Bu Matthew Evans, Pennaeth Ysgol Gyfun Glantaf yng Nghaerdydd, ar ymweliad â Seland Newydd yn ddiweddar fel rhan o ddirprwyaeth o Gymru. Yno, bu’n dysgu mwy am addysg, bywydau a thraddodiadau llwythau brodorol a chael blas ar Ddiwrnod Waitangi. Yma, mae’n rhannu ei brofiadau â golwg360


Wrth gyrraedd Seland Newydd ar daith addysgol o dan nawdd y cynllun Taith, oeraidd oedd ymateb y gyrrwr tacsi wrth glywed ein bod yn ymuno â dathliadau Diwrnod Waitangi.

Anghredinedd ein bod yn mynd i’r fath le o gwbl er mwyn cofio arwyddo’r cytundeb fyddai’n selio hawliau cyfansoddiadol i’r llwythau Māori. Rhagflas ydoedd o ymateb llugoer cynifer o boblogaeth wyn Ewropeaidd Aotearoa tuag at hawliau a chyfoeth diwylliannol y llwythau Māori. Ond roedd dechrau’r daith ar Ddiwrnod Waitangi – diwrnod o ddathlu a chofio cytundeb 1840 rhwng Coron Lloegr a llwythau’r Māori – yn gwbl fythgofiadwy, wrth gwrs.

Cytundeb Waitangi yw sail gyfansoddiadol y wlad o hyd, ac mae’n asgwrn cynnen am fod dwy fersiwn y cytundeb (yn Saesneg a Te Reo Māori) yn addo telerau gwahanol iawn i’r Goron (sef y Wladwriaeth bellach) a hawliau’r llwythau Māori gafodd eu difetha bron yn syth wedi ei lofnodi.

 

‘Hawliau eto ar drai’

Eleni, yn sgil ethol llywodraeth ac iddi dueddiadau asgell dde, roedd min go galed i’r diwrnod. Roedd miloedd yno’n tystio bod eu hawliau eto ar drai – tro pedol ar arwyddion dwyieithog, tro pedol ar hawliau brodorol, a mwy o frwydro i ddod am hawliau addysgol drwy gyfrwng Te Reo Māori. Roedd angerdd ac emosiwn Diwrnod Waitangi yn rhyfeddol, gan ddechrau â gwasanaeth am 5 o’r gloch y bore, a gwylio’r wawr yn goleuo’r nos yn sŵn canu a dawnsio’r protestwyr; dathliad o fodolaeth ar un llaw, ac ias argyfyngus ar y llall. Ofn gwirioneddol am golli treftadaeth fendigedig y Māori, ond gobaith a phenderfyniad gan y llwythau i geisio sicrwydd a dyfodol llewyrchus drwy eu hieuenctid a’u plant.

Gwelsom deimladau o ddicter at Wladwriaeth a system addysg sydd wedi ceisio dileu diwylliant ac iaith, a hynny wedi’i rymuso gan hiliaeth a rhagfarn agored. Ond gwelsom hefyd falchder, egni a sicrwydd bod y dyfodol yn fwy llewyrchus, ac roedd hynny’n pefrio drwy’r cyfan.

Cawsom felly, fel cynrychiolaeth o Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Ysgol Gyfun Llanwern a DARPL (Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-Hiliaeth), brofiadau i’n hysgwyd – tystiolaeth pobol ifanc, athrawon ac arweinwyr Ysgolion Te Reo Māori yn Aotearoa (Seland Newydd).

Dylanwad ar Gymru

Sut fyddai ein profiadau yma yn dylanwadu ar ein gwaith gyda Chwricwlwm i Gymru, ac yn arbennig wrth ddad-goloneiddio ein cwricwlwm ninnau a chadarnhau pwysigrwydd ein hunaniaeth yn rhan ohono?

