Cyhoeddodd yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos ddiwethaf mai yn ardal Is-y-coed i ddwyrain y ddinas fydd y Brifwyl yn cael ei chynnal fis Awst nesaf.

Daeth y cyhoeddiad ar ôl mis o ddyfalu lle fyddai’r ŵyl yn cael ei chynnal, ac roedd golwg360 yn deall bod lleoliadau yn agosach i ganol y ddinas, megis ardal Erddig i’r de, dan ystyriaeth hefyd.

Ers hynny, rydym wedi bod yn siarad â thrigolion y ddinas i gael eu hymateb.

‘Dewis uffernol’

Yn ôl un o gynghorwyr Wrecsam, nad yw am gael ei enwi, mae’r penderfyniad i gynnal yr Eisteddfod ger ystâd ddiwydiannol Wrecsam yn “uffernol”.

Awgryma fod yr Eisteddfod wedi dewis lleoliad mwy gwledig “oherwydd gân nhw fwy o bres gan garafanwyr a gwersyllwyr a stondinau ar y Maes”.

Ychwanega fod hynny’n “codi cwestiwn i ba bwrpas ydan ni’n symud y Steddfod o gwmpas”.

“Er mwyn y sefydliad Eisteddfodol, neu er mwyn yr ardal sy’n ei chynnal?” gofynna.

“Dydyn nhw [yr Eisteddfod] ddim yn gwrando ar bobol leol, a chawson ni fel Cyngor ddim mewnbwn yn y penderfyniad.”

Ond mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn gwadu bod hynny’n wir.

“Mae’r Eisteddfod wedi gweithio’n agos gyda swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’n pwyllgor gwaith lleol ar hyd y daith er mwyn darganfod tiroedd addas i gynnal yr Eisteddfod yn ardal sir Wrecsam,” meddai llefarydd ar ran yr Eisteddfod.

“Mae lleoliad yr Eisteddfod yn seiliedig ar nifer fawr o ffactorau, a thrafodwyd y rhain oll gyda’r Cyngor a chydag ein swyddogion lleol wrth asesu gwahanol opsiynau.

“Mae’r ymateb i gynnal yr Eisteddfod yn ardal Is-y-coed wedi bod yn gadarnhaol iawn yn lleol a chenedlaethol, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu pawb i Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam y flwyddyn nesaf.”

Lleoliadau eraill

Y tro diwethaf i’r Brifwyl ymweld â Wrecsam, roedd y Maes yn ardal y Bers, ac o fewn taith gerdded fer i ganol y dref.

Mae golwg360 yn deall bod hawl cynllunio ar y tir hwnnw, felly doedd hi ddim yn bosib defnyddio’r un lleoliad y tro hwn.


Mae’r lleoliad sydd wedi’i ddewis ar gyfer 2025 ryw bum milltir i ffwrdd o ganol y dref.

Ond beth mae trigolion Wrecsam wir yn ei feddwl?

“Cydymdeimlo efo’r trefnwyr”

Chris Evans

Wrth siarad â golwg360, dywed Chris Evans, sy’n rheoli tafarn Gymraeg y ddinas, y Saith Seren, ei fod “yn cydymdeimlo efo’r trefnwyr” oherwydd faint o seilwaith sydd wedi cael ei adeiladu ers yr Eisteddfod ddiwethaf yn Wrecsam.

“Mae yna lot o dai wedi cael eu hadeiladu yn y cyfamser, a llai o dir mawr, fel sydd angen ar gyfer Steddfod, yn agos at y dref,” meddai.

“Mae hi’n braf cael pob dim efo’i gilydd, y maes carafanau, Maes B, a’r Maes ei hun.”

Yn ôl Chris Evans, mae’n angenrheidiol i’r Eisteddfod a Chyngor Wrecsam sicrhau bod “bysus yn dod yn rheolaidd” i’r ddinas, er mwyn i bobol gael profi’r ddinas tra maen nhw yn yr Eisteddfod, a hefyd i roi cyfle i drigolion Wrecsam gael ymweld â’r Eisteddfod.

Ychwanega ei fod yn gobeithio “bod y bysus yn stopio tu allan i’r Saith Seren”, fel bod pobol yn gallu ymweld â’r dafarn Gymraeg.

