Mae Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr (NUJ) wedi lansio traciwr diogelwch newyddiadurwyr, sy’n ceisio dal achosion o aflonyddu, camdriniaeth a manteisio ar y gyfraith wedi’u targedu at newyddiadurwyr ledled y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.

Daw’r lansiad yn dilyn bygythiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb cynyddol yn erbyn newyddiadurwyr.

Bydd modd i newyddiadurwyr llawrydd a staff rannu eu profiadau’n gyfrinachol drwy ddefnyddio’r offeryn adrodd.

Mae’r NUJ wedi ymgysylltu â gweinidogion y Deyrnas Unedig a rhanddeiliaid allweddol ar gamau gweithredu angenrheidiol i wella diogelwch a newyddiadurwyr.

Maen nhw hefyd yn croesawu cyllid gan Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan i gefnogi’r gwaith o greu’r traciwr.

Sut mae’r traciwr yn gweithio?

Mae’r offeryn adrodd ar-lein yn gofyn cyfres o gwestiynau, gan gynnwys am fygythiadau ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, dynwared trwy e-byst, a’r defnydd o ysbïwedd (spyware).

Gall newyddiadurwyr hefyd adrodd am unrhyw drais corfforol, a hysbysu am Gyfreithiau Strategol yn Erbyn Cyfranogiad y Cyhoedd (SLAPPs) gan gynnwys adnabod y rhai dan amheuaeth o droseddu.

Mae’r undeb wedi pwysleisio’r angen am fwy o fuddsoddiad i fynd i’r afael â diogelwch a helpu i atal normaleiddio camdriniaeth yn erbyn newyddiadurwyr.

Galw ar gyflogwyr i “wneud mwy i gefnogi” newyddiadurwyr

Yn ôl Michelle Stainstreet, ysgrifennydd cyffredinol Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr, mae lansiad y traciwr diogelwch yn “garreg filltir”, sydd wedi’i hanelu at olrhain tueddiadau o gam-drin annerbyniol mae newyddiadurwyr yn eu hwynebu’n rhy aml o lawer.

“Gall iaith rhywiaethol a hiliol sydd wedi’i thargedu at newyddiadurwyr benywaidd a’r rhai o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, ymosodiadau corfforol ac aflonyddu ar-lein, bellach gael eu dal yn systematig ochr yn ochr â’r bygythiadau sy’n cael pàs gan y wladwriaeth y gwyddom eu bod yn bodoli.

“Mae’r undeb eisiau i newyddiadurwyr ymgysylltu â’r traciwr, a’n helpu ni i greu darlun clir o raddfa’r brawychu, y bygythiadau a’r trais maen nhw’n ei wynebu dim ond am wneud eu swyddi.

“Dylai rôl newyddiaduraeth yn ein democratiaeth gael ei gwerthfawrogi gan bawb, gan gynnwys y llwyfannau ar-lein sy’n elwa’n fawr ar gynnwys ond sy’n methu â chyflawni mesurau i amddiffyn newyddiadurwyr ar-lein.

“Mae arnom angen i gyflogwyr wneud mwy i gefnogi’r newyddiadurwyr maen nhw’n eu cyflogi ac yn ymgysylltu â nhw, ac mae angen i’r heddlu gynyddu eu gwaith i ddod â throseddwyr i gyfrif.

“Mae’r Undeb yn gobeithio y bydd ein traciwr diogelwch newyddiadurwyr yn fan cychwyn ar gam nesaf uchelgeisiol gwaith y Pwyllgor Cenedlaethol dros Ddiogelwch Newyddiadurwyr, wedi’i ategu gan fuddsoddiad ystyrlon gan y llywodraeth i ddileu’r hyn sydd wedi dod yn bla ar draws ein diwydiant.”

‘Ymrwymiad allweddol’

Ychwanega Stephanie Peacock, Gweinidog y Cyfryngau yn San Steffan, fod y wasg rydd yn “dibynnu ar allu ein newyddiadurwyr i wneud eu gwaith heb gamdriniaeth ymosodiad na bygylu”.

Pwysleisia y bydd traciwr diogelwch newyddiadurwyr Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr yn helpu i sicrhau “dealltwriaeth amser real” o amlder a’r math o gamdriniaeth mae newyddiadurwyr yn ei hwynebu.

“Mae’r offeryn yn cyflawni ymrwymiad allweddol yn y Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Diogelwch Newyddiadurwyr, i wella adrodd am ddigwyddiadau fydd yn llywio sut rydyn ni a’r Pwyllgor Cenedlaethol ar Ddiogelwch Newyddiadurwyr yn mynd i’r afael â’r niwed hwn,” meddai.