Mae ystadegau swyddogol yn dangos bwlch sylweddol mewn cyrhaeddiad disgyblion ysgol rhwng poblogaeth Pakeha (Gwyn Ewropeaidd) a’r boblogaeth Māori frodorol ynghyd â’i chymuned gynyddol, Pacifika. Mae’r bwlch cyrhaeddiad yn amlwg wrth ystyried heriau cymdeithasol cymunedau Māori, gyda thlodi, diweithdra a datgysylltu cymunedol yn gyffredin. Cawsom ein cyflwyno i sefyllfaoedd eithriadol cymunedau oedd yn herio dylanwad gangiau a defnydd cyffuriau, trais yn y cartref, a diffyg buddsoddiad o ran adnoddau a chyllid.

Er hyn, mae newid ar droed gyda chenhedlaeth gyntaf ysgolion Kura Kaupapa Māori (ysgolion cynradd trochi Te Reo Māori) wedi esgor ar genhedlaeth newydd o arweinwyr yn Aotearoa, fel yr Aelod Seneddol ifancaf, Hana-Rawhiti Maipi-Clarke. Cafodd egin ysgolion eu sefydlu gan ddilyn modelau trochi ieithyddol gafodd eu gweld yng Nghymru, ac maen nhw ar gynnydd. Wrth ymweld â’r ysgolion hyn, gwelsom fod angerdd ac egni ysol yr arweinwyr a’r athrawon yn symbylu a thanio balchder anghyffredin ymysg eu disgyblion.

Mae’r gymhariaeth rhwng sefyllfa ysgolion cyfrwng Cymraeg a sefyllfa ysgolion Te Reo Māori yn teimlo’n fwy na chyfarwydd. Yn wir, ers y 1980au, maen nhw wedi dilyn llwybr yn seiliedig ar y model trochi Cymraeg drwy sefydlu Nythod Iaith ar gyfer babanod, cyn sefydlu ysgolion cynradd, pob oed ac uwchradd. Mae’r argyfwng rectiwtio yn fwy enbyd yn Seland Newydd gyda phrinder siaradwyr Te Reo a phrinder mynediad at Addysg Uwch o gymunedau Māori yn cyfyngu capasiti’r system i sicrhau twf a chynnydd. Yn fwy nodedig, mae diffyg ymrwymiad a diddordeb cymunedau Gwyn Ewropeaidd yn llesteirio twf. Tra, yng Nghymru, llwyddiant ysgolion Cymraeg yw’r canrannau uchel o ddisgyblion o deuluoedd di-Gymraeg, sy’n golygu bod cynifer o’n hysgolion yn gynaliadwy ac yn tyfu o hyd.

Un nodwedd eithriadol welsom oedd ymrwymiad cadarn yr ysgolion Māori i sefydlu perthnasoedd positif gyda’u cymunedau brodorol, sydd wedi eu dadrithio yn llwyr â’r sector addysg. Wrth ystyried bod y mwyafrif llethol o gymunedau Māori, hyd at yn lled ddiweddar, wedi profi dirmyg ac erledigaeth gan y sector addysg, mae ysgolion blaengar wedi mynd ati yn benderfynol i adeiladu hyder a ffydd rhwng yr ysgol a’i chymuned frodorol. Elfen graidd o’r ymestyn allan hwn yw sicrhau ymdeimlad o deulu (neu Whānau, wedi’i ynganu Ffan-now), drwy system o lysoedd neu ‘deuluoedd’ o fewn yr ysgol. Nid yn unig gystadlaethau a threfn ysgol, ond system fugeiliol wedi’i sefydlu drwy lysoedd: system ddisgyblaeth gadarnhaol gydag ymlyniad i’r ‘Whānau’ yn elfen greiddiol o ymdeimlad plentyn â’i ysgol. Yn Ysgol Manurewa, mae’r teulu a’r teulu estynedig yn rhan ganolog o fywyd yr ysgol, gyda chyswllt teuluol yn treiddio drwy’r cwricwlwm a bywyd yr ysgol. Roeddwn wedi hoffi stori arbennig am athro Māori yn dod i gyfweliad swydd yn yr ysgol, a hithau yn mynychu gyda’i mham, ei hewythr a’i mam-gu, a hynny am fod brolio eich hunan yn ddiwylliannol estron ac amhriodol i fydolwg Māori. Gwell o lawer oedd dod i’r cyfweliad a chael aelodau o’r Whānau i siarad amdanoch, yn hytrach na’r brolio “Fi fawr” Gorllewinol, sy’n angenrheidol mewn cyfweliad o’r fath!

