Mae angen gwrando ar ffermwyr ac ystyried y Gymraeg gyda’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy er mwyn diogelu cymunedau gwledig, yn ôl Cymdeithas yr Iaith.

Mae’r Gymdeithas yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrando a chydweithio â ffermwyr, ac ystyried y goblygiadau i’r Gymraeg wrth ailedrych ar y Cynllun.

Yn ôl y mudiad, byddai’r colledion swyddi fyddai’n dod yn sgil y Cynllun yn ei ffurf bresennol yn ychwanegu at broblemau eraill sy’n wynebu cymunedau Cymraeg gwledig, gan gynnwys diboblogi a phrinder tai fforddiadwy i’w prynu a’u rhentu.

“Mae 43% o weithwyr yn y sector amaeth yn siaradwyr Cymraeg, yr uchaf o unrhyw ddiwydiant yng Nghymru ac y mae’n ddiwydiant sydd yn arbennig o gryf yn ei chadarnleoedd,” meddai Robat Idris, is-gadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy’r Gymdeithas.

“Mae busnesau cysylltiol ymhlith y rhai sy’n gwneud y defnydd mwyaf o’r Gymraeg hefyd.

“Rydym yn rhannu pryderon ffermwyr am golledion swyddi yn y maes yn sgil Cynllun Ffermio Cynaliadwy y Llywodraeth, fel sy’n cael ei rybuddio gan undebau amaethyddol.

“Dydy’r diwydiant ffermio fel ag y mae ddim yn gynaliadwy oni bai bod ffermydd yn troi yn agri-fusnesau, a cholli cysylltiad â’r tir.

“Gallai cynlluniau’r Llywodraeth ddwysáu’r broblem a gorfodi mwy o ffermwyr o’r tir gan waethygu diboblogi sydd yn barod yn broblem oherwydd diffyg tai i’w prynu a’u rhentu o fewn cyrraedd pobol ar gyflogau lleol.

“Pryderwn yn ogystal fod tir amathyddol yng Nghymru yn cael ei brynu gan gwmniau estron sydd am fanteisio ar grantiau i blannu coed, er mwyn gwerthu’r credyd carbon i gwmnïau sydd ag ôl troed carbon uchel.

“Mae hyn yn aberthu ffermydd Cymru ar allor cysylltiadau cyhoeddus diwydiannau budron, sy’n cael rhwydd hynt i lygru yn ôl eu harfer.

“Mae perygl i hyn oll fynd ar goll wrth i rai fanteisio ar brotestio’r ffermwyr i wthio agenda gwrth-ddatganoli ac asgell dde.”

Yr economi, y diwylliant a’r Gymraeg

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, byddai nifer o elfennau yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy hefyd yn mynd yn gwbl groes i unrhyw weledigaeth a gweithredu hir dymor i gynnal yr economi, y diwylliant a’r Gymraeg, yn groes i nod y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yn ogystal â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae’r mudiad yn cwestiynu pwrpas y ddeddfwriaeth yma os yw polisïau Llywodraethol a phenderfyniadau cyllidol yn eu tanseilio.

“Does neb yn fodlon gyda’r sefyllfa bresennol, felly wrth ailedrych ar ac adolygu’r Cynllun, rhaid i Lywodraeth Cymru wrando ar a chydweithio gyda ffermwyr i sicrhau nad oes goblygiadau negyddol i gymunedau,” meddai Robat Idris.

“Gallai gweledigaeth gwirioneddol anturus gynnwys dulliau o gynnal nid yn unig ffermwyr ond hefyd y gymdeithas ehangach – mae’n hen bryd ail-gysylltu pobl efo’r bwyd ar eu platiau.

“Welwn ni ddim dyfodol i ffermydd teuluol yn y tymor hir heb i ni adfer perthynas gwlad a thref er mwyn cyflenwi’r bendithion amgylcheddol a chymdeithasol o gael bwyd iach wedi ei gynhyrchu yma.

“Dyna fyddai Cymru Werdd go iawn.”

Ailddatgan cefnogaeth i ffermwyr

Yn y cyfamser, mae Plaid Cymru wedi ailddatgan eu cefnogaeth i ffermwyr Cymru cyn y brotest fawr yn y brifddinas.

