Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am dro pedol ar doriadau “difrifol a niweidiol” i’r sector cyhoeddi Cymraeg.

Daw’r alwad mewn llythyr agored at Mark Drakeford, sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg yn Nghabinet Llywodraeth Cymru.

Yn ôl Cyngor Llyfrau Cymru, mae’r toriadau i’w cyllideb ar gyfer cwmnïau cyhoeddi Cymraeg dros y deng mlynedd diwethaf gyfwerth â 40% mewn termau real, sydd wedi achosi lleihad o 34% yn nifer y llyfrau Cymraeg gafodd eu cyhoeddi gan y prif gyhoeddwyr gyda chefnogaeth grantiau.

Mae’r mudiad wedi galw ar Lywodraeth Cymru i adfer lefel y cyllid i’r hyn yr oedd yn 2010, ac i’r cyllid gael ei warchod i’r dyfodol, gan ddweud y byddai peidio â gwneud hynny yn peryglu ymdrechion y Llywodraeth yn eu strategaeth ‘Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr’.

Effaith “ddirfawr”

Mae sawl unigolyn blaenllaw yn y maes, megis Lefi Gruffudd, pennaeth golygyddol gwasg Y Lolfa; Myrddin ap Dafydd a Llio Meirion, Cyfarwyddwyr Gwasg Carreg Gwalch; ac Ashley Drake, cadeirydd dros dro Cyhoeddi Cymru, eisoes wedi mynegi pryder dros ddyfodol y diwydiant cyhoeddi llyfrau Cymraeg.

“Mae effaith y toriadau yn ddirfawr ac yn ddifrifol o safbwynt peryglu cwmnïau cyhoeddi a swyddi, a rheiny yn swyddi sydd wedi eu lleoli yn aml o fewn cymunedau Cymraeg ac sydd yn gofyn am sgiliau yn y Gymraeg,” meddai Joseff Gnagbo, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.

“Mae cyfraniad y sector cyhoeddi a gweisg yn gwbl hanfodol i ddyfodol yr iaith a diwylliant Cymreig, ac o ran cyfrannu at gyflawni nodau’r Llywodraeth yn eu strategaeth Cymraeg 2050 i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac i ddyblu’r gyfran o’r boblogaeth sy’n defnyddio’r iaith bob dydd.

“Galwn arnoch i ailystyried y toriadau hyn ac i adfer lefel y cyllid ar gyfer cyhoeddwyr Cymraeg sy’n cael ei ddarparu trwy Gyngor Llyfrau Cymru i’r hyn oedd yn 2010, ac i amddiffyn y gyllideb hon yn y blynyddoedd nesaf fel rhan o weithredu ymrwymiad y Llywodraeth i sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r iaith Gymraeg.”