Bydd Eden, Cowbois Rhos Botwnnog a Steve Eaves ymysg yr artistiaid fydd yn perfformio yn Sesiwn Fawr Dolgellau eleni.

Eleni, bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal dros bedwar diwrnod rhwng Gorffennaf 18 a 21, gyda thocynnau’n mynd ar werth ddydd Gwener (Mawrth 1).

Ymhlith y cerddorion eraill fydd yn ymddangos ar brif lwyfan yr ŵyl yng Ngwesty’r Ship mae The Trials of Cato, MR, Mared, Vrï, David Pasquet o Lydaw, a Raz + Afla o Lundain.

Lo-fi Jones, band buddugol Brwydr y Bandiau Gwerin Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023, fydd yn agor prif lwyfan y Ship ar y nos Sadwrn, a hynny’n rhan o wobr y gystadleuaeth.

Bydd Meinir Gwilym a Pedair yn agor y Sesiwn Fawr yn Eglwys y Santes Fair ar y nos Iau, ac Al Lewis a Plu yn cloi’r ŵyl yno ar y nos Sul.

Fe fydd hi’n bosib prynu tocyn unigol ar gyfer gigiau’r Clwb Rygbi, lle bydd artistiaid fel Celt, Pys Melys, Buddug a Dadleoli yn chwarae.

Ynghyd â’r adloniant cerddorol, bydd nifer o sgyrsiau llenyddol ag awduron fel Manon Steffan Ros a Clare Mackintosh.

Lein-yp cychwynnol Sesiwn Fawr Dolgellau 2024

‘Cynulleidfa newydd a hen ffrindiau’

Y prif nod ydy “adeiladu ar lwyddiant yr ŵyl o flwyddyn i flwyddyn”, yn ôl Ywain Myfyr, cadeirydd pwyllgor Sesiwn Fawr Dolgellau.

“Mi wnaeth tocynnau Sesiwn Fawr werthu’n gynt nag erioed yn 2023, ac rydym ni’n disgwyl y byddent yn gwerthu yr un mor gyflym eleni – felly gosodwch eich clociau larwm at Fawrth y cyntaf, da chi!” meddai.

“Mi ydan ni’n benderfynol o barhau i gynnal naws groesawgar a chynhwysol y Sesiwn, yn ogystal â chynnig cyfleoedd i artistiaid newydd a lleol fel ei gilydd.

“Rydym ni fel criw yn edrych ymlaen yn eiddgar at wahodd cynulleidfa newydd yn ogystal â hen ffrindiau i Ddolgellau ym mis Gorffennaf.”

‘Un o uchafbwyntiau’r calendr’

Bydd Melda Lois, artist sy’n lleol i’r ŵyl, yn perfformio ar brif lwyfan y Ship am y tro cyntaf eleni.

“Dwi’n hynod ddiolchgar o’r cyfle i gamu ymlaen i brif lwyfan y Sesiwn Fawr eleni, a chael rhannu llwyfan hefo artistiaid fel Steve Eaves a Mared, sydd yn ysbrydoliaeth mawr i mi,” meddai.

“Dw i yr un mor gyffrous i gael gwylio gweddill artistiaid lein-yp Sesiwn Fawr 2024 ag ydw i i gael chwarae, a dweud y gwir!

“Mae’r Sesiwn Fawr yn un o uchafbwyntiau’r calendr cerddorol yma yng Nghymru, ac mae cael y cyfle i berfformio yma ar ôl bod yn rhan o’r gynulleidfa ers sawl blwyddyn yn rhywbeth sbesial iawn.”

Ton gyntaf yr artistiaid sydd wedi cael ei chyhoeddi heddiw, a bydd y rhaglen lawn yn cael ei chyhoeddi’n nes yr ŵyl.