Wel, mae criw Eisteddfod Genedlaethol Cymru eisoes wedi datgelu lleoliad maes yr Eisteddfod nesaf yn Wrecsam, a chafwyd ymatebion cymysg i’r newyddion taw yn ardal Is-y-Coed y byddai hi.
Roeddwn i, wrth gwrs, wedi bod yn ymgyrchu ac yn croesi bysedd na fyddai’r Brifwyl yn cael ei lleoli yng nghanol tref Wrecsam – achos Duw a ŵyr lle fyddai pethau fel y Pafiliwn yn mynd?! Roeddwn hefyd wedi gobeithio y byddai draw ym mro fy mebyd, sef Erddig. Ond ta waeth, da yw cael dechrau cynllunio nawr at steddfod mewn ardal benodol.
A finnau wedi byw ar hyd a lled y ddinas-sir, roeddwn wedi bod yn ystyried yr opsiynau ers o leiaf adeg Eisteddfod Tregaron – a phan glywais taw yn ardal ‘Is-y-coed’ y byddai hi, fy ymateb cyntaf oedd… ble?!
Yn wir, rhaid bod yn onest fa’ma, a chyfaddef nad oeddwn erioed wedi clywed am yr ardal dan sylw, nac ychwaith wedi talu fawr o sylw i ardal yr ystâd ddiwydiannol gerllaw! Ond dw i bellach wrth fy modd hefo’r dewis yma, ac yn edrych ymlaen at archwilio potensial yr ardal dros y misoedd nesaf.
‘Perci’ Wrecsam a’r posibiliadau
Brîff eithaf beichus oedd gan griw’r Eisteddfod. Yn ôl Llinos Roberts, cadeirydd y Pwyllgor Gwaith lleol, roedd angen 150 erw o dir i gyd, ac yn ddelfrydol i gyd mewn un lle fel y gall y Maes, y maes carafanau, Maes B a phob dim arall fod efo’i gilydd.
Dim ond un ‘parc’ sydd gan Wrecsam, a hwnnw ‘yng nghanol dre’ sef ‘Llwyn Isaf’, lle cafodd seremoni cyhoeddi’r Eisteddfod ei chynnal, a dim ond 1.4 erw ydi hwnnw! Wedyn, mae parc Bellevue, tua milltir tu fa’s i ganol y ddinas, mewn lleoliad maesdrefol na fyddai’n amlwg na chyfleus i neb, ac 16.6 erw yn unig ydi hwnnw.
Mae rhai wedi sôn y byddai Parc Acton yn berffaith, a hwnnw ddim ond 1.5 milltir o ganol y ddinas, ond dim ond 59 erw ydi o, felly 90 erw yn brin o’r 150 oedd ei angen!
Bu sôn fod posibilrwydd y byddai’r maes draw ym Mharc Bonc yr Hafod, fyny tuag at Rhosllannerchrugog, a hwnnw’n 93 erw, a dim ond 1.8 milltir o Barc Stryt Las sy’n 18 erw, felly fysai hynny wedi cynnig trwch y tir oedd ei angen, a phosibiliadau difyr wedyn, gan fod Parc Bonc yr Hafod ddim ond 2.3 milltir o’r Stiwt, tra bod Parc Stryt Las filltir yn unig o’r Stiwt! A’r holl leoliad ond yn rhyw bedair milltir o ganol y ddinas.
Ac ie, mi fysa hyn wedi bod yn lleoliad teilwng, ac ydi mae Rhosllannerchrugog yn rhan o ddinas-sir Wrecsam, gan taw’r sir, ac nid dim ond y tref, ddaeth yn ddinas! A dyma ran o’r ddinas-sir fysa wedi elwa fwyaf o ymweliad yr Eisteddfod, gan ei bod yn un o ardaloedd tlotaf y ddinas, yn ôl y cyfrifiad; fysa’r Stiwt wedi bod yn lleoliad perffaith ar gyfer sawl digwyddiad, a fysa’r gwaddol o ran yr iaith yn yr ardal wedi bod yn anhepgor yn y cyd-destun cyfoes.
