Mae Cyngor Gwynedd wedi erlyn dau gyfarwyddwr maes carafanau yn Nhalybont ger y Bermo yn llwyddiannus, ar ôl i weithiwr ddioddef anafiadau difrifol i’w law.

Maen nhw wedi cael gorchymyn i dalu mwy na £160,000 rhyngddyn nhw.

Digwyddodd y ddamwain fis Mai 2020, ar barc carfannau oedd o dan berchnogaeth Sunnysands Caravan Park Limited.

Roedd y gweithiwr gafodd ei anafu’n defnyddio llif fwrdd heb ei warchod pan ddaeth ei law chwith i gyswllt â’r llif, yn ôl ymchwiliad gan Wasanaeth Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Gwynedd.

Cafodd ei gludo mewn ambiwlans i’r ysbyty, ac mae wedi cael sawl triniaeth arbenigol mewn ymdrech i adennill defnydd llawn o’i law.

Yn ystod yr achos llys, rhoddodd swyddogion Cyngor Gwynedd dystiolaeth gan ddweud bod nifer o ddiffygion gyda’r llif fwrdd, oedd heb dderbyn asesiad risg digonol.

Offer mewn “cyflwr peryglus”

Clywodd yr achos fod dau gyfarwyddwr, Christopher Mead a Jeremy Mead, wedi bod yn esgeulus wrth ganiatáu’r defnydd o offer oedd mewn cyflwr peryglus.

Plediodd y ddau yn euog i dorri rhan 2 o’r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle, ac fe gawson nhw ddirwy o £75,000 yr un yn ogystal â gorfod talu costau cyfreithiol.

“Roedd y ddamwain yma yn un amlwg ac yn un y medr fod wedi ei hatal rhag digwydd. Roedd bosib rheoli’r sefyllfa drwy gymryd mesurau rhad , fel amnewid yr offer diffygiol neu osod gwarchodwr dros y llif,” meddai cynrychiolydd cyfreithiol y Cyngor.

Mae’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Adran yr Amgylchedd Cyngor Gwynedd, yn dweud bod ei feddyliau gyda’r gweithiwr a gafodd ei anafu.

“Mae’n frawychus meddwl faint gwaeth y gallai’r digwyddiad fod wedi bod a byddai’n hawdd osgoi’r digwyddiad cyfan – a’i ganlyniadau – pe bai mesurau diogelu sylfaenol wedi’u rhoi ar waith,” meddai.

“Dyma’r ail erlyniad yn ymwneud â defnyddio llifiau bwrdd peryglus i Gyngor Gwynedd ei gymryd dros y blynyddoedd diwethaf. Dylai pob cyflogwr sicrhau ei fod yn asesu ac yn defnyddio mesurau rheoli effeithiol yn briodol i leihau’r risg o ddefnyddio peiriannau yn eu gweithleoedd.

“Rydym yn ddiolchgar i’r Llysoedd am eu gwaith ac rydym yn gobeithio y bydd y ddirwy sylweddol hon yn anfon neges glir i gyflogwyr eraill bod amddiffyn yr union bobol sy’n gweithio ac yn ymweld â’ch eiddo o’r pwys mwyaf.”