Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi bod yn rhoi tystiolaeth i ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig unwaith eto heddiw (dydd Iau, Chwefror 29).

Ymysg y rhai eraill fu’n rhoi tystiolaeth heddiw mae’r Athro Dan Wincott, arbenigwr Llywodraeth Cymru ar wneud penderfyniadau, eu pennaeth gwyddoniaeth Dr Robert Hoyle, a’r Athro Syr Ian Diamond, Prif Weithredwr Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig.

Fe wnaeth yr Athro Dan Wincott gyhuddo’r ddwy lywodraeth o geisio gwthio’r bai ar ei gilydd pan ddaeth i’w hymateb i’r pandemig.

Dywedodd fod Llywodraeth Cymru “wedi’u cyfyngu’n arbennig gan natur y setliad datganoli a’r ymylon prin hynny a’u perthynas â Llywodraeth y Deyrnas Unedig”.

Arweiniodd hyn at ddatgelu nad oedd Mark Drakeford yn ymwybodol mai Llywodraeth Cymru fyddai’n gyfrifol am arwain yr ymateb yng Nghymru tan dri diwrnod cyn i Boris Johnson gyhoeddi cyfnod clo ar Fawrth 23, 2020.

Roedd hyn oherwydd fod Boris Johnson wedi defnyddio pwerau iechyd cyhoeddus i alw am gyfnod glo, yn hytrach nag argyfyngau sifil.

Ychwanegodd fod Mark Drakeford yn cytuno â hyn, ond mae Boris Johnson eisoes wedi awgrymu efallai y dylai fod wedi defnyddio deddfwriaeth argyfyngau sifil, oherwydd byddai wedi galluogi i’r Deyrnas Unedig gydweithio’n well â’r llywodraethau datganoledig.

Marwolaethau yn y cartref

Yn ystod y prynhawn, cafodd ystadegau marwolaeth yn ystod y pandemig eu trafod.

Lloegr oedd â’r nifer fwyaf o farwolaethau disgwyliedig gormodol hyd at Chwefror 2022, ond yn ystod yr ail don roedd mwy o farwolaethau Covid-19 yng Nghymru nag yn unrhyw wlad arall yn y Deyrnas Unedig, yn ôl yr Athro Syr Ian Diamond.

Cafodd marwolaethau mewn cartrefi gofal eu codi eto, wedi i Gomisiynydd Pobol Hŷn Cymru roi tystiolaeth ar y pwnc ddoe (dydd Mercher, Chwefror 28).

Cafodd 1,729 o gleifion ysbyty eu rhyddhau i gartrefi gofal rhwng dechrau mis Mawrth 2020 a diwedd y mis Mai canlynol, yn ôl Stephanie Howarth, Prif Ystadegydd Cymru.

Dywedodd fod 792 o gleifion wedi’u rhyddhau heb brawf Covid-19 fis Mawrth.

Yn ogystal, dywedodd Syr Ian Diamond ei bod yn debygol fod lleihad bychan wedi bod yn nifer y marwolaethau yn yr ysbyty, oherwydd bod y pwysau oedd ar y Gwasanaeth Iechyd yn golygu bod llai o bobol yn mynd i’r ysbyty â sawl math o salwch.

Cyfnod clo cynharach?

Dywedodd Dr Robert Hoyle, Pennaeth Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru, ei fod yn credu y gallai’r cyfnod clo fod wedi dod o leiaf wythnos ynghynt, os nad pythefnos.

Ychwanegodd nad oedd pob Uwch Wyddonydd o fewn y Llywodraeth yn trin Covid-19 â’r un brys.

Ond er ei fod yn credu y byddai cyfnod clo cynharach wedi lleihau marwolaethau’r don gyntaf ac wedi gostwng y brig, dywedodd nad yw’n bendant y byddai wedi newid y canlyniad o ran marwolaethau yn y tymor hir.