Y gân ‘Ti’ gan Sara Davies yw enillydd Cân i Gymru 2024.

Cafodd y gân ei dewis drwy bleidlais gyhoeddus yn fyw ar raglen Cân i Gymru ar S4C nos Wener (Mawrth 1).

Y gyfansoddwraigoedd oedd wedi perfformio’r gân serch hefyd, yn fyw o Arena Abertawe.

Cipiodd hi £5,000 a thlws newydd Cân i Gymru.

Y gân a’r enillydd

Cân serch gan daid Sara i’w nain yw ‘Ti’.

Ei thaid ysgrifennodd eiriau’r gân cyn iddo farw.

Aeth Sara Davies ati wedyn i gyfansoddi’r gerddoriaeth.

Yn wreiddiol o Hen Golwyn, mae hi bellach yn byw yn Llandysul ac yn athrawes Cerddoriaeth, Drama a Lles yn Ysgol Henry Richard, Tregaron.

Mae hi’n aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Pontsian ac yn aelod o’r grŵp 50 Shêds o Lleucu Llwyd.

Roedd y noson yn un “emosiynol” i Sara Davies a’i theulu, meddai.

“Dwi’n speechless! Fydd yr arian yn mynd tuag at ganu, gobeithio, a rhyddhau mwy o ganeuon.”

Yn ail ac yn ennill £3,000 mae ‘Goleuni’ gan Steve Balsamo a Kirstie Roberts, gyda Moli Edwards yn perfformio.

Yn drydydd ac yn ennill £2,000 mae ‘Cysgod Coed’ gan Gwion Phillips, oedd wedi ei chanu, ac Efa Rowlands.

“Mae hon yn gystadleuaeth arbennig iawn sy’n gallu newid gyrfaoedd,” meddai’r cyflwynydd Elin Fflur.

“Mae’n uchafbwynt cerddorol ac yn binacl yng nghalendr S4C bob blwyddyn.

“Ac am flwyddyn i ennill – mewn lleoliad newydd gyda thlws newydd sbon hefyd!

“Llongyfarchiadau mawr –  dwi’n edrych ymlaen i weld beth ddaw gan Sara yn y dyfodol.”

Ceisiadau

Ar ôl lansio cystadleuaeth eleni ym mis Tachwedd 2023, cyrhaeddodd 118 o ganeuon y beirniaid.

Y cerddor Osian Huw Williams, prif leisydd y band Candelas a chyn gyd-enillydd y wobr oedd Cadeirydd panel y beirniaid a bu’n mentora’r cystadleuwyr hefyd.

Y beirniaid oedd y gantores a’r gyfansoddwraig Bronwen Lewis, y DJ a’r cyflwynydd Dom James, y gantores a’r berfformwraig West End Mared Williams a’r cerddor Carwyn Ellis.