Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar gynyddu praesept yr heddlu unwaith eto.

Y praesept ydy’r rhan honno o gyllideb yr heddlu sy’n cael ei hariannu gan dreth y cyngor.

Caiff gweddill gwasanaethau’r heddlu eu hariannu gan grantiau Llywodraeth Cymru.

Daw hyn flwyddyn wedi i’r llu gadarnhau cynnydd sylweddol ar gyfer y flwyddyn 2024-25.

Byddai cynnydd arall yn galluogi’r heddlu i gynnal eu safonau yn wyneb chwyddiant a thoriadau gan Lywodraeth Cymru, yn ôl Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu’r rhanbarth.

Ond mae Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn am adborth gan drethdalwyr cyn medru gweithredu’r cynlluniau hyn.

Cynnydd 2024-25

Drwy Gymru a Lloegr, cymedr y gyfran o gyllidebau’r lluoedd sy’n cael ei hariannu gan y praesept ydy 35%.

Ond hyd at 55% o gyllideb Dyfed-Powys sy’n cael ei hariannu ganddo.

Wedi proses graffu y llynedd, cododd y taliadau praesept oedd yn ddyledus gan gartrefi Band D gan 6.2% ar gyfer 2024-25.

Mae hyn yn cyfateb i gynnydd o £312.65 i £332.03 y flwyddyn yng nghyfraniadau’r cartrefi hyn.

‘Angen rhagor o arian’

Bwriad yr ymgynghoriad diweddaraf ydy casglu barn aelodau’r cyhoedd am gynnydd arfaethedig arall ar gyfer 2025-26.

Dywed Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys, fod “gosod y praesept heddlu bob amser yn heriol,” ond fod angen mynd i’r afael â “chwyddiant uchel, costau cynyddol, a galw cynyddol ar ein gwasanaeth heddlu”.

Mewn datganiad, cyfeiriodd y Comisiynydd at sawl man lle’r oedd cynyddu’r praesept ar gyfer cyfnod 2024-25 wedi bod yn hanfodol.

Mae hyn yn cynnwys sicrhau ymatebion cynt a mwy effeithiol i alwadau 999, a chynyddu presenoldeb yr heddlu yn y gymuned.

“Er bod Heddlu Dyfed-Powys wedi gweithio’n galed i wella effeithlonrwydd a sicrhau arbedion, mae angen rhagor o arian i gynnal y lefel o wasanaeth mae ein cymunedau’n disgwyl,” meddai.

Clywed safbwyntiau

Ond mae’r Comisiynydd wedi dewis cynnal ymgynghoriad â threthdalwyr y rhanbarth cyn gweithredu’r cynnydd yn y praesept.

Yn Lloegr, mae angen i’r Comisiynydd gynnal refferendwm lleol er mwyn codi’r praesept uwchben trothwy arbennig.

Dydy hynny ddim yn wir yng Nghymru, ond mae Dafydd Llywelyn yn awyddus i gael clywed safbwyntiau preswylwyr a busnesau’r rhanbarth, serch hynny.

Eglura y bydd eu hadborth yn “chwarae rhan hollbwysig wrth lunio penderfyniadau sy’n effeithio ar ddiogelwch cymunedol”.

Mae modd cyfrannu at yr ymgynghoriad ar wefan Heddlu Dyfed-Powys tan Ionawr 6.

Mae golwg360 wedi gofyn am ragor o wybodaeth am y gyllideb arfaethedig.