Bydd Max Boyce yn canu fersiwn newydd o ‘Hymns and Arias’ cyn gêm rygbi Cymru yn erbyn Ffrainc yn Stadiwm Principality ddydd Sul, Mawrth 10.

Fe wnaeth Undeb Rygbi Cymru ofyn i’r diddanwr poblogaidd berfformio fersiwn newydd arbennig o’r gân, ac yntau wedi perfformio’r fersiwn wreiddiol yn Stadiwm Principality, Stadiwm y Mileniwm, Parc yr Arfau a Wembley.

Bydd yn canu’r fersiwn newydd gyda Chôr Llundain, Côr Admiral a Band y Cymry Brenhinol yn Stadiwm Principality cyn y gic gyntaf ar ddiwrnod Sul y Mamau.

Mae penillion yn y fersiwn newydd sy’n cyfeirio at gennin pedr, Dulyn a Dupont, ond mae’n cadw union eiriau’r gân yn gyfrinach tan y diwrnod.

Ysbrydoli

“Rwy’n gobeithio y bydd yn ysbrydoli cefnogwyr angerddol Cymru yn union fel y gwnaed yn Wembley yn 1999,” meddai Mark Williams, Rheolwr Stadiwm Principality.

“Doedden ni ddim yn siŵr a fyddai Stadiwm Principality yn barod ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd yn 1999.

“Roedd pethau’n barod, diolch i’r drefn, ac roedd Max yn rhan enfawr o’r seremoni agoriadol, felly rydym yn ofnadwy o hapus i’w groesawu ’nôl wrth i Stadiwm Principality agosáu at fod yn 25 oed.”

‘Pleser enfawr’

“Bydd hi’n bleser enfawr canu gyda chefnogwyr rygbi gorau’r byd, yn y stadiwm orau,” meddai Max Boyce.

“Fe gymerodd hi sbel i mi ysgrifennu hon, ac rwy’n gobeithio y bydd pawb yn mwynhau’r fersiwn newydd.

“Mae gennym dîm ifanc a chyffrous, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddangos i’r chwaraewyr gymaint maen nhw’n ei olygu i ni gyd.”

Bydd Max Boyce i’w glywed dros system sain newydd sbon y stadiwm, ac i’w weld ar y sgriniau mawr.

Bydd yn canu wedi i’r chwaraewyr gynhesu, cyn i’r anthemau gael eu canu.

O ganlyniad i’r geiriau newydd ac amserol, mae’n bur debygol mai dyma fydd yr unig dro y bydd y fersiwn unigryw yma o ‘Hymns and Arias’ yn cael ei chlywed.