Bydd rhwng pedwar a naw o gynyrchiadau teledu Bad Wolf – gan gynnwys Doctor Who – yn cael eu ffilmio yng Nghymru rhwng nawr a mis Mawrth 2027.
Mae Llywodraeth Cymru a’r cwmni cynhyrchu o Gaerdydd wedi dod i gytundeb pedair blynedd.
Bydd y fargen werth £4m yn golygu bod Bad Wolf yn cadw eu prif ganolfan yn Stiwdios Blaidd Cymru yn y brifddinas.
Y cwmni hwn sy’n gyfrifol am gynhyrchu rhaglenni llwyddiannus fel His Dark Materials, The Winter King ac Industry hefyd.
‘Diwydiant egnïol’
Mae’r cytundeb newydd yn ymrwymo Bad Wolf i isafswm gwariant o £60m yng Nghymru dros gyfnod o bedair blynedd.
Byddan nhw hefyd yn darparu o leiaf 42 o leoliadau â chyflog i hyfforddeion, a 748 o swyddi cyfwerth â llawn amser.
“Pan wnaethon ni leoli Doctor Who yng Nghymru am y tro cyntaf bron i 20 mlynedd yn ôl, prin y gallem fod wedi meiddio gobeithio y byddem wedi gweld cymaint o amrywiaeth o ddramâu teledu yn cael ei gwneud gan lu o wahanol gwmnïau,” meddai Jane Tranter, Prif Swyddog Gweithredol a chyd-sylfaenydd Bad Wolf, wrth ddweud bod cefnogaeth Llywodraeth Cymru’n “amhrisiadwy”.
“Mae’n anrhydedd i Bad Wolf fod yn rhan o ddiwydiant egnïol a bywiog fydd rydym yn siŵr yn parhau i ddod â buddsoddiad a chyflogaeth i Gymru am flynyddoedd lawer,” meddai.
‘Llwyddiant ysgubol’
Ar hyn o bryd, mae Bad Wolf wrthi’n ffilmio ar gyfer Dope Girls, sydd wedi cael ei hysbrydoli gan y cyfnod wedi colledion y Rhyfel Byd Cyntaf, pan oedd merched yn rhedeg clybiau Soho.
“Mae’r cytundeb pedair blynedd hwn yn newyddion ardderchog i’r sector creadigol yng Nghymru,” meddai Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog Diwylliant yn Llywodraeth Cymru, sydd wedi bod yn ymweld â set Dope Girls.
“Bydd y niferoedd uchel o gwmnïau criwiau a’r gadwyn gyflenwi o Gymru sy’n gweithio ar y cynyrchiadau yn sicrhau credydau cynhyrchu amhrisiadwy a fydd ond yn cryfhau enw da Cymru fel lleoliad ffilmio o’r safon uchaf gyda chriw talentog a medrus sy’n gallu gwasanaethu cynhyrchu o safon uchel.
“Mae’r diwydiant yn llwyddiant ysgubol gyda chyrhaeddiad byd-eang sy’n helpu pobol ifanc i gynllunio dyfodol uchelgeisiol yng Nghymru.
“Mae’r nod hwnnw wrth wraidd ein Cenhadaeth Economaidd ac mae’r sector creadigol yn profi’r hyn sy’n bosibl diolch i bartneriaeth barhaus gyda Llywodraeth Cymru.”