Ar drothwy gêm rygbi Lloegr yn erbyn Seland Newydd brynhawn fory (dydd Sadwrn, Tachwedd 2), mae un o chwaraewyr Lloegr wedi ymddiheuro ar y cyfryngau cymdeithasol am awgrymu y dylai dawns ryfel yr Haka gael “ei thaflu i’r bin”.

Fe fu’r Haka yn rhan o hanes a thraddodiad y Crysau Duon ers blynyddoedd bellach, gyda dawnsfeydd rhyfel amrywiol yn cael eu perfformio gan wledydd Ynysoedd y De wrth i’r gwrthwynebwyr sefyll mewn llinell i’w hwynebu.

Ond un cwestiwn mawr ers blynyddoedd yw sut y dylai gwrthwynebwyr ymateb – a ddylen nhw sefyll yn llonydd a’i pharchu? Herio’r gwrthwynebwyr drwy gamu ymlaen? Neu ymateb mewn ffordd arall?

Yn 2011, er enghraifft, fe ganodd carfan rygbi Cymru ‘Lawr Ar Lan y Môr’ mewn derbyniad pan gawson nhw’r croeso traddodiadol i Seland Newydd.

Ar achlysur arall, cerddodd y canwr Wynne Evans ar hyd Stadiwm y Mileniwm – fel yr oedd ar y pryd – â baner y Ddraig Goch, yn canu Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech.

A phwy all anghofio awgrym y diddanwr Max Boyce y dylid ymateb gyda fersiwn o ‘Humpety Dumpety’?!

‘Gwarthus’

Yn ôl neges wreiddiol Joe Marler, prop Lloegr, mae’r Haka “yn warthus”, a dydy hi “ddim ond yn dda pan fydd timau’n ei wynebu gyda rhyw fath o ymateb”.

Ond mae e wedi cyhoeddi sawl trydariad ers hynny’n egluro’i safbwynt, gan ymddiheuro am “ypsetio” cefnogwyr Seland Newydd.

“Hei gefnogwyr rygbi,” meddai.

“Jyst eisiau neidio ar fan hyn a dweud sori wrth unrhyw gefnogwyr Seland Newydd wnes i eu hypsetio gyda fy nhrydariad gafodd ei fynegi’n wael yn gynharach yn yr wythnos.

“Doeddwn i ddim yn golygu unrhyw falais wrth ofyn iddi gael ei thaflu i’r bin; roeddwn i jyst eisiau gweld y cyfyngiadau’n cael eu codi er mwyn caniatáu ymateb heb sancsiynau.

“Pa mor dda oedd ymatebion Cockerill/Hewitt, Campese, Ffrainc ’07, Tokyo ’19 neu dîm rygbi’r gynghrair Samoa yn erbyn Lloegr?

“[Mae’n] creu drama llawn diddanwch cyn y gic gyntaf.

“Roedd fy ymgais tafod-yn-y-boch i greu dadl yn ei chylch yn *********, a dylwn i fod wedi gwneud yn well wrth egluro pethau.

“Dw i’n ddiolchgar am yr addysg ges i ar ba mor bwysig yw’r Haka i ddiwylliant Seland Newydd, a gobeithio bod eraill yn deall yn well hefyd.

“Amdani tuag at 3 o’r gloch ddydd Sadwrn am achlysur rygbi mawr.

“Lloegr [i ennill] o chwe phwynt.

“Af fi’n ôl i fy mocs hawlio sylw nawr.

“Cariad mawr x.”

 

Te reo Māori a’r Gymraeg

Matthew Evans

“Rwy’n gwbl sicr bod gwersi pwrpasol ac effeithiol i’w dysgu gan ein cyfeillion Māori ochr arall y byd”

Dawnsiwr yn creu Haka i’r Cymry – a chyfle i chi ei pherfformio hi ar raglen Jonathan

Mae’r fersiwn Gymreig wedi ei hysbrydoli gan Gareth Edwards, Shane Williams, Dan Biggar, Alun Wyn Jones, Sam Warburton a Jonathan Davies

Haka ar faes yr Eisteddfod

Hyrwyddwyr iaith Māori yn ymweld â’r ŵyl

Carfan Cymru yn canu ‘Ar Lan y Môr’

Ymateb i haka y Maori lleol