Mae Parc Alun Waters yn 375 erw, ryw dair neu bedair milltir o ganol y ddinas, felly fysa hwnnw wedi bod yn opsiwn, ond mae’n debyg fod yna resymau da nad hwnnw aeth â hi. Mae Erddig yn lleoliad anoddach i wirio ffeithiau amdano, gan ei fod wedi’i rannu rhwng ffermwyr a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac yn hynny o beth efallai roedd yn fwy anodd ei ‘mofyn. Rwy’ hefyd wedi bod yn synfyfyrio am y tylluanod, ystlumod, wiwerod, draenogod a ballu, ac yn ystyried os oedden nhw wedi codi pryderon eu hunain… sy’n ddigon teg, yn fy marn i.
Ardal Is-y-Coed, lleoliad Harry Potteraidd!
Ardal Is-y-Coed amdani felly, a minnau’n ffeindio’n hun yn cofio am ‘The room of requirement’ yn straeon Harry Potter, lle fyddai’r stafell ddim ond yn ymddangos pan oedd rhywun wir ei hangen hi.
Pwy wyddai fod yna ardal oedd yr union maint, siâp a natur perffaith ar gyfer anghenion cynnal Steddfod, reit ene’n aros i gael ei droi’n feysydd?! Ond dene fo, chi’n gweld, mae criw’r Steddfod ‘cw wedi bod yn gweithio’n galed ar ein rhan ni – a finnau fel sawl un, rwy’n siŵr, yn edrych ymlaen at ddod i nabod y gornel fach hon o’r ddinas na chafodd lawer o sylw cyn rŵan.
Mae yna rai sydd wedi bod yn sôn taw un o’r rhesymau dros gynnal y Steddfod yng nghanol y ddinas oedd i sicrhau bod pobol yn ymwybodol fod yr Eisteddfod ymlaen yn Wrecsam. Rhaid i mi ddweud, dyma’r rheswm gwannaf o’r cwbl lot, yn fy marn i!
Ai dyna’r ffordd orau i bobol gael gwybod am yr Eisteddfod, tybed – baglu drosti wrth iddyn nhw fynd o gwmpas eu pethau nhw eu hunain yng nghanol y ddinas?! Hynny ydi, gan fod y strydoedd ynghau a’u bod nhw yn gorfod gyrru o amgylch y ddinas mewn dryswch? Neu gan fod yr ambiwlans maen nhw ynddo, wrth gael eu tywys i’r ysbyty, yn cael ei ddal mewn tagfeydd traffig?
Yn bersonol, fyswn i’n cynnig fod yna ffyrdd gwell na hynny i hysbysebu’r Eisteddfod, a hynny ymlaen llaw, megis taflen wybodaeth wrth wahodd trigolion i ymgeisio am eu tocynnau am ddim i’r maes, a thrwy grwpiau creadigol sy’n gweithio yn rhannau tlotaf y ddinas, megis Canolfan Plas Madoc.
Gyda’r meysydd i gyd mewn un lle, hawdd fyddai trefnu i’r tacsis lleol i gyd leoli eu hunain mewn mannau cyfleus i’r Steddfotwyr gael eu ‘mofyn. A’r bws wennol wedyn… mae’n demtasiwn rhentu bws am yr wythnos (gydag arwyddion punnoedd yn fy llygaid!)
Ac mae’r maes ond ryw bum milltir o le ydw i heddiw, yn eistedd yn fy stiwdio gelf yn Rhosrobin, yn teipio’r geiriau hyn. Rwy’n ffeindio’n hun nawr yn dechrau canu yn fy mhen:
“Awn am dro i Is-y-coed,
awn am dro i Is-y-coed,
dyna le mor hapus ag y buon ni erioed,
awn am dro i Is-y-coed….”