Mae Paid â Dweud Hoyw yn dangos bod bywyd Stifyn Parri wedi “newid yn gyfangwbl”, meddai’r cyflwynydd, gan rybuddio nad ydy “bywydau pawb [yn y gymuned LHDTC+] ddim wedi newid”.

Dydy Stifyn Parri ddim yn ddieithr i wobrau BAFTA Cymru, fel cyflwynydd cynta’r gwobrau ar y cyd â Siân Phillips yn 1993.

Er ei fod wedi cynhyrchu deuddeg o’r seremonïau erbyn hyn, yn aelod o’r pwyllgor ac wedi bod yn gyfarwyddwr, eleni oedd y tro cyntaf iddo gael enwebiad.

Roedd ei brofiad yn seremoni BAFTA Cymru yng Nghasnewydd neithiwr (nos Sul, Hydref 20) yn “newydd”, ond yn “gartrefol ar yr un pryd”, meddai.

Roedd wedi’i enwebu am y wobr Cyflwynydd yn dilyn cynhyrchiad ei raglen hunan- ddarganfyddiad Paid â Dweud Hoyw.

Ymhlith yr enwebeion eraill yn y categori Cyfwynydd roedd Chris Roberts gyda’i raglen Siwrna Scandi Chris, a Lemarl Freckleton gyda Black Music Wales.

Ond aeth y wobr i Rhod Gilbert am ei raglen Rhod Gilbert: A Pain in the Neck yn trafod ei daith ganser.

Cymal 28

Roedd y rhaglen Paid â Dweud Hoyw (cynhyrchiad gan Rondo Media) yn gyfle i Stifyn Parri adrodd stori Cymal 28.

Wedi i Stifyn guddio ei rywioldeb nes yn 26 oed, mae’r rhaglen wedi cynnig cyfle iddo ddweud ei wir a sut beth oedd brwydro yn erbyn y Cymal 28, y gyfraith oedd yn atal awdurdodau lleol rhag hyrwyddo gwrywgydiaeth.

Pwysleisia Stifyn Parri bwysigrwydd cynrychiolaeth o gefndiroedd y gymuned LHDTC+ yma yng Nghymru.

Mae cyflwyno a chael enwebiad am ei raglen yn golygu bod ei fywyd wedi “newid yn gyfangwbl”, meddai, ond dydy pawb ddim yn yr un sefyllfa â fo, meddai.

Cyn y seremoni, fe fu Stifyn Parri yn siarad â golwg360: