Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi bod eu hwb aml-asiantaethol newydd ym Mharc Menter Aberhonddu wedi’i gwblhau.

Mae’r hwb, oedd yn ganolfan alwadau segur yn wreiddiol, bellach yn cael ei alw’n Dŷ Brycheiniog.

Bydd yn cael ei ddefnyddio gan y Cyngor a sawl sefydliad arall.

‘Adeilad mwy ymarferol, cost-effeithiol, a chynaliadwy’

Mae’r datblygiad yn rhan o brosiect sydd wedi’i ariannu drwy gyllid gwerth £3.5m gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Cafodd yr arian ei sicrhau gan Wasanaeth Economi a Hinsawdd Cyngor Sir Powys.

Yn ystod y broses, roedd cyfle am swydd i brentis ar y safle, ac fe groesawodd Tŷ Brycheiniog fyfyrwyr gwaith coed o Goleg Bannau Brycheiniog.

Yn rhan o’r gwaith adnewyddu, mae Beacons Business Interiors wedi gosod lifft a deunyddiau di-garbon neu gynaliadwy yn yr adeilad.

“Mae’r datblygiad hwn wedi creu adeilad mwy ymarferol, cost-effeithiol i’r cyngor ei ddefnyddio yn y rhan hon o’r sir, gan wneud ein darpariaeth o wasanaethau yn fwy cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol,” meddai’r Cynghorydd Jake Berriman, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros gynllun Powys Gysylltiedig.

“Mae hefyd yn ein helpu i leihau ein hôl troed carbon.”

‘Cynnal perthnasoedd cadarnhaol’

Bydd y llawr cyntaf newydd ar gael i wahanol asiantaethau o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.

Bydd yr ail lawr yn cael ei ddefnyddio fel swyddfa ar gyfer staff y Cyngor.

“Bydd symud i’r amgylchedd gwaith newydd, mwy hyblyg hwn yn ein helpu i gynnal perthnasoedd cadarnhaol gyda’n partneriaid a rhyddhau safle datblygu y mae mawr ei angen yn Aberhonddu, yn Neuadd Brycheiniog ar Ffordd Cambria,” meddai’r Cynghorydd David Selby, sydd â chyfrifoldeb dros gynllun Powys Fwy Llewyrchus.

Mae disgwyl i staff y Cyngor symud o’u swyddfeydd presennol yn Neuadd Brycheiniog i’r swyddfa newydd yn gynnar yn 2025.