Mae cyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd Cymru gan Lywodraeth Cymru, ochr yn ochr â Chwricwlwm i Gymru, wedi helpu cymuned ysgol yn Sir Gaerfyrddin i ddatblygu arferion iach ac i fynd i’r afael â gwastraff bwyd.
Lansiodd Ysgol Gynradd Llandeilo gynllun ‘Bocs Bwyd Llandeilo’, prosiect cymunedol sy’n cynnwys casglu bwyd dros ben gan fusnesau lleol a rhoddion cymunedol, gyda’r nod o gael gwared ar rwystrau economaidd i rieni.
Caiff y cynnyrch ei ddefnyddio mewn gwersi coginio yn yr ysgol, gan ddileu’r angen i deuluoedd brynu cynhwysion, tra ei fod hefyd yn helpu i leihau gwastraff bwyd.
Lynne Williams sy’n arwain y fenter coginio yn yr ysgol.
“Ein nod o fewn y gegin, ac yn ystod ein sesiynau coginio, yw datblygu ‘Llythrennedd Bwyd’ ein disgyblion a’n cymunedau ehangach,” meddai.
“Rydym yn darparu cyfleoedd i ddisgyblion ddysgu, plannu, tyfu, cynaeafu, ac yna goginio’r bwydydd maen nhw’n eu tyfu.
“Rydym hefyd yn cynnig y cynnyrch hwn i deuluoedd goginio ag e fel rhan o’n menter Bocs Bwyd Llandeilo.”
Prydau ysgol am ddim
Ers mis Medi 2022, mae Cymru’n gweithredu rhaglen prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd y wlad, fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru.
Mae dros bymtheg miliwn o brydau eisoes wedi’u gweini drwy’r rhaglen, fydd yn cael ei chyflwyno i bob plentyn ysgol gynradd a thros 6,000 o ddisgyblion oed meithrin erbyn diwedd 2024.
Dros yr un cyfnod, dechreuodd pob ysgol gynradd addysgu’r Cwricwlwm newydd i Gymru yn eu hystafelloedd dosbarth.
Daeth hyn â newid ffocws, gan annog dysgwyr i ddatblygu profiadau a sgiliau newydd, yn ogystal â’u gwybodaeth.
Mae’r newidiadau hyn wedi’u croesawu gan Ysgol Gynradd Llandeilo fel cyfle enfawr i greu newid o ddydd i ddydd.
Cyfraniad Ysgol Llandeilo at y nod
Gan gydnabod gwerth cinio maethlon ac iach yn yr ysgol, roedd Ysgol Llandeilo’n awyddus i hyrwyddo prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd i’w cymuned ysgol, yn enwedig y teuluoedd hynny oedd wedi bod yn darparu pecynnau bwyd yn y gorffennol – yn aml ar draul pocedi’r rhieni.
Dywed Karen Towns, Pennaeth Llandeilo, fod ei thîm wedi dechrau ar yr orchwyl o hyrwyddo prydau ysgol am ddim, gan gynnal sgyrsiau gyda rhieni, rhannu gwybodaeth am y bwydydd fyddai’r plant yn eu bwyta, a gweithio i adnabod unrhyw rwystrau i’w derbyn.
“Trwy ddatblygu Bocs Bwyd Llandeilo, rhandir yr ysgol (Y Nyth) a’r gegin ysgol (Y Cegin), mae gennym ddealltwriaeth ddyfnach a chysylltiadau gyda’n teuluoedd o fewn yr ysgol,” meddai.
“Mae teuluoedd yn teimlo eu bod yn cael gofal a’u bod yn bwysig ac yn gwerthfawrogi bod eu lles a’u hamgylchiadau personol yn cael eu cefnogi.”
Pryderon
I ddechrau, roedd llawer o rieni’n bryderus am y broses o gyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd, gan nodi dewisiadau bwyd, sŵn adeg amser cinio, ac alergeddau fel rhai o’r rhwystrau i hawlio’r cynllun newydd hwn.
Er mwyn mynd i’r afael â rhai o bryderon cychwynnol rhieni, trefnodd yr ysgol sesiynau blasu, a chafodd ‘Y Cwtch’ ei sefydlu ar gyfer plant sydd angen lle tawelach yn ystod amser cinio.
Cafodd cyfarfodydd rhwng staff arlwyo’r ysgol a rhieni eu hwyluso hefyd, er mwyn mynd i’r afael â phryderon am fwydlenni.
“Dw i’n hoffi’r bwydlenni oherwydd wedyn rydyn ni’n gwybod beth sydd i ginio bob dydd,” meddai un disgybl Blwyddyn 5.
“Rydyn ni’n cael yr holl wahanol grwpiau bwyd a gwahanol bethau sy’n rhoi egni i ni.”
Rhandir
Ochr yn ochr â Bocs Bwyd Llandeilo, mae gan yr ysgol randir ar y safle, lle gall plant helpu i dyfu a chynaeafu llysiau i’w defnyddio mewn gwersi coginio.
Caiff y rhain eu cynnal ar draws pob grŵp blwyddyn, yng nghegin newydd sbon yr ysgol, ar arddull ‘Bake Off’.
Mae’r meithrin perthynas hwn wedi helpu i gynyddu’r nifer sy’n cael prydau am ddim yn yr ysgol.
Roedd gwella mynediad at brydau ysgol am ddim yn golygu adeiladu cysylltiad gwirioneddol rhwng yr ysgol a theuluoedd.
Gan edrych i’r dyfodol, nod yr ysgol yw parhau i gefnogi dysgwyr a’u teuluoedd trwy addysg bwyd, er mwyn sefydlu arferion iach yn eu cymuned, ac yn y nifer sy’n derbyn prydau ysgol am ddim.