Mae Sara Davies wedi dweud wrth golwg360 ei bod hi’n teimlo bod ei thaid gyda hi wrth iddi gipio tlws Cân i Gymru neithiwr (nos Wener, Mawrth 1).

Cân serch â geiriau ei thaid, fu farw ychydig flynyddoedd yn ôl, yw ‘Ti’ gan y gantores a chyfansoddwraig o Hen Golwyn, sydd bellach yn byw yn Llandysul ac yn athrawes Gerdd, Drama a Lles yn Ysgol Henry Richard yn Nhregaron.

Roedd ei Nain yn y gynulleidfa ar y noson yn gwylio’i pherfformiad ac, yn ôl ei hwyres, roedd hi’n “hysterical” ac yn ei dagrau wrth ddathlu’r fuddugoliaeth yn Arena Abertawe.

“Roedd hi’n crïo, ond mae hi mor hapus,” meddai.

“Mae hi wedi gweld y foment yma’n digwydd, ac mae hi wedi bod eisiau ei weld o’n digwydd gymaint, achos obviously mae hi’n methu Taid gymaint ac mae hwn wedi dod â rhywbeth iddi ei gadw fo’n agos ati.

“Ond dw i’n meddwl ei bod hi mor falch bod o drosodd hefyd, ac mae hi mor falch bo fi wedi gallu mynd drwy’r gân heb unrhyw stop, bo fi’n crïo neu rywbeth.

“Mae’r ddwy ohonon ni jyst mewn sioc.

“Dw i dal mewn sioc, a dw i ddim yn meddwl wneith o sincio mewn am wythnos!

“Dw i jyst mor ddiolchgar i bawb sydd wedi codi’r ffôn, a dwi’n teimlo braint ac anrhydedd.

“I guro yn erbyn y saith oedd yn erbyn fi hefyd, roedden nhw i gyd yn amazing!

“Roeddwn i fel, ‘Gallai fynd unrhyw ffordd heno. Mae pawb yn haeddu ennill’.

“Felly dw i jyst yn teimlo fatha, ‘Ydw i’n haeddu hwn?’ Dw i jyst mor speechless!”

Sgwrs rhwng Taid a Nain

Sgwrs rhwng Taid a Nain Sara Davies yw’r gân yn y bôn, a’i bwriad yn wreiddiol oedd y byddai hi’n ddeuawd, gyda’i chefnder yn canu rhan ei Thaid a hithau’n canu rhan ei Nain.

“Ond yn y broses yma, rydan ni’n amlwg wedi penderfynu bo fi’n canu, a dw i’n meddwl bod hynna’n eitha’ symbolaidd,” meddai’r gantores.

“Achos fod Taid ddim yma ddim mwy, mae Nain yn cael ei gadael ar ei phen ei hun rŵan ac yn gorfod edrych ar luniau i gofio am Taid.”

Ar y noson, bu Sara Davies yn canu’r piano, gyda lluniau ei Nain a’i Thaid ar y sgrîn fawr y tu ôl iddi, a’i Nain yn eistedd o’i blaen hi yn y gynulleidfa.

“Mae hon yn gân fedrith hi wrando arni i feddwl am Taid rŵan,” meddai. “Mae’n eitha’ trist rili.”

“Dw i’n methu Taid bob dydd, a phawb dw i wedi’u colli yn y teulu, ac mae’r gân hon yn ffordd o feddwl amdanyn nhw i gyd.”

Emosiynol

Roedd perfformiad Sara Davies ar y noson yn emosiynol iawn, gyda’r dorf ar eu traed pan ddychwelodd hi i’r llwyfan ac yn iasol o dawel wrth iddi ganu’r eildro yn dilyn ei buddugoliaeth.

A daeth ymateb emosiynol gan y cyflwynydd Trystan Ellis-Morris hefyd o’r llwyfan.

“Roedd Trystan [Ellis-Morris] yn dweud bod o wedi colli aelodau o’r teulu’n ddiweddar iawn, ac mae pethau’n gwneud i ti feddwl am y person,” meddai’r enillydd wedyn.

“Roedd Taid efo fi heno, achos dyma oedd ei eiriau fo.

“Roeddwn i’n gwisgo ychydig o bethau mae o wedi’u rhoi i fi [gan gynnwys darn o bapur â geiriau’r gân .arno], ond roedd rhan ohono fe efo fi heno, 100%.

“Dw i ddim yn berson sy’n meddwl am ghosts a stwff fel yna, ond dw i’n meddwl bod neges a theimlad y gân, achos bod o mor bwerus i ni, yn taro pobol eraill hefyd wedyn achos bod o mor genuine.

“Mae pobol yn gallu uniaethu â’r gân yn eu ffyrdd eu hunain, ond i fi mae’r gân yn taro sbot emosiynol, a dw i jyst wedi gorfod meddwl am bethau eraill tra bo fi’n canu’r gân ac yn meddwl am y gân.”

‘Roedd angen iddi ddod ’nôl allan’

Ers iddi ysgrifennu’r gân tua dwy flynedd yn ôl, mae Sara Davies yn cyfaddef nad yw hi wedi ei chanu hi ryw lawer am ei bod hi mor emosiynol.

“Roedd o jyst yn eistedd yn ffôn fi, yn y pethau oeddwn i wedi’u recordio,” meddai.

“Mae’n rywbeth dw i’n canu weithiau pan dw i’n mynd i gigs a ballu, ond achos bod o mor emosiynol, dw i heb fod yn ei gwneud hi lot, felly roeddwn i jyst yn teimlo bod angen iddi ddod ’nôl allan, a defnyddio’r gân.

“Fel mae pobol wedi gweld heno, mae’r neges tu ôl i’r gân jyst mor bwerus, yn enwedig achos bod Taid wedi marw, a’r ffaith bo fi’n gallu cadw ei eiriau fo’n fyw a bod Nain yma i’w chlywed hi.

“Mae lot o bobol yn nabod Taid, ac mae lot o bobol yn gwybod faint oedd o’n caru sioeau fel yma ac yn mwynhau sgwennu geiriau.

“Dw i’n teimlo bo fi wedi gallu rhoi rhywbeth yn ôl iddo fo, ac mae o wedi ennill hefo fi heddiw.

“Mae o jyst yn amazing, a dw i’n methu coelio’r peth.”

Ffawd

Yn ôl Sara Davies, does dim syndod ar un ystyr fod ‘Ti’ wedi cyrraedd llwyfan Cân i Gymru.

“Roeddwn i’n edrych ar y geiriau y diwrnod o’r blaen, i gael cofio’n ôl i’r broses pan oeddwn i’n ei sgwennu hi ddwy flynedd yn ôl,” meddai.

“Doeddwn i ddim yn cofio’r daflen yma, ond roedd Dad yn holi fi, ‘Checia’r teitl i weld beth wnaeth Taid roi’, ac roedd o’n dweud ar y top, ‘Cân bop e.e. fel Cân i Gymru‘.

“Roeddwn i fatha, ‘Mae hwn yn spooky‘.

“O edrych yn ôl ar hwn, roedd o’n meant to be.”