ganlyniadau difrifol i ofal cymdeithasol gan achosi mwy fyth o bwysau ar ein gwasanaeth iechyd.
“Tra bod arian ychwanegol yn cael ei gyfeirio at reng flaen y gwasanaeth iechyd i fynd i’r afael â heriau uniongyrchol – llawer o hyn yn ganlyniad o gamreoli Llafur ei hun – bydd methiant i fuddsoddi mewn gofal iechyd ataliol a gofal cymdeithasol drwy gynghorau lleol ond yn dyfnhau’r cylch dieflig sy’n llusgo’r gwasanaeth iechyd i lawr.
“Cawsom addewid y byddai dwy lywodraeth Lafur yn gweithio gyda’i gilydd yn cyflawni dros Gymru, ond yn lle hynny, rydym wedi cael cyllideb sydd ddim hyd yn oed yn darparu digon i atgyweirio’r toeau ar ein hysbytai.
“Mae Cymru yn dal i fod yn styc gyda’r setliad ariannol gwaethaf o unrhyw wlad ddatganoledig, heb ddim arwydd o newid fformiwla ariannu Barnett, a dim gweithredu ar y £4bn sydd yn eiddo i’n gwlad o HS2 na datganoli Ystâd y Goron chwaith – sy’n hanfodol i fuddsoddiad teg mewn gwasanaethau cyhoeddus ac ysgogi twf economaidd.
“Does dim sicrwydd ychwaith y bydd y Trysorlys yn llenwi’r bwlch sydd wedi’i greu yn ein gwasanaethau cyhoeddus trwy eu cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol, gan adael Cymru’n brin eto.
“Ar ôl 25 mlynedd o gamreoli, mae Llafur allan o syniadau ac yn sgrialu i guddio eu methiannau yn y llywodraeth.”
“Annigonol” ar gyfer trafnidiaeth
Mae sefydliad CPT Cymru yn rhybuddio na fydd y cyllid sydd wedi’i gyhoeddi ar gyfer y diwydiant bysiau’n ddigon i gynnal gwasanaethau presennol, heb sôn am eu tyfu.
Tra ei fod yn croesawu’r cyllid sydd wedi’i gyhoeddi, dywed y Cyfarwyddwr Aaron Hill fod costau cynyddol o gynnal a chadw cerbydau a’r cynnydd yng nghyfraniadau cyflogwyr at Yswiriant Gwladol eu gweithwyr am gael effaith sylweddol ar y diwydiant, gan gynnwys gorfod codi prisiau teithiau a rhedeg llai o wasanaethau.
“Mae CPT Cymru yn annog Llywodraeth Cymru i weithredu ar sail eu hymrwymiad i wella’r rhwydwaith bysiau drwy ddyblu’r cynnydd heddiw i £18m cyn y Gyllideb Derfynol y flwyddyn nesaf,” meddai.
“Byddai methu â gwneud hyn yn achosi perygl o wneud rhwydwaith bysiau Cymru’n llai deniadol a’i gwneud hi’n anoddach i bobol fynd i’r gwaith, cael mynediad at addysg a gofal iechyd, a pharhau i fod wedi’u cysylltu â’u cymunedau.”
‘Rhoi â’r naill law, a thynnu i ffwrdd â’r llaw arall’
“Mae’n glir fod Llafur, mewn cyllidebau y naill ben i’r M4 a’r llall, yn rhoi â’r naill law ac yn tynnu i ffwrdd â’r llaw arall,” meddai Darren Millar, arweinydd newydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn ystod ei sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog gyntaf ers olynu Andrew RT Davies.
“Heddiw, mae’r Prif Weinidog wedi methu â rhoi unrhyw arwydd o gost wirioneddol treth swyddi ddinistriol Rachel Reeves ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, fydd yn ddiau yn symud cannoedd o filiynau o bunnoedd oddi wrth wasanaethau rheng flaen yng Nghymru a’i ddychwelyd i Drysorlys y Deyrnas Unedig.
“Mae llywodraethau Llafur olynol wedi torri Cymru.”