Mae Plaid Cymru’n galw am gyllido teg i Gymru, wrth i Lywodraeth Lafur Cymru baratoi i gyhoeddi eu cyllideb heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 10).

Yn ôl Heledd Fychan, llefarydd cyllid y blaid, mae gan Gymru’r rhestrau aros iechyd hiraf a’r safonau addysg isaf yn y Deyrnas Unedig, a dydy’r economi ddim yn gweithio i bobol.

Ymhlith galwadau penodol y Blaid mae sicrhau’r arian sy’n ddyledus i Gymru yn sgil prosiect HS2, sydd wedi bod yn asgwrn y gynnen ers tro, a dileu Fformiwla Barnett, sy’n pennu faint o arian mae Cymru’n ei gael yn sgil meysydd datganoledig.

“Cawsom addewid gwell gyda dwy Lywodraeth Lafur, ond yn lle hynny, Cymru yw’r berthynas dlawd o hyd, gan dderbyn y setliad ariannu gwaethaf o unrhyw wlad ddatganoledig,” meddai.

“Cyn y gyllideb hon, rhaid i’r Prif Weinidog frwydro dros fargen deg i Gymru, a rhaid i Keir Starmer ddangos parch drwy warantu’r £4bn sy’n ddyledus o HS2 a chael gwared ar hen Fformiwla Barnett sydd wedi ein dal yn ôl ers degawdau.

“Os bydd hi’n methu, yna bydd cyllideb Llafur yn golygu mwy o doriadau a chyllid gwasanaeth iechyd sy’n sicrhau ychydig iawn o enillion.

“Bydd hefyd yn profi nad yw ‘partneriaeth’ bondigrybwyll Eluned Morgan â Keir Starmer yn ddim byd ond myth.

“Ar ôl 25 mlynedd, mae Llafur allan o syniadau ac yn sgrialu i guddio methiannau eu record wael eu hunain mewn llywodraeth.

“Mae’n bryd cael dechrau newydd gyda llywodraeth newydd Plaid Cymru—un fydd yn sefyll dros Gymru, yn brwydro dros y tegwch rydym yn ei haeddu, ac yn darparu atebion uchelgeisiol, hirdymor.”

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2025-26 yn amlinellu mwy na £1bn o ymrwymiadau ariannu ychwanegol ar gyfer “dyfodol mwy llewyrchus i Gymru”.