Ar drothwy Dydd Gŵyl Dewi, mae Comisiynydd Heddlu’r Gogledd wedi ymrwymo i’r Gymraeg ac yn cydnabod ei rôl a’i gwerth mewn plismona cymunedol.

Yn ôl Andy Dunbobbin, mae’r Gymraeg yn “arwyddocaol ledled Cymru”, wrth i Gymru “ddathlu hunaniaeth, diwylliant, treftadaeth a thraddodiadau”.

Dywed fod Dydd Gŵyl Dewi yn ein hatgoffa o “hunaniaeth ddiwylliannol unigryw Cymru” ac yn “cryfhau ymdeimlad o falchder ac undod ymhlith ei phobol, yng ngogledd Cymru a ledled y wlad”.

Safonau’r Gymraeg

Fel pob corff cyhoeddus, mae disgwyl i Swyddfeydd Comisiynwyr Heddlu a Throsedd Cymru gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg sy’n cael eu gweithredu gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Mae dyletswydd arnyn nhw hefyd i sicrhau y gall y cyhoedd gael mynediad at wasanaethau yn eu dewis iaith.

Mae’r Safonau wedi’u rhannu’n gategorïau gwahanol, sef Cyflenwi Gwasanaethau, Llunio polisi, Gweithredu, Hybu, a Chadw Cofnodion.

Maen nhw’n trafod tasgau amrywiol, o drefnu cyfarfodydd i ateb galwadau ffôn, datblygu diwylliant dwyieithog sefydliadau, adnoddau dynol a chreu polisïau newydd.

Dywed Andy Dunbobbin fod y Comisiynwyr Heddlu’n ceisio sicrhau dwyieithrwydd wrth gyfathrebu â’r cyhoedd drwy’r cyfryngau cymdeithasol, gwefannau a newyddion lleol.

Mae swyddfa Andy Dunbobbin yn darparu gwasanaethau allwedol i ddioddefwyr, gan gynnwys cwnsela, cyngor cyfreithiol, a chymorth wrth ymdrin â’r system gyfiawnder.

Mae’r staff sy’n ymdrin â’r meysydd hyn yn medru’r Gymraeg ac yn deall y diwylliant Cymraeg, ac mae gwasanaethau fel Gorwel, DASU a RASASC yn cyflogi staff Cymraeg eu hiaith er mwyn cynnal sesiynau a chyhoeddi deunydd yn y Gymraeg.

Mae’r Comisiynydd yn pwysleisio bod y defnydd o’r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau’n ymbweru dioddefwyr.

Ymrwymiad personol i’r Gymraeg

Ers ei benodi’n Gomisiynydd Heddlu’r Gogledd yn 2021, mae Andy Dunbobbin wedi bod yn dysgu Cymraeg.

Dywed ei fod yn awyddus i ymarfer yr hyn mae wedi’i ddysgu hyd yn hyn, gan ymuno â digwyddiadau cymunedol a diwylliannol pan fo hynny’n bosib, yn enwedig pan fo lle canolog i’r Gymraeg, megis yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd, yn ogystal â sioeau sirol megis Sioeau Môn a Meirionnydd.

“Wrth i ni ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, ein diwrnod cenedlaethol sy’n anrhydeddu nawddsant Cymru, rydym hefyd yn myfyrio ar bwysigrwydd y Gymraeg a’r diwylliant i bawb ohonom,” meddai Andy Dunbobbin.

“Ers cael fy ethol yn 2021, dw i wedi cefnogi’r egwyddor fod yn rhaid i mi a fy swyddfa drin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod nhw’n gyfartal, ac mae pob siaradwyr Cymraeg yng ngogledd Cymru’n haeddu derbyn gwasnaethau plismona o safon uchel yn eu hiaith gyntaf.

“Dw i’n parhau i gydnabod pwysigrwydd a gwerth y Gymraeg, ac yn cymryd fy ymrwymiadau o dan Safonau’r Gymraeg yn ddifrifol iawn.

“Mae’r Gymraeg a’r diwylliant yn bwysig i mi, a dw i’n eithriadol o falch o’m hunaniaeth a gwreiddiau Cymraeg.

“O gofio hynny, dw i a fy nhîm o hyd yn chwilio am ffyrdd o wella’r gwasanaethau dwyieithog rydyn ni’n eu cynnig.”