Mae dyn ifanc wedi cyhuddo’r cyn-ddarlledwr Huw Edwards o ymddygiad amhriodol tra’r oedd yn ddisgybl ysgol 18 oed.

Fe wnaeth y darlledwr 63 oed anfon negeseuon awgrymog ato a’i wahodd i ymweld ag adeilad y BBC yn Llundain, meddai.

Cafwyd Huw Edwards, sy’n wreiddiol o Langennech yn Sir Gâr, yn euog ym mis Medi o greu delweddau anweddus o blant.

Dydy honiadau’r dyn ifanc, sy’n dyddio’n ôl i 2018, ddim yn gysylltiedig â’r achos troseddol hwn.

Mae Emyr (nid ei enw go iawn) yn credu ei bod hi’n “amlwg bod e’n trial groomo fi”.

“Mae pobol fel fe yn credu eu bod nhw’n gallu gwneud beth bynnag maen nhw mo’yn, ac abuso’r pŵer. Jyst manipulative completely,” meddai wrth siarad am y tro cyntaf ac yn anhysbys gyda rhaglen materion cyfoes Y Byd ar Bedwar ar S4C.

‘Gwneud cysylltiad’ gyda’r dyn ifanc

Fe wnaeth Emyr gyfarfod â Huw Edwards mewn cyngerdd, lle’r oedd yn perfformio yn ei wisg ysgol, a’r darlledwr yn arwain y noson.

“Fe ddaeth e lan ato fi ar ddiwedd y gyngerdd i ddweud helo,” meddai.

“Fe ddywedodd e bod y perfformiad yn dda, ’mod i’n dalentog iawn, a bod diddordeb gyda fe i wneud rhyw fath o gysylltiad da fi.”

Dywed fod Huw Edwards wedi gofyn iddo fe ei ddilyn ar Instagram, ac y gallai ei helpu gyda’i yrfa’n perfformio.

“Roedd e wedi gofyn os fydden i mo’yn dod i Lundain i gwrdd â fe a gweld y BBC, ac y gallai fe rhoi tour i fi, ac efallai cwrdd â chwpwl o gysylltiadau.”

Banter ar y pryd’

Ar ôl i Emyr gwrdd â Huw Edwards, bu’r ddau yn siarad ar-lein am rai wythnosau wedyn a byddai Huw Edwards yn aml yn rhoi cusanau a chalonnau ar ddiwedd ei negeseuon, gan ei alw’n “babe” a “big boy“, meddai.

Ar y pryd, roedd Emyr yn credu fod Edwards yn bryfoclyd, ond nawr mae’r negeseuon yn ymddangos yn amhriodol.

“Roedd e’n trial fflyrtio; rhyw fath o grooming communication,” meddai.

Derbyniodd e’r cynnig i gael ei dywys o amgylch y BBC yn Llundain, ac fe gafodd ei gyflwyno fel “ffrind” a “thalent” ym myd perfformio gand Huw Edwards, oedd yn dweud y gallai ei helpu i gael cyfleoedd i berfformio mewn cyngherddau yn Llundain.

Ond daeth y cysylltiad rhwng Emyr a Huw Edwards i ben yn fuan wedyn, a doedd dim cyfleoedd wedyn.

“Roedd e jyst wedi colli diddordeb ynddo fi,” meddai.

“Fi’n meddwl o’n i ddim yn rhoi iddo fe beth oedd e’n chwilio am.”

‘Camddefnyddio pŵer’

Yn ôl Emyr, roedd Huw Edwards wedi camddefnyddio’r pŵer oedd ganddo fe fel un o wynebau amlyca’r BBC.

“Mae pobol fel fe yn credu maen nhw’n gallu gwneud beth bynnag maen nhw mo’yn… ac abuso’r pŵer.

“Rwy’n teimlo’n drist iawn am y bobol sydd wedi cael eu heffeithio’n waeth na fi.

“Fi’n teimlo’n lwcus mewn ffordd.

“Mae fe’n hollol disgusting.”

Mae nifer o gyn-gydweithwyr Huw Edwards wedi siarad â’r rhaglen, ac mae nifer yn dweud iddyn nhw ei weld yn tywys ymwelwyr o amgylch y BBC, ond nad oedd hynny’n ymddangos yn amhriodol ar y pryd.

Dydy Huw Edwards ddim wedi ymateb i honiadau’r rhaglen.

Dywed Emyr fod ei brofiadau’n gwneud iddo fe gwestiynu prosesau a gwiriadau’r BBC.

Ond dywed y BBC fod “polisïau diogelu cadarn yn eu lle”, a bod unrhyw bryderon sy’n dod i’w sylw’n “cael eu hystyried yn ofalus”.

  • Bydd Y Byd ar Bedwar: ‘Huw Edwards: y darlledwr, y troseddwr’, yn cael ei darlledu ar S4C heno (nos Lun, Tachwedd 18) am 9 o’r gloch.