Primum Non Nocere

(Yn gyntaf, gwnewch ddim niwed) 

Mae’r wireb hon yn ganolog i feddygaeth fodern, gydag ymchwil yn dangos iddi fod yn boblogaidd ers o leiaf 1860. Mae’n gyfyng fel arweiniad moesegol yn y maes, ond mae’n parhau i’n hatgoffa fod pob penderfyniad meddygol â’r potensial am niwed.

Cafodd y wireb ei defnyddio yn y teitl i adolygiad diogelwch meddyginiaeth a dyfeisiau meddygol yn 2020. Pwrpas yr adroddiad oedd archwilio sut mae’r system gofal iechyd yn ymateb i adroddiadau am sgil effeithiau niweidiol meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol ac i ystyried sut y gellid gwella hyn yn y dyfodol.

Dan arweinyddiaeth Baroness Cumberledge, roedd archwiliad o brofion beichiogrwydd oedd yn seiliedig ar hormonau – megis Primodos, mewnblaniadau rhwyll pelfig, a Sodium Valproate, sef meddyginiaeth gwrth-epilepsi, sy’n effeithiol iawn ond sy’n achosi niwed ‘teratogenig’ i embryonau yn y groth os yw eu mamau yn ei chymryd tra maen nhw’n feichiog.

Mae’r niwed teratogenig posib yn cynnwys anhwylderau niwroddatblygiadol sy’n dylanwadu ar sut mae’r ymennydd yn gweithredu, ac yn newid datblygiad niwrolegol.

Ar Chwefror 7, daeth ail adroddiad cysylltiedig, Yr Adroddiad Hughes, a hwnnw’n archwilio opsiynau i wneud yn iawn am y rhai gafodd eu niweidio gan rwyll pelfig a Sodium valproate – yn benodol niwed teratogenig yn achos yr olaf.

A minnau hefo diddordeb personol yn y feddyginiaeth a’i heffeithiau ac wrthi ar y pryd yn chwilio am ysbrydoliaeth i’m cerddi i’r Talwrn y tro hwn (ar allweddair perthnasol iawn), es ati i ddarllen ymhellach ac i synfyfyrio’n greadigol wrth ymateb.

Sgîl-effeithiau a niwed iatrogenig posib

Tra bod archwiliadau’r Farwnes (Julia) Cumberledge a Dr Henrietta Hughes yn canolbwyntio ar niwed teratogenig sodium valproate yng nghyd-destun beichiogrwydd, mae yna dystiolaeth tu hwnt i hyn am niwed iatrogenig. Ymysg pethau eraill, mae hyn yn cynnwys:

Nawr ‘te. Diweddar iawn yw’r ymchwil i hyn oll, a does dim modd gwybod yn sicr pa effaith gafodd sodium valproate arnaf i fel unigolyn, wrth i mi ei gymryd ’nôl yn yr ’80au. A phwysig yw nodi hefyd, ac atgoffa fy hun yn gyson, fy mod wedi bod yn hynod o fach fel baban cyn i mi ei gymryd – yn llai na’r babanod newydd eu geni wrth i mi adael yr ysbyty.

Ond gyda’r caveat hynny yn ei le, cymerais i sodium valproate rhwng 1981 ac 1985, a minnau rhwng dwy a chwech oed.

Mae fy atgofion o fod yn yr ysgol fel synfyfyrio ar hunllef erchyll – mae’n ddryswch o bryder, methu deall y gwaith na’r hyn oedd yn mynd ymlaen o’m cwmpas, methu dal pensil heb anafu fy mys, bod yn llai na phawb arall, ac yn wan a methu darllen na sgwennu… a chael fy hel am fy nghinio cyn pawb arall, nid oherwydd fy mod i wedi bod yn hogan dda, ond oherwydd mi oedd hi’n cymryd mor hir i fwyta un o’m brechdanau bach jam heb y crwst!

Ond wedi i mi ddarfod y feddyginiaeth, daeth rhyw deimlad cwbl ddieithr i mi – chwant bwyd! Bwytais, tyfais, rhedais, nofiais (yn well na bron neb arall yn yr ardal!) ac, er bod fy ngwaith academaidd dal yn sâl uffernol, roeddwn yn edrych yn weddol ‘normal’.

Anghyffyrddus iawn yw’r math yma o hel meddyliau – maen nhw’n peri’r cwestiwn ‘Beth pe bai…?’ Ond, fel unrhyw fardd werth ei halen, defnyddiais gyhoeddiad yr adroddiad hwn i ysgogi cerddi telynegol i’r Talwrn.

