Sioned Wiliam yw Prif Weithredwr dros dro S4C, yn dilyn diswyddo Siân Doyle fis Tachwedd y llynedd.
Mae hi’n adnabyddus yn y diwydiant fel cyn-Gomisiynydd Comedi BBC Radio 4 a chyn-Bennaeth Comedi ITV.
Cyn hynny, bu’n gynhyrchydd rhaglenni gyda chwmnïau teledu Talkback a Hat Trick.
Bydd yn dechrau ar ei gwaith yn rhan amser ym mis Mawrth, cyn ymuno yn llawn amser gyda S4C yn ystod mis Ebrill.
Cynllun Gweithredu S4C
Prif gyfrifoldeb Sioned Wiliam dros y misoedd nesaf fydd arwain ar Gynllun Gweithredu S4C, sydd wedi’i gymeradwyo gan y Bwrdd Unedol, ac sy’n dilyn cyhoeddi Adroddiad Capital Law.
Mae’r cynllun yn nodi rhaglen waith i fynd i’r afael yn llawn â’r materion mae S4C wedi’u hwynebu ers 2022.
Y bwriad yw adfer ymddiriedaeth staff S4C a’r sector creadigol drwy edrych ar arweinyddiaeth, diwylliant, polisïau a gweithdrefnau Adnoddau Dynol, a llywodraethiant y sefydliad.
Fel rhan o’r cynllun bydd arbenigwyr allanol yn arwain adolygiad o werthoedd y sefydliad, bydd yna adolygiad allanol o effeithiolrwydd llywodraethiant S4C, bydd rheolwyr yn cael hyfforddiant ar arweinyddiaeth a rheoli newid, a bydd y trefniadau cyfathrebu mewnol hefyd yn cael eu cryfhau.
Yn dilyn penodi Sioned Wiliam, bydd Geraint Evans yn parhau’n Brif Swyddog Cynnwys dros dro, a bydd Elin Morris yn parhau’n Brif Swyddog Gweithredu S4C.
Mae disgwyl hefyd y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn penodi cadeirydd dros dro yn fuan i arwain Bwrdd Unedol S4C, ar ôl i Rhodri Williams gyhoeddi ei fwriad i adael ei rôl ar ddiwedd ei gyfnod wrth y llyw, sy’n dod i ben ddiwedd mis Mawrth.
“Adfer ffydd” ar ôl “cyfnod digynsail o anodd”
“Edrychaf ymlaen at groesawu Sioned i S4C yn dilyn cyfnod digynsail o anodd i’n gweithlu,” meddai Rhodri Williams.
“Daw profiad arweinyddiaeth Sioned yn ogystal â’i chefndir a phrofiad yn y diwydiant â chwa o awyr iach i S4C, a’i blaenoriaeth hi fydd sicrhau bod y Cynllun Gweithredu yn ysbrydoli newid ar draws y sefydliad – er budd ein pobol, y sector creadigol ac wrth gwrs ein cynulleidfaoedd.
“Rwy’n gwybod fod Sioned yn awyddus i fynd i’r afael â’r gwaith o adfer hyder ac ymddiriedaeth yn S4C, gan sicrhau bod S4C unwaith eto yn lle hapus i weithio, a phobol yn teimlo eu bod yn gallu bod ar eu gorau, a gwneud eu gorau i S4C a’r iaith Gymraeg.
“Ar ran Cyfarwyddwyr Anweithredol y Bwrdd, hoffwn ddiolch i holl staff a Thîm Rheoli S4C am eu hymroddiad a’u proffesiynoldeb dros y misoedd diwethaf, gan wybod y byddan nhw’n rhoi pob cefnogaeth i Sioned wireddu’r Cynllun Gweithredu ac adfer ffydd yn S4C.”
‘Gwyliwr, cynhyrchydd, cyflwynydd a mam ddiolchgar’
“Dwi’n hynod ddiolchgar am y cyfle yma i fod yn rhan o stori S4C – sianel sydd wedi bod yn rhan annatod o ’mywyd ers iddo gychwyn – fel gwyliwr, cynhyrchydd, cyflwynydd ac fel mam ddiolchgar,” meddai Sioned Wiliam.
“Mae arlwy S4C yn arbennig iawn, ac mae’r berthynas rhwng y sianel a’r gynulleidfa yn hollbwysig – edrychaf ymlaen at wneud pob dim y medraf i hwyluso hyn.
“Dw i am sicrhau bod S4C yn lle da i weithio, lle mae’r staff yn cael eu parchu a’u cefnogi.
“Mae’n rhaid i bawb sydd yn gysylltiedig â’r sianel fod yn medru ymddiried ynddi, gan wybod y bydd yn gweithio er budd y gweithlu, y rhanddeiliaid a’r gynulleidfa.”