Mae dynes gafodd ddiagnosis o awtistiaeth yn 35 mlwydd oed wedi creu grŵp gerllaw meddwl.org er mwyn i fenywod niwrowahanol gael rhannu eu profiadau a gofyn am gyngor.
Bellach yn 36 mlwydd oed, dechreuodd Vicky Glanville ymchwilio i nodweddion awtistiaeth ymhlith menywod ar ôl cwrdd â theulu â dau o blant awtistig, a gweld bod llawer o bethau’n debyg rhwng y plant a hithau.
Ar ôl ymchwilio, creodd hi restr o nodweddion awtistig roedd hi’n uniaethu â nhw, ac aeth hi at ei meddyg teulu a dweud ei bod hi’n credu bod stereoteipiau o amgylch awtistiaeth wedi achosi camsyniadau.
“Mae lot o bobol yn meddwl eu bod nhw’n gwybod beth yw awtistiaeth, ond mae’n ymddangos yn wahanol mewn rhai pobol,” meddai wrth golwg360.
“Dw i’n credu mai’r broblem yw fod y stereoteip yn ymddangos fel pobol sydd ddim yn siarad ag sydd gydag anghenion dysgu ac yn y blaen.”
Dywed fod menywod awtistig yn benodol yn dueddol o guddio’u nodweddion niwrowahanol er mwyn cydymffurfio ag eraill.
Mae’r Gymdeithas Genedlaethol Awtistig yn amcangyfrif fod tri dyn i bob menyw â diagnosis o awtistiaeth yn y Deyrnas Unedig.
Gall gymryd hyd at chwe blynedd yn fwy i fenywod gael diagnosis o awtistiaeth o gymharu â dynion, yn ôl Prifysgol Abertawe, tra bod menywod hefyd yn fwy tebygol o gael camddiagnosis, gan fod eu nodweddion yn gallu ymddangos yn wahanol i ddynion.
‘Teimlad rili unig’
Mae Vicky Glanville yn disgrifio’r broses o gael diagnosis fel un hir, ond dywed ei bod hi’n ffodus o gael ei symud i fyny ar y rhestr aros wedi iddi sôn ei bod hi’n cael trafferth yn ei gweithle.
Cafodd hi wybod o fewn dwy neu dair wythnos ar ôl llenwi’r ffurflen ddiagnosis ei bod hi’n cael mynd ar y rhestr aros.
Flwyddyn yn ddiweddarach, fis Chwefror 2023, derbyniodd hi alwad yn cadarnhau ei bod hi’n awtistig.
“Mae’r rhestr yn un hirfaith gyda blynyddoedd o aros, felly roeddwn i’n eithaf lwcus mewn ffordd,” meddai.
Roedd hi’n teimlo “llond lle o emosiynau” ar ôl derbyn y cadarnhad, meddai.
“Roedd o’n deimlad rili unig achos yn fenyw 35 oed oeddwn i jyst yn teimlo bron bod bywyd wedi troi ar ei union.
“Roeddwn i’n cwestiynu pwy oeddwn i ac oedd yna lot o bethau’n mynd trwy’r meddwl.
“Roeddwn i’n grac fy mod i wedi gorfod aros mor hir cyn dysgu pwy oeddwn i, ac roeddwn i’n grac fod yna neb arall wedi sylweddoli cyn hynny.
“Ond ar yr un pryd, roeddwn i’n hapus ac yn falch oherwydd roedd o’n helpu fi i dderbyn pwy oeddwn i er mwyn gallu symud ymlaen.”
‘Dim lot o help ma’s yna’
Aeth chwe mis heibio wedi’r galwad ffôn yn cadarnhau ei hawtistiaeth cyn iddi allu cwrdd i gael adroddiad am ei diagnosis a darganfod pa gymorth oedd ar gael.
“Y realiti oedd fod yna ddim lot o help ar gael ma’s yna,” meddai.
“Roedd y diffyg cymorth yn rili anodd achos, ar y pryd, doeddwn i ddim yn adnabod neb arall oedd yn niwrowahanol.”
Er bod ganddi ffrindiau cefnogol o’i chwmpas, dywed nad oedd yn cymharu â gallu rhannu ei theimladau â rhywun oedd wedi profi’r un peth.
Felly, penderfynodd hi gysylltu â’r wefan iechyd meddwl meddwl.org er mwyn gweld a oedd unrhyw grwpiau cymorth ar gael ar gyfer menywod Cymraeg niwrowahanol.
Gyda chymorth meddwl.org, mae hi wedi sefydlu grŵp Facebook yn ddiweddar, ar ôl canfod nad oedd grŵp o’r fath yn bodoli, er mwyn ceisio darganfod fwy o fenywod oedd wedi cael diagnosis yng Nghymru.
Mae’r grŵp yn agored i fenywod a phobol anneuaidd sydd wedi cael diagnosis, neu sydd ar y daith i gael diagnosis awtistiaeth – gan gynnwys hunanddiagnosis – i rannu profiadau ac adnoddau.
“Dw i wedi dod i adnabod cwpl o bobol o fewn y grŵp erbyn hyn,” meddai.
“Ddw i’n gobeithio bydd y grŵp yma’n le saff lle mae unigolion yn teimlo eu bod nhw’n gallu gofyn cwestiynau a thrafod, fel bod pobol yn teimlo’n fwy hyderus am bwy ydyn nhw,” meddai.