Telyneg i’r Talwrn

A minnau wedi bod yn talu sylw i sylwadau’r Meuryn, wyddwn fod yn syniad da ceisio bod yn ‘drosiadol’ ac hefyd i gadw at un trosiad, yn hytrach na’u cymysgu nhw. Sgwennais un gerdd oedd wedi’i stwffio â throsiadau Groegaidd (wedi ei hysbrydoli gan y syniad o Iatrogenesis) – ond roedd angen ysgrif o nodiadau i’w egluro i’r darllenydd!

Yna, daeth hen ffilm i’m meddwl – The Butterfly effect. Nod y ffilm yw cyfleu damcaniaeth yr effaith pili pala (o fewn damcaniaeth anhrefn), fod weithred bach yn medru arwain at effaith fawr.

Defnyddiodd y mathemategydd a meteorolegydd, Edward Norton Lorenz, y trosiad o guriad adenydd pili pala yn achosi dirgryniad ac yna’n arwain at gorwynt er mwyn esbonio’r syniad. Gyda llaw, doniol oedd darllen iddo’n wreiddiol ddefnyddio’r trosiad o wylan, ond cafodd ei berswadio i newid hyn i bili pala gan ei fod yn fwy barddonol!

Wrth bori’r we, gwelais fod y darluniau o’r ‘pili pala’ yn aml yn borffor – fel y feddyginiaeth roeddwn yn ei chymryd; wel, am berffaith! Synfyfyriais am y corwynt seicodelig wnaeth fy nghipio wrth i mi gymryd un bilsen fach, a sut gafodd fy holl fywyd ei siapio gan law yr iatros – meddygon.

Yn y trydydd pennill, rwy’n gwneud sylwadau am yr anhrefn ddaeth yn sgil trawiadau a/neu feddyginiaeth (efallai) – fy mod yn methu dilyn, deall na dysgu patrymau – yr hyn sydd wrth wraidd fy anallu i ddysgu treigladau neu fformiwla o unrhyw fath… hyd yn oed sut i weithio canran allan hefo cyfrifiannell!

Ond yna daw’r paradocs…

Niwrowahaniaeth

Heb fwgan y salwch a’i driniaeth, mae’n debyg y byddwn wedi bod yn berson tra gwahanol. Sgwn i a fyddwn yn ymddiddori mewn barddoniaeth, neu sgwennu o unrhyw fath? Fyswn i wrthi’r funud hon yn sgwennu colofn i’ch difyrru? Yn sicr, byswn yn llai tebygol o fynd â thriongl i mewn i’r Talwrn hefo fi, i’w daro i gyd-fynd a’m cerdd…

Wedi’r Talwrn, des yn ôl o Ddolgellau ac yn syth i lawr i Gaerdydd, lle roeddwn yn rhoi cyflwyniad mewn digwyddiad gyda Disability Arts Cymru (DAC) am y prosiect ‘Creativity is Mistakes’ – efallai y byddwn wedi gwneud hyn heb y pili pala, oherwydd mae gen i Syndrom Waardenburg Math 1, sy’n gyflwr genynnol, ond efallai y byddwn wedi ei gyflwyno mewn ffordd wahanol iawn.

Yna, yn y pnawn, fel rhan o weithdy creadigol DAC, wnes i bortread o fy ngherdd newydd, hefo’r bilsen borffor a’r pili pala, wedi ei gyfleu mewn pastel olew, a fy nwylo fel rhai smurf, yn las i gyd! Nid gwaith celf o ddifri oedd hyn, ond cynyrch gweithgareddau. Ond mi roedd yn drawiadol ac yn arwyddocaol o’m gwaith a’m meddylfryd.

Rwy’ wedi treulio cryn dipyn o amser yn meddwl sut y byddwn yn ymyrryd â’r pili pala porffor ym mywyd Sara-bach taswn yn medru gwneud hynny, à la blacowts Evan Treborn yn y ffilm. Ond y paradocs yw, er gwaethaf fy ngwendidau ac anableddau, mae yna ormod o bethau y gallwn eu colli heb guriad tyngedfennol yr adenydd hynny.

Ac i gloi, efallai ei fod yn baradocs fy mod wedi ei sgwennu yn y Gymraeg ar gyfer y Talwrn, a’r ddau beth braidd yn amhriodol i fy math innau o synfyfyrio. Ac eto, Y Talwrn ysgogodd y gerdd. Fedra i ddim cyfieithu’r gerdd i’r Saesneg oherwydd ystyr deuol y gair trawiad!

Caiff fy ngherdd ei darlledu ar y Talwrn ddydd Sul, Mawrth 3.