Maen nhw wedi cyflwyno dadl ar y diciâu mewn gwartheg, ac yn galw am adolygu ac oedi’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Mae dadl Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

  • gynnal gwerthusiad ac arfarniad hirdymor o fesurau rheoli gwartheg presennol ar fyrder i bennu eu heffeithiolrwydd cymharol o ran atal a rheoli trosglwyddo clefydau
  • gwneud newidiadau ar unwaith i’r polisi lladd ar ffermydd
  • sefydlu polisïau sy’n adlewyrchu bywyd gwyllt fel ffynhonnell haint ac sy’n caniatáu ar gyfer dulliau difa a rheoli priodol a dilys
  • ymgynghori ag NFU Cymru, FUW a chynrychiolwyr eraill o’r sector amaethyddiaeth yng Nghymru i sefydlu ffordd newydd ymlaen o ran pennu polisi TB buchol i Gymru

Dywed Llŷr Gruffydd, llefarydd materion gwledig Plaid Cymru, fod y Blaid yn “falch o sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda’n cymunedau gwledig”, a bod mynnu tegwch i ffermwyr a sicrhau dyfodol y fferm deuluol Gymreig yn flaenoriaeth iddyn nhw.

“Mae Plaid Cymru yn falch o sefyll ochr yn ochr â’n cymunedau gwledig wrth i ni fynnu tegwch i ffermwyr a sicrhau dyfodol y fferm deuluol Gymreig,” meddai.

“Mae ffermwyr ar draws Cymru wedi cael digon.

“Maen nhw’n teimlo eu bod wedi’u siomi gan lywodraethau naill ben a’r llall i’r M4.

“O gytundebau masnach a wnaed gan y Torïaid sy’n tanseilio ein sector amaeth a’u methiant i roi arian cyfatebol ar ôl Brexit – i wendid Llafur wrth ymdrin â’r effaith ar TB ar ffermydd teuluol, eu darpariaeth o Gynllun Cynefin Cymru sydd mewn perygl o ddadwneud cymaint o waith da, a chynllun anymarferol i orchuddio 10% o’u tir gyda choed, gan golli tir amaeth cynhyrchiol.

“Wrth ddod dim ond 24 awr cyn dadl Plaid Cymru yn y Senedd yn galw am newidiadau ar unwaith i bolisi lladd TB ar ffermydd, rydym yn croesawu penodi grŵp o arbenigwyr i adolygu’r rheolau.

“Ni all newid ddod yn ddigon cyflym, a byddwn yn parhau i annog y Llywodraeth i weithredu ar hyn a’r gofynion eraill yn ein cynnig.

“Fodd bynnag, ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, dim ond datganiad diamwys o oedi ac adolygu’r cynigion fydd yn rhoi sicrwydd i’r sector bod y llywodraeth yn gwrando’n wirioneddol ac yn ymateb yn ystyrlon i’r pryderon a fynegwyd.

“Er ein bod yn cydnabod y bydd Prif Weinidog y dyfodol a Gweinidog Materion Gwledig posibl yn y dyfodol yn dymuno ystyried eu hymateb eu hunain, bydd Plaid Cymru yn parhau i weithio gyda’r diwydiant i gyflwyno’r achos i’r llywodraeth dros newid.

“Yn y cyfamser, rydym yn annog pawb i ymateb i’r ymgynghoriad sy’n mynd rhagddo i adael y llywodraeth wybod yn ddiamau nad yw’r cynigion presennol yn cyflawni uchelgeisiau Cymru o ran newid yn yr hinsawdd mewn ffordd sydd hefyd yn sicrhau dyfodol cynaliadwy i’n ffermydd teuluol.

“Bydd Plaid Cymru bob amser yn sefyll dros Gymru gyfan, gan gynnwys ein sector amaeth.

“Rhaid i Lafur a’r Torïaid wneud yr un peth a gweithio gyda’r sector i sicrhau ei ddyfodol – fel partneriaid allweddol ar gyfer mynd i’r afael â newid hinsawdd a sicrhau diogelwch bwyd.”