Mae Ysgrifennydd Economi Cymru wedi canmol ffyniant y sector creadigol yng Nghymru.

Fe ddatgelodd adroddiad diweddar drosiant blynyddol o £1.5bn yn y diwydiannau, sydd wedi’u cefnogi gan gorfforaeth Cymru Greadigol, yn 2023.

Mae hyn yn dwf o 10% ers y flwyddyn flaenorol.

Yn ôl Rebecca Evans, dylid “gweiddi o’r toeau am gryfer a llwyddiant ein diwydiannau creadigol yng Nghymru”.

Hwb economaidd

Yn ôl yr adroddiad, mae 3,595 o fusnesau bellach ynghlwm â’r diwydiannau creadigol yng Nghymru, sy’n gynnydd o 12% ers 2018.

Yn ogystal, mae dros 35,000 o bobol bellach yn gweithio yn y sectorau hyn, sy’n cynnwys cynhyrchu ar gyfer ffilm a theledu, gemau fideo, a cherddoriaeth.

Mae’r ffyniant a’r twf mae’r diwydiannau hyn wedi’i brofi yn uwch na’r cyfartaledd ar gyfer gweddill economi Cymru.

Ymhlith llwyddiannau mwyaf blaenllaw’r flwyddyn ddiwethaf roedd y rhaglenni teledu House of the Dragon, Men Up a Lost Boys & Fairies.

“Mae’r ffigurau hyn yn dangos yr hyn yr oedden ni eisoes yn ei amau – bod y sectorau ffilm a theledu, cerddoriaeth, gemau, digidol, animeiddio a chyhoeddi bellach yn gyflogwyr pwysig yma, gyda throsiant a swyddi yn tyfu ar gyfradd sy’n llawer uwch na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru,” meddai Rebecca Evans wedyn.

Buddsoddiadau Cymru Greadigol

Cafodd corff Cymru Greadigol ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn 2000.

Ei nod ers y dechrau yw buddsoddi mewn mentrau creadigol fydd yn cynnal twf a momentwm y diwydiant.

Mae bellach wedi cyfrannu at ryw £313m o wariant amodol yn economi Cymru, diolch i fuddsoddiadau mewn cyllid cynhyrchu.

“Roeddwn i wrth fy modd bod adroddiad diweddar gan Ffederasiwn Busnesau Bach yn cynnwys adborth gan y sector ynghylch yr effaith gadarnhaol y mae Cymru Greadigol yn ei chael,” meddai Rebecca Evans.

“Gall busnesau creadigol fod yn sicr y byddwn ni, drwy Cymru Greadigol, yn parhau i weithio’n agos gyda nhw i helpu i sicrhau bod gan y sector ddyfodol bywiog, cynaliadwy ac iach.”

Yn ogystal, mae Jack Sergeant, y Gweinidog Sgiliau, hefyd yn brolio cyfraniad y gronfa at ddatblygu sgiliau yng Nghymru.

“Mae buddsoddiadau Cymru Greadigol bob amser yn cael eu targedu at gryfhau’r diwydiant yn y tymor hir – er enghraifft drwy brentisiaethau a lleoliadau uwchsgilio,” meddai.

“Mae’r buddsoddi hwn mewn datblygu sgiliau yn allweddol i gynnal a datblygu diwydiant sydd â chymaint o botensial inni fel cenedl.”