Gallai adeilad hen fanc a thafarn yng nghanol tref Pontypridd gael ei droi’n fflatiau.
Mae cais cynllunio ar y gweill i droi hen gangen HSBC ar Stryd Taf yn naw fflat un ystafell a stiwdio.
Wedi’i adeiladu’n wreiddiol fel Gwesty’r Butchers Arms, hwn oedd banc HSBC ar ochr ddeheuol Stryd Taf tan yn ddiweddar, a hwnnw gyferbyn â chyffordd Stryd y Felin ac i’r gogledd o’r lôn sy’n cynnig mynediad at Barc Ynysangharad.
Dydy’r adeilad ddim wedi’i restru, ond dywed yr adroddiad cynllunio ei fod yn cyfrannu’n bositif at Ardal Gadwraeth Canol Tref Pontypridd.
Does dim sylwadau na gwrthwynebiadau wedi’u derbyn gan y cyhoedd mewn perthynas â’r cais.
Adroddiad
Dywed yr adroddiad fod y cynigion ar gyfer tu allan i’r adeilad yn golygu ychydig iawn o newid i wead yr adeilad, ac eithrio tynnu grisiau allanol yn y cefn a mynedfa alwminiwm a sgriniau ochr.
Mae swyddogion cynllunio’n argymell bod Pwyllgor Cynllunio Rhondda Cynon Taf yn cymeradwyo’r cais ddydd Iau nesaf (Tachwedd 7).
“Mae egwyddor y datblygiad arfaethedig yn cydymffurfio â gofynion polisi cynllunio allweddol ar lefel leol a chenedlaethol, ac mae’n dderbyniol fel arall yn nhermau ystyriaethau cynllunio materol perthnasol,” medden nhw yn eu hadroddiad.
“Ymhellach, mae’r cynigion hefyd yn cynnig y cyfle i ddod ag adeilad nad yw’n cael ei ddefnyddio ac sy’n dechrau dirywio yn ôl i ddefnydd buddiol wrth galon canol y dref, gan ddod ag effaith bositif yn ei sgil o ran bywiogrwydd a dichonolrwydd canol y dref.”