Ond a fydd pobol yn ymwybodol fod yr Eisteddfod wedi dod i’r ardal leol, ac a oedd Pontypridd yn esiampl i Wrecsam o sut i gynnal Eisteddfod y tu allan i gadarnle’r Gymraeg a chynnwys y gymuned ddi-Gymraeg yn y dathliadau?

“Mae yna beryg [na fydd pobol yn ymwybodol o’r Eisteddfod],” meddai Chris Evans.

“Ond mae yna lot o bobol Wrecsam yn gweithio yn y stad ddiwydiannol, sydd o fewn milltir i’r Maes, a dw i’n siŵr fyddan nhw’n ymwybodol iawn bod y Steddfod ymlaen.

“Mae o i fyny i ni a swyddogion y Steddfod i farchnata’r peth yn dda, a dw i’n siŵr fydd yna ddiddordeb os mae’r bysus yma’n rhedeg yn rheolaidd, ac am ddim.”

‘Gwell bod o ar dir amaethyddol’

Geraint Wyn Jones

Mae Geraint Wyn Jones yn gweithio yn siop Gymraeg Siwan yn Nhŷ Pawb yng nghanol y ddinas.

Mae’n credu ei bod hi’n “well bod [y Maes] ar dir amaethyddol”.

“Dw i’n gwybod fod yna un syniad i’w gael o yng nghanol Wrecsam, ond mae gwell gen i gael Eisteddfod draddodiadol allan yn y wlad,” meddai.

“Er bod o’n agos i’r stad ddiwydiannol, dw i ddim yn meddwl y bydd o’n effeithio dim ar y Steddfod.

“Hwyrach fydd yna weithgareddau yn cael eu trefnu yn Wrecsam yn ystod yr wythnos, a bydd hyn yn tynnu pobol o’r Maes i’r ddinas.”

Mae Siop Siwan yn gobeithio agor stondin ar y Maes, a pharhau i fod ar agor yn Nhŷ Pawb – sy’n dangos, efallai, y cyfleoedd economaidd i fusnesau sydd yn dewis manteisio ar y ffaith fod y Brifwyl yn dod ag ymwelwyr i’r siop ar y Maes ac yn y dref hefyd.

Dywed Geraint Wyn Jones, sy’n dad i Siwan, y bydd o efallai “yn tynnu ar y teulu estynedig i helpu” efo rhedeg y ddau leoliad yn ystod yr wythnos.

Edrych ymlaen

Hefyd yn y Saith Seren neithiwr (nos Iau, Tachwedd 1) roedd Siân, Karen, Deborah a Ray.

Siân

“Mae rhaid i mi gyfaddef, mi oeddwn i braidd yn siomedig,” meddai Siân.

“Ond rŵan, dw i’n siŵr fydd popeth yn iawn os oes yna ddigon o fysus yn mynd o’r Saith Seren a Thŷ Pawb i’r Maes.

“Ond bysa fo wedi bod yn neis cael rhywle yn agosach i’r ddinas – mi oedd y lleoliad yn y Bers yn 2011 yn eithaf cyfleus, on’d oedd.”

 

Karen

“Dwi’n meddwl mae o’n grêt, i ddweud y gwir,” meddai Karen.

“Mae o’n lle hyfryd a thawel – ia, yng nghanol nunlle – ond dw i’n meddwl bod o’n iawn.

“Mae o’n hawdd cyrraedd o’r gogledd neu’r de, felly dw i’n hapus iawn.”

Deborah

“Dw i’n teimlo dipyn yn siomedig, oherwydd dydi o ddim yng nghanol y dref,” meddai Deborah.

“Oherwydd roeddwn i’n edrych ymlaen ato fo fod yn agos i’r Saith Seren ac, efallai yn eithaf hunanol, yn agos i ni oherwydd dw i’n byw yn y canol.

“Ond dw i yn deall pam maen nhw wedi dewis y safle yna, oherwydd mae yna ddigon o le i’r holl ŵyl.”

Ray

“Byddai o’n well efo fi os byddai’r ŵyl ychydig yn agosach i’r ddinas achos, yn arbennig i’r Saith Seren, wrth gwrs, mae o’n gyfle i ddenu mwy o bobol yma,” meddai Ray.

“Dw i wastad yn mynd i’r Steddfod, ers blynyddoedd, ond tro yma mi wna i gael tocyn am yr wythnos, sy’n rhatach i fi!”