Byddai gwahardd gyrwyr ifanc sydd newydd basio’u prawf rhag cario teithwyr yr un oed â nhw am gyfnod yn “gam cadarnhaol”, yn ôl Comisiynydd Heddlu’r Gogledd.
Mae’r AA yn dweud na ddylai pobol ifanc dan 21 oed sydd newydd basio’u prawf gyrru gael cario teithwyr dan 21 oed am y chwe mis cyntaf.
Yn ôl Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu’r Gogledd, sy’n cynrychioli’r Blaid Lafur, mae’n rhywbeth yr hoffai weld yn cael ei gyflwyno.
Ynghyd â hynny, mae’r AA am weld gyrwyr ifainc newydd yn derbyn chwe phwynt ar eu trwydded am beidio gwisgo gwregys yn yr un cyfnod, fyddai’n golygu eu bod nhw’n colli’u trwydded.
‘Cam cadarnhaol’
Mae Andy Dunbobbin wedi bod yn gweithio gyda rhieni Olivia Alkir, oedd yn 17 oed pan fu farw mewn gwrthdrawiad gafodd ei achosi gan ddau ffrind yn rasio ger Rhuthun yn 2019, i ymgyrchu dros ddiogelwch ffyrdd.
Mae Jo a Masut Alkir eisiau gweld y gyfraith yn newid fel bod gyrwyr newydd yn gorfod cael bocs du, sy’n recordio manylion am y ffordd maen nhw’n gyrru, am flwyddyn o leiaf wedi iddyn nhw basio’u prawf.
“Roedden ni’n weithredol iawn yn cefnogi Jo Alkir ar ôl i’w merch 17 oed, Olivia, farw,” meddai Andy Dunbobbin wrth golwg360.
“Mae gennym ni ychydig o syniad [o effaith profiad fel hyn] – fydd gennym ni byth y syniad llawn oherwydd dw i erioed wedi profi dim byd felly fy hun – y sefyllfa hollol drasig wnaeth arwain at ei marwolaeth.
“Roedden ni eisiau gweld bocsys duon yn dod yn orfodol, ond dw i dal yn meddwl bod hwn yn gam cadarnhaol i geisio cael gwared ar y risg.
“Mae yna fwy o ddamweiniau wedi bod ers hynny, y pedwar bachgen ger Porthmadog, eto damwain drasig arall.”
‘23% o gleifion rhwng 16 a 24’
Yn ôl yr AA, gallai creu math newydd o drwydded ar gyfer gyrwyr newydd ifainc atal 934 o bobol rhag cael eu hanafu ac achub 58 o fywydau ar ffyrdd gwledydd Prydain bob blwyddyn.
Mae mesurau tebyg, sy’n cael eu galw’n Drwyddedu Graddedig ar gyfer Gyrwyr (GDLs), yn cael eu defnyddio yng Ngogledd Iwerddon eisoes.
Pe baen nhw’n cael eu cyflwyno, byddai’n rhaid i yrwyr ifainc roi plât ‘G’ ar eu car, a byddai peidio gwneud yn golygu tri phwynt ar eu trwydded.
Mae’r data ar gyfer 2023 yn dangos bod 986 o bobol ifanc rhwng 16 a 24 oed wedi’u hanafu mewn damweiniau ffyrdd yng Nghymru.
Er mai 10% o boblogaeth Cymru sydd rhwng yr oedrannau hyn, roedd 23% o’r cleifion yn ystod y flwyddyn yn perthyn i’r grŵp oedran hwn.
Fel yr eglura Andy Dunbobbin, mae diogelwch ffyrdd yn un o’i flaenoriaethau fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd, ac mae ei dîm wedi bod yn gweithio gydag Ysgol Brynhyfryd, lle’r oedd Olivia Alkir yn Ddirprwy Brif Ferch, i addysgu disgyblion am beryglon y ffyrdd.
“Mae yna fwy o bobol yn marw ar ein ffyrdd na thrwy ddynladdiad, llofruddiaeth, a phethau felly,” meddai.
“Dw i’n cofio pan wnes i basio fy mhrawf, dywedodd fy nhad wrtha i fod o’n ‘license to kill’, a bod angen bod yn ofalus iawn.
“Wrth edrych ar y data sy’n cael ei ddefnyddio yn Awstralia, Seland Newydd a Sweden, mae yna lai o ddamweiniau’n digwydd, llai o bobol yn cael eu hanafu a’u lladd, hyd yn oed.
“I fi, mae’n rhywbeth fyswn i’n hoffi’i gyflwyno.
“Dw i’n edrych ymlaen at weld beth ddigwyddith nawr.”
Roedd disgwyl i’r ymgyrch i orfodi gyrwyr newydd i gael bocsys duon gael ei chodi yn San Steffan gan y cyn-Aelod Seneddol David Jones.
Er i’r Aelod Seneddol Ceidwadol dros Orllewin Clwyd golli’i sedd yn yr Etholiad Cyffredinol eleni, maen nhw’n anelu at adfywio’r ymgyrch, meddai’r Comisiynydd.
“Dw i’n gwybod bod Claire Hughes, yr Aelod Seneddol newydd dros Fangor ac Aberconwy, â diddordeb mawr ynddo,” meddai, gan ychwanegu ei fod yn poeni’n benodol am feiciau modur yn sgil graddfa’r marwolaethau’n dilyn damweiniau.
‘Newidiadau syml’
Dywed Jakob Pfaudler, Prif Weithredwr yr AA, fod damweiniau ymhlith pobol ifanc yn arwain at yswiriant uwch hefyd.
“Byddai’r premiymau hyn yn disgyn pe bai tystiolaeth bod llai o yrwyr a theithwyr ifainc yn cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol,” meddai, gan ddweud bod cyflwyno GDLs wedi arwain at lawer llai o farwolaethau mewn gwledydd eraill.
“Rydyn ni’n galw ar yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth i wneud newidiadau syml, ymarferol i’r broses drwyddedu fel bod pobol ifanc yn cael eu diogelu’n well am eu ychydig fisoedd cyntaf yn gyrru’n annibynnol.”
Ddechrau’r flwyddyn, dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod nhw o blaid cyflwyno GDLs.
Mae Adran Drafnidiaeth Llywodraeth San Steffan yn dweud nad ydyn nhw’n ystyried GDLs ar hyn o bryd, ond eu bod nhw’n cydnabod fod pobol ifanc yn cael eu heffeithio’n anghymesur gan ddamweiniau ffyrdd, a’u bod nhw’n ystyried mesurau eraill i amddiffyn gyrwyr ifainc.