Matthew Evans a Haley Milne

Nodwedd arall greiddiol oedd gweledigaeth ddiwyro o bwrpas ysgolion. Yn Ysgol Kia Aroha, dywed y Pennaeth Haley Milne yn ddigyfaddawd mai’r nod yw creu Myfyrwyr o Ryfelwyr (Warrior Scholars), sef “pobol ifanc chwyldroadol, sy’n gadarn yn eu hunaniaeth eu hunain ac sy’n barod i fynd ma’s a newid y byd; pobol ifanc sy’n deall ein hanes ac effaith coloneiddio, pobol ifanc sy’n wrthwynebwyr”. Wrth gerdded drwy’r ysgol pob oed hon, gwelsom nad yw cyflwyno iaith ar ei phen ei hun yn ddigon, ond fod angen deall effaith coloneiddio ar y gymuned Māori a’r trawma rhyng-genedlaethol sydd wedi achosi cymaint o ddifrod i’w strwythur a’u gallu i ymdopi â’r heriau presennol. Er bod tebygrwydd clir rhwng cyflwr a statws y Gymraeg yng Nghymru, yn Aotearoa gwelsom effaith casineb ac erledigaeth mwy dieflig, sef hiliaeth gyfansoddiadol yn deillio’n uniongyrchol o goloneidio hiliol a rhagfarn yn erbyn cymuned frodorol, dywyll eu croen.

Oes gwers yma i ysgolion Cymru fod yn fwy cadarn eu gweledigaeth i greu dinasyddion neu “ryfelwyr” Cymreig a Chymraeg sy’n barod i herio a newid y byd o’u cwmpas? A ddylem fynd ati’n fwy tanbaid i addysgu’n staff, ac yn sgil hynny ein pobol ifanc, sut i ddatgymalu effaith coloneiddio, sut i herio hiliaeth gyfansoddiadol o fewn y system addysg, a sut i gysylltu hunaniaeth ac iaith yn agosach? Un o brif ffocysau ysgolion yn Aotearoa yw ennyn balchder mewn celfyddyd, diwylliant ac iaith Te Reo Māori, a bydd gwrando ar Haka angerddol, ysgytwol myfyrwyr Kia Aroha yn aros yn hir yn y cof. Oni bai bod hybu balchder yn ein hunaniaeth ar waith yn ein holl ysgolion, y gwaith o ddad-goloneiddio, ac adnewyddu ysbryd o hyder fel Cymry yn gwbl ganolog i’n cwricwlwm a’n profiad fel ysgolion, yna mae’r gwaith o ddysgu iaith mewn gwactod yn anghyflawn.

Nid dysgu iaith yn unig, felly, yw’r flaenoriaeth ond sefydlu ysgolion sy’n rhannu’r bydolwg Te Ao Māori a sefydlu trefn a chwricwlwm ysgol sy’n gydnaws â’r bydolwg hwnnw. Trwy gynnig profiad a gweledigaeth addas a pherthnasol i’w cymunedau, llwyddodd yr ysgolion yr ymwelsom â nhw i ganolbwyntio eu haddysg ar anghenion eu pobol ifanc, a’u hysbrydoli ag angerdd ac egni ar gyfer eu dyfodol.

Wrth gamu i gwricwlwm newydd yma yng Nghymru a cheisio o’r newydd i ysbrydoli ein pobol ifanc i garu’u hiaith ac i werthfawrogi eu hunaniaeth, rwy’n gwbl sicr bod gwersi pwrpasol ac effeithiol i’w dysgu gan ein cyfeillion Māori ochr arall y byd.