Mae’n tynnu at y Nadolig. Mae’r gaeaf yma nawr. Ac rydym wedi cael blas ar yr hyn sydd i ddod oherwydd newid yn yr hinsawdd – yma yn Rhondda Cynon Taf, ac ar draws Cymru.
Mae gennym broblem a pherygl penodol yma yng Nghymru oherwydd ein tomenni glo segur, gyda thros 2,500 ohonyn nhw dros y wlad, a’r rhan fwyaf o domenni anniogel yn ardal Rhondda Cynon Taf. Pan ofynnais, fel Aelod Seneddol, i’r Prif Weinidog ar y pryd, Rishi Sunak, am yr arian i’w diogelu, siaradodd am bopeth ond tomenni glo. Mae’r Llywodraeth Lafur wedi dweud y cewn ni £25m nawr i helpu. Ond rydyn ni angen llawer mwy na hyn – ryw £600m o leiaf – i ddiogelu pob tomen yng Nghymru.
Nid pobol Cymru sy’n elwa ar y cyfoeth rydym yn ei greu. Mae’n bryd i ni adeiladu economi lle mae trigolion ein gwlad yn cadw ein cyfoeth yn ein cymunedau! Dyna pam rwy’n gweithio gydag eraill o bob plaid wleidyddol flaengar – a rhai sydd ddim yn aelod o unrhyw blaid – i geisio adeiladu cynghreiriau i ymladd dros system economaidd, wleidyddol a chymdeithasol sy’n cefnogi pobol, heddwch a’r blaned – nid elw.
Gadael Llafur
Fe wnes i benderfynu gadael y Blaid Lafur ar ôl cloi fy swyddfa fel Aelod Seneddol yng Nghwm Cynon ddiwedd mis Hydref. Na – mae hynny’n anghywir. Y Blaid Lafur sydd wedi gadael fi!
Mae’n glir i fi, er bod pobol ag egwyddorion sosialaidd yn dal yn y Blaid Lafur, fod y blaid wedi symud ymhell oddi wrth yr egwyddorion hynny. Yn lle rhoi treth ar gyfoeth, maen nhw’n lleihau arian i gefnogi plant a phensiynwyr. Ac ar yr un pryd, maen nhw’n barod i wario arian ar arfau i ladd pobol – ond does dim digon o arian i sicrhau y gallwn ddod â thlodi plant yn ein gwlad i ben.
Mae eu rhethreg ar fewnfudo yn debyg i eiriau’r Ceidwadwyr a Reform UK. Yn lle edrych ar daith ddiogel i bobol sydd wedi dioddef gymaint er mwyn dod i’n gwlad, maen nhw’n sôn am y ffordd orau o’u hatal nhw rhag dod yma! Ac oherwydd eu polisïau, mae nifer yn marw wrth geisio croesi’r Sianel mewn llongau bach. Byddai agor teithiau diogel yn dod â’r llongau bach i ben yn syth.
Rhaid hefyd edrych ar y ffeithiau ynglŷn â mewnfudo – fel y ffaith fod y rhan fwyaf o ymfudwyr yn dod yma i weithio neu i astudio, ac maen nhw’n cyfrannu at ein heconomi. Yn aml hefyd, mae ganddyn nhw deulu yn ein gwlad, ac rydyn ni wedi helpu nifer i ddod yma yn ddiogel o Wcráin ac Affganistan, oherwydd yr ofn, perygl a dinistr yn eu gwlad. Nid ymfudwyr sydd yn gyfrifol am lymder na thlodi yn y Deyrnas Unedig; polisïau llywodraethau a’u methiant i greu economi a chymdeithas fwy cyfartal sydd ar fai. Yn wir, nid mewnfudo yw’r broblem. Y broblem yw rhyfel, newyn, ac anobaith. Ac fe fydd newid hinsawdd yn gwneud pethau’n waeth i bobol ar draws y byd. Felly, mae’n hanfodol ein bod ni’n dilyn polisïau sydd yn atal y broses o newid hinsawdd, fel mater o frys.
Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth Keir Starmer amlinellu polisïau ar gyfer y Llywodraeth Lafur, sef chwe charreg filltir. Mae’n rhaid dweud nad dyma’r tro cyntaf iddo addo gwneud pethau’n wahanol, ac mae ganddo dueddiad i golli golwg ar ei addewidion! Ac mae’n glir i fi nad yw’r cerrig milltir yma yn mynd i newid anghydbwysedd cyfoeth a grym yn ein gwlad. Bydd yr hyn fydd gan y Llywodraeth Lafur yn y Senedd i’w ddweud yn eu Cyllideb yr wythnos hon yn bwysig iawn.
Eraill yn troi at Reform
Mae’n glir fod pobol yng Nghymru yn edrych am atebion i’n problemau gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol, ac mae yna berygl enfawr eu bod nhw’n troi at Reform am atebion. Mae’n bryd, felly, i ni sydd ar y chwith ddod at ein gilydd i baratoi i ymladd yn ôl gyda pholisïau sy’n ateb anghenion pobol Cymru – fel sicrhau bod gan Gymru yr arian sydd ei angen arni i sicrhau diogelwch ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’n Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol – sy’n sicrhau bod gwasanaethau fel hyn ac fel dŵr, trydan, cludiant – gwasanaethau cyhoeddus, felly – i gyd yn eiddo cyhoeddus. Ac mae angen cytundeb rhwng y pleidiau i sicrhau nad yw Reform yn gallu cael y nifer o seddi yn y Senedd sy’n cael ei ragweld.
Ar yr un pryd, rwy’n meddwl am bobol ledled y byd sy’n dioddef oherwydd rhyfel a newyn. Yn benodol, rwy’n meddwl am blant Palesteina a’r ffordd maen nhw wedi dioddef o achos y bomio a’r lladd mae Llywodraeth a byddin Israel yn gyfrifol amdano. Mae un plentyn yn cael ei ladd bob hanner awr ym Mhalesteina. Dyma droseddau rhyfel, dyma lanhau ethnig, dyma hil-laddiad. Ac mae’r Llywodraeth Lafur yn dal i anfon arfau i Israel, ac felly maen nhw wedi’u dal yn y troseddau rhyfel. Mae’n hen bryd, nid yn unig i ni roi stop ar anfon arfau i Israel, ond hefyd rhoi’r gorau i gymhwyso sancsiynau masnach – ac yn wir, fod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn sicrhau nad oes ceiniog o’r gronfa bensiwn yn cael ei buddsoddi yn Israel.
Hoffwn ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Heddychlon i bawb, gan obeithio cydweithio gyda chi dros heddwch, pobol a’r blaned